Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

      i.         Penderfynwyd byddai’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor.

     ii.         Cymeradwywyd yr argymhelliad o gyflwyno’r asesiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.      

 

PENDERFYNIAD

 

               i.         Penderfynwyd y byddai’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor.

              ii.         Cymeradwywyd yr argymhelliad o gyflwyno’r asesiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd bod yr asesiad hwn o anghenion poblogaeth oedolion Gwynedd yn rhoi darlun lleol o ofynion Gwynedd yn hytrach na’r Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a gymeradwywyd gan Gyngor Gwynedd ar 3 Mawrth 2022.

 

Eglurwyd nad oedd Asesiad Anghenion Poblogaeth Oedolion Gwynedd yn ofyniad statudol ond yn asesiad defnyddiol a phwysig er mwyn galluogi’r Cyngor i gynllunio, blaenoriaethu a datblygu gwasanaethau newydd.

 

Nodwyd bod y ddogfen yn nodi canran tebygol o bobl fyddai’n  dioddef o Dementia rhwng 2020-2040 yn cael ei nodi oddi fewn Graff 12 fel 34%. Roedd y ffigwr hwn, mewn gwirionedd, yn 53% ac ymddiheurwyd am y gwall hwn o fewn y ddogfen, gan gadarnhau y byddai’n cael ei gywiro mor fuan â phosibl.

 

Cadarnhawyd bod yr asesiad yn rhoi sylw i’r themâu a grwpiau isod ac yn rhoi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg:

 

·       Pobl Hŷn

·       Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau

·       Anabledd Dysgu

·       Awtistiaeth

·       Iechyd Meddwl

·       Gofalwyr

·       Trais yn erbyn merched, trais yn y cartref a thrais rhywiol

 

Manylwyd bod yr asesiad yn manylu ar themâu penodol a ystyriwyd yn flaenoriaethau yng nghynllun y Cyngor. Roedd y  rhain wedi cael eu hadnabod fel a ganlyn:

 

·       Gwella llesiant unigolion.

·       Gwella ar y gefnogaeth i ofalwyr di-dâl.

·       Sicrhau gofal cwsmer o safon.

·       Diffyg mewn rhai mathau o  leoliadau.

·       Recriwtio staff yn broblem enfawr ar draws y sector gofal.

·       Cysoni data a gedwir ar systemau.

·       Buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Diolchwyd i swyddogion yr adran am eu gwaith caled a chynhwysfawr wrth baratoi’r asesiad.

¾   Ystyriwyd a fyddai’n  debygol  y byddai bwlch yn ymddangos rhwng gallu’r Cyngor i ddarparu gofal i oedolion, a’r niferoedd o unigolion byddai angen ein gofal, o ystyried  bod ffigyrau rhai cyflyrau megis Dementia yn cynyddu a ffigyrau’r boblogaeth yn gyffredinol yn gostwng.

¾   Mewn ymateb i’r sylw uchod, cadarnhawyd bod swyddogion yn cydweithio’n agos gyda tîm ymchwil er mwyn sicrhau bod ystadegau manwl a chywir yn cael eu datblygu’n barhaus. Manylwyd byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i gynllunio yn effeithlon i’r dyfodol. Pwysleisiwyd hefyd bod sefyllfaoedd argyfyngus yn ymddangos yn bresennol drwy ymgeisio am leoliadau gofal, costau cyflogau a chynnydd mewn costau nwyddau.

¾   Gofynnwyd sut oedd gwaith anghenion poblogaeth Gogledd Cymru, prosiect ar y cyd gyda Sir Fôn yn sgil Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a phrosiectau unigol Cyngor Gwynedd yn cael ei blethu gyda’i gilydd a bod dim gwaith yn cael ei ddyblygu.

¾   Mewn ymateb i’r cwestiwn uchod, atgoffwyd nad oedd yr asesiad yma ar gyfer Wynedd yn ofyniad statudol, yn annhebyg i Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru. Ymhelaethwyd y credwyd bod asesiad Gwynedd yn hollbwysig er mwyn derbyn gwybodaeth am heriau penodol i’r Sir a pha wahaniaethau sy’n ymddangos o fewn ardaloedd gwahanol ohono er mwyn creu cynlluniau effeithlon i’r dyfodol.

¾   Cadarnhawyd y byddai swyddogion yn cadw’r asesiad hon yn fyw er mwyn diweddaru’r ffigyrau’n barhaus, gan sicrhau bod data cywir ar gael ar unrhyw adeg oherwydd bod yr asesiad rhanbarthol dim ond yn cael ei ddiweddaru pob 4 mlynedd.

¾   Rhoddwyd ystyriaeth i wahaniaethau mewn cyfnodau aros am ofal cartref gan fod unigolion oedd yn byw yn Eifionydd yn aros bron 3 gwaith yn hwy nag unigolion yn ardal Caernarfon am ofal cartref. Manylwyd bod natur fwy gwledig Eifionydd yn cyfrannu at yr ystadegyn yma ond bod y sefyllfa wedi gwella dros y misoedd diwethaf.

¾   Ymhellach i’r sylw uchod, nodwyd bod y Cyngor yn cael trafferth i ddarparu tua 15% o anghenion gofal cartref ar hyn o bryd. Adroddwyd  bod Cynllun y Cyngor yn dangos bwriad o ddarparu cefnogaeth i unigolion mewn amrywiol ffyrdd, megis datblygiadau technolegol a gwelyau robotaidd, er mwyn lleihau’r galw am ofal cartref.

¾   Cadarnhawyd y byddai angen manteisio ar ddatblygiadau technolegol yn y dyfodol, yn ogystal â chynnal trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn dysgu o lwyddiannau ac arferion da ardaloedd eraill a’u ymgorffori yn narpariaeth gofal cartref yng Ngwynedd.

¾   Nodwyd bod yr asesiad wedi cael ei wneud ar y cyd gyda swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a diolchwyd iddynt am eu parodrwydd i gydweithio.

Awdur:Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant

Dogfennau ategol: