Agenda item

Estyniad a newidiadau i eiddo, ynghyd â throsi gofod y to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs yng nghefn yr annedd.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rheswm:

 

Byddai'r bwriad arfaethedig yn gyfystyr a gor-ddatblygiad o eiddo anheddol domestig ac oherwydd graddfa, gosodiad ac uchder bydd yn creu elfen ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos gan niweidio mwynderau trigolion lleol yn groes i ofynion Polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

 

Cofnod:

Estyniad a newidiadau i eiddo, ynghyd â throsi gofod y to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs yng nghefn yr annedd.

           

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â newidiadau i dŷ deulawr presennol. Byddai'r gwaith yn cynnwys :

-       codi estyniad llawr cyntaf ar ben modurdy unllawr presennol sydd ar flaen yr eiddo

-       codi estyniad unllawr blaen gyda tho unllethr wrth ochr y modurdy presennol

-       Trosi gofod to'r tŷ presennol yn ofod byw ychwanegol, a

-       Codi estyniad deulawr cefn i weithredu fel "anecs" i'r prif dŷ.

 

Eglurwyd bod y safle o fewn cwrtil tŷ ‘33 Bryn Eithinog sy’n eiddo ar wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y’i diffinnir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl). Byddai'r eiddo yn cynyddu o dŷ pedair llofft, i dŷ gydag anecs a fyddai â chyfanswm o chwe llofft. Ategwyd bod y cynllun yn un diwygiedig i’r un a wrthodwyd yn flaenorol gan i'r Pwyllgor ystyried y byddai'r bwriad yn gyfystyr a gorddatblygiad o'r eiddo ac, oherwydd graddfa, gosodiad ac uchder yr estyniadau, y bydd yn creu elfen ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos (cais cynllunio C22/0608/11/LL)

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cyfeiriwyd at brif newidiadau i'r cynlluniau  - lleihau lled llawr gwaelod yr anecs; cael gwared â ffenestri cromen o'r edrychiad deheuol a gosod ffenestri to yn eu lle; gosod ffenestr do ychwanegol yn llethr cefn (gogleddol) to'r anecs. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, mwynderau preifat a mwynderau cyffredinol ac argymhellwyd caniatáu’r cais yn unol â gosod amodau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Er bod yr estyniad ychydig yn llai, yr un yw’r rhesymau gwrthod

·         Pryderon cymdogion yn parhau'r un fath

·         Bod graddfa a gosodiad y bwriad yn ormesol

·         Bod y newid yn rhy fach – nid yn ddigonol i gysuro trigolion cyfagos

·         Pryder y bydd yr anecs yn cael ei defnyddio fel AirBnB – dim angen hyn mewn ardal breswyl

·         Bod y bwriad ar brif lwybr mynediad Ysgol Friars

·         Cynyddu traffig

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais gan fod graddfa a maint y bwriad yn ormod i’r safle

 

    ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelod:

·        Pryder bod y tŷ yn cael ei ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth er nad oes tystiolaeth ffurfiol o hyn

 

            PENDERFYNWYD GWRTHOD

 

Byddai'r bwriad arfaethedig yn gyfystyr a gorddatblygiad o eiddo anheddol domestig ac oherwydd graddfa, gosodiad ac uchder bydd yn creu elfen ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos gan niweidio mwynderau trigolion lleol yn groes i ofynion Polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

Dogfennau ategol: