skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Elin Walker Jones

Penderfyniad:

Derbynwyd cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y sir.

 

Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Plant a Theuluoedd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i baratoi a chyflwyno achosion busnes i’r Llywodraeth ar gyfer grantiau unigol Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar a derbyn cynigion ar ran y Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan yn absenoldeb Cyng. Elin Walker Jones.   

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y Sir.

 

Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Plant a Theuluoedd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i baratoi a chyflwyno achosion busnes i’r Llywodraeth ar gyfer grantiau unigol Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar a derbyn cynigion ar ran y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau fod Dechrau’n Deg yn ran o Raglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Manylwyd bod y rhaglen yn darparu gofal plant o ansawdd uchel i deuluoedd â plant o dan 4 oed. Adroddwyd bod Dechrau’n Deg yn ehangu ar y ddarpariaeth hyn i bob plentyn 2 oed yn Nghymru, am ddim,  drwy gydweithio mewn cytundeb â Phlaid Cymru a Phlaid Llafur Cymru.

 

Eglurwyd byddai’r Rhaglen yn cael ei ehangu yn raddol gydag uchelgais o gynnig darpariaeth gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed yn y dyfodol. Nodwyd bod yr ehangiad hwn yn cyflwyno darpariaeth i oddeutu 150 o blant yn ychwanegol i’r ddarpariaeth bresennol.

 

Cadarnhawyd bod 10 ardal o fewn y sir wedi cael eu hadnabod fel ardaloedd ble dylai’r ddarpariaeth gael ei flaenoriaethu fel rhan o’r ehangiad er mwyn targedau’r cymunedau sydd â’r gyfran tlodi plant uchaf yn y sir. Manylwyd bod yr ardaloedd hyn wedi cael eu hadnabod fel:

·       Hendre (Bangor)

·       Penygroes

·       De Pwllheli

·       Abermaw 2

·       Hirael a Garth 2 (Bangor)

·       Porthmadog – Tremadog

·       Bala

·       Teigl (Blaenau Ffestiniog)

·       Seiont 1 (Caernarfon)

·       Dewi (Bangor)

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau rhaglen gyfalaf fel rhan o’r cytundeb cydweithio, ar gyfer cynorthwyo i fuddsoddi mewn lleoliadau gofal plant a sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel iawn. Nodwyd y bwriad i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar geisiadau cyfalaf unigol i dderbyn £4miliwn ychwanegol i’r maes yng Ngwynedd yn y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾   Trafodwyd bod yr ehangiad hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ac byddai’n gymorth allweddol i blant sydd wedi cael eu effeithio’n anghymesur gan Pandemig Covid-19.

¾   Ystyriwyd bod buddion pellgyrhaeddol i’r ehangiad hwn oherwydd byddai mwy o rieni yn gallu dychwelyd i’r gwaith gan nad oedd rhaid ystyried costau gofal plant.

¾   Rhannwyd balchder bod cydweithio parhaus rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn galluogi awdurdodau lleol i leddfu gofidion tlodi ein ardaloedd drwy’r cynigion gofal plant am ddim, yn ogystal â’r gwasanaeth cinio am ddim mewn ysgolion.

¾   Mynegwyd cefnogaeth i’r ehangiad hwn a thrafodwyd byddai’n ddelfrydol i’r ehangiad yma barhau’n hirdymor. Ystyriwyd bod y Cyngor wedi wynebu trafferthion recriwtio yn y ddiweddar a thrafodwyd sut byddai Dechrau’n Deg yn ymdopi â’r angen i recriwtio mwy o staff er mwyn sicrhau bod yr ehangiad hwn yn weithredol yn hirdymor.

¾   Mewn ymateb i’r sylw uchod, cydnabuwyd bod y sefyllfa staffio yn heriol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd ymgyrch ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod modd recriwtio yn y maes gofal plant. Ymhelaethwyd bod buddsoddiad yn cael ei wneud gan y Llywodraeth i uwchraddio sgiliau a datblygu cymwysterau staff.

¾   Trafodwyd ymhellach bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ystyried a oedd modd cyfuno swyddi gofal plant â chymorthyddion dosbarth. Y gobaith oedd i’r swyddi fod yn fwy deniadol i ymgeiswyr gan i’r oriau fod yn llawnach a chytundebau hirach. Cadarnhawyd byddai hyn yn cael ei ystyried yn ffurfiol gan Gyngor Gwynedd pe byddai canfyddiad ei fod yn bosibl, ac yn cael ei gyflwyno fel peilot llwyddiannus.

 

Awdur:Marian Parry Hughes,Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a Catrin Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd

Dogfennau ategol: