Agenda item

Codi 18 tŷ, ffordd newydd a thirlunio.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol addysgol a llecynnau agored ac i’r amodau isod; -

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.          Cyflwyno a chytuno cynllun tirlunio a thirweddu meddal a chaled sy’n cadarnhau rhywogaethau coed.

4.          Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.

5.          Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; Arolwg Ymlusgiaid; Asesiad Effaith Coedyddiaeth; Arolwg Coed ac Adroddiad Arolwg Botanegol.

6.          Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.

7.          Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

8.          Cyflwyno a chytuno gyda Chynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLl.

9.          Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth parthed gwelliannau i’r fynedfa a’r llecynnau parcio.

10.        Cyflwyno a chytuno gydag esiamplau o ddeunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr anheddau preswyl.

11.        Cyflwyno a chytuno gyda chynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys manylion goleuo chlwydfanau ystlumod.

12.        Cyflwyno a chytuno gydag Asesiad Risg Bioddiogelwch ar gyfer difa llysiau’r dial sydd ar rannau o’r safle.

13.        Cyflwyno a chytuno manylion y paneli solar.

14.        Cyflwyno a chytuno manylion Arolwg Tir Rhan 2 ar gyfer asesu sefydlogrwydd y safle.

15.        Creu mynediad o’r safle i’r llwybr troed

 

Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor diwygiedig Dwr Cymru.

 

Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Cofnod:

 

Codi 18 tŷ, ffordd newydd a thirlunio

 

a)      Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 20.03.23 er mwyn cynnal ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad safle bore 17-04-23 pryd cafodd rhai o’r Aelodau gyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei amgylchedd a’r rhwydwaith ffyrdd lleol.

 

Yn unol â chais un o’r Aelodau cyflwynwyd llun o’r awyr o’r safle yn y Pwyllgor

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 tŷ fforddiadwy, ffordd stad newydd a thirlunio ar safle segur o fewn ffin datblygu Bethesda. Amlygwyd hefyd bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal a bod y safle yn ‘un a ddatblygwyd o’r blaen’ ac yn addas ar gyfer adeiladu 18 tŷ fforddiadwy arno.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli ar lwyfandir sy’n segur ei ddefnydd er gellid ei ddisgrifio fel tir llwyd. Nodwyd, bod y bwriad yn dderbyniol ar sail effaith mwynderau gweledol ac y byddai’r bwriad yn creu cyfraniad positif i gymeriad adeiledig y rhan yma o’r strydlun.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd gwrthwynebiadau gan rhai o ddeiliaid anheddau cyfagos o safbwynt mwynderau yn ymwneud a gor-edrych, colli preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn. Er hynny, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn golygu colli preifatrwydd a chreu gor-edrych sylweddol nac arwyddocaol i mewn i gefnau tai Rhos y Coed sy’n cefnu a safle’r cais. Cydnabuwyd y bydd rhyw faint o gynnydd mewn sŵn ac aflonyddwch yn deillio o’r datblygiad ond na fyddai’n wahanol i unrhyw aflonyddwch sŵn sy’n deillio o fewn ardaloedd preswyl yn gyffredinol megis gweithgareddau domestig a thrafnidiaeth gysylltiedig. Fodd bynnag, gellid cynnwys amodau sy’n cyfyngu ar oriau gweithio gyda’r ymgeisydd eisoes wedi cadarnhau byddai unrhyw gontractwr yn gweithio i ofynion Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol.

 

Mewn ymateb i bryderon lleol, yr Uned Trafnidiaeth ar Awdurdod Cynllunio Lleol, cyflwynwyd Datganiad Trafnidiaeth cais mewn ymateb i’r pryderon a godwyd ar sail diogelwch ffyrdd oedd yn cyfeirio at faterion penodol.

·         Bod y gyffordd bresennol i’r A5 yn gweithredu’n effeithlon ac yn ddiogel yn dilyn asesiad o data Crash Map. Er bod yr Aelod Lleol wedi tynnu sylw bod damwain wedi cymryd lle ar ddechrau’r flwyddyn ger y gyffordd, mae’r asiant ynghyd ag ymgynghorwr trafnidiaeth yr ymgeisydd wedi ymchwilio erthyglau papur newydd ac nid yw’n ymddangos bod y damwain wedi cymryd lle ar y gyffordd rhwng yr A5 a Coetmor New Road ac mai digwyddiad unigol ydoedd yn cynnwys un car wedi colli rheolaeth. Yn ychwanegol, dywed yr ymgynghorwr na ellid datgan fod y gyffordd ei hun yn gweithredu’n anniogel gan mai un ddamwain yn unig sydd wedi cymryd lle yno o fewn y 5 mlynedd diwethaf ac nid yw hyn yn cael ei ystyried fel amlder anghyffredin ar gyfer unrhyw gyffordd.

·         Mae’r Datganiad Trafnidiaeth yn rhagweld byddai’r datblygiad yn cynhyrchu 9 symudiad dwyffordd gan gerbydau yn ystod oriau brig ac ni fyddai hyn yn gynnydd materol i lefel llif traffig presennol sy’n defnyddio Coetmor New Road.

·         Ymgymerwyd â chyfrif llif traffig (Automatic Traffic Count) i bennu llif traffig ar y gyffordd a daw’r cyfrif i’r canlyniad mai cynnydd o 1% mewn llif traffig fydd yn defnyddio’r gyffordd – nid yw hyn yn cael ei ystyried yn gynnydd materol i’w ddefnydd presennol.

·         Bod y cyfrif llif traffig hefyd wedi cael ei ddefnyddio i bennu addasrwydd gwelededd o’r gyffordd ar hyd yr A5. Daeth i gasgliad bod y gwelededd i’r de ac i’r gogledd yn cydymffurfio a safonau statudol a argymhellir gan Lywodraeth Cymru.

·         Bod Datganiad Trafnidiaeth yn cadarnhau drwy ddefnyddio dadansoddiad swept path analysis bod hi’n bosibl i ddau gar fynd heibio ei gilydd ar y fynedfa o’r safle i Coetmor New Road heb achosi tagfeydd. Bydd system blaenoriaethu yn cael ei weithredu ar y fynedfa fel bod ceir sy’n dod i mewn i’r safle yn cael blaenoriaeth dros y ceir sy’n dod allan o’r safle.

·         Bydd rhan o’r fynedfa yn cael ei rannu gan gerbydau a defnyddwyr y llwybr cyhoeddus sy’n cysylltu’r safle gyda Ffordd Coetmor.

 

Ail-ymgynghorwyd gyda Llywodraeth Cymru a derbyniwyd ymateb yn cadarnhau eu bod yn tynnu eu cyfarwyddyd gwreiddiol yn ei ôl gan ddatgan bod y gyffordd yn dderbyniol. Er bod ganddynt bryderon ynglŷn ag addasrwydd Coetmor New Road i ymdopi a thrafnidiaeth ychwanegol, roeddynt hefyd yn datgan bod y rhan yma o’r rhwydwaith ffyrdd lleol y tu hwnt i’w awdurdodaeth statudol.

 

Yn ogystal, wedi  derbyn y wybodaeth,  ail-ymgynghorwyd gyda’r Uned Drafnidiaeth a bellach nid oedd ganddynt bryderon bellach ynglŷn ag addasrwydd y fynedfa bresennol i ymdopi a thrafnidiaeth ychwanegol na phryderon parthed cynnydd defnydd o’r ffordd sirol Coetmor New Road.

 

Er yn cydnabod bod pryderon sylweddol wedi eu derbyn parthed addasrwydd y fynedfa bresennol ynghyd a’r gyffordd gyda’r A5 islaw safle’r cais bod yr ymgeisydd wedi dygymod ac ymateb i’r pryderon drwy gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth bellach ac o ganlyniad i’r wybodaeth yma a’r cyngor a dderbyniwyd gan yr uned trafnidiaeth, ystyriwyd fod y bwriad bellach yn dderbyniol ar sail diogelwch ffyrdd a cherddwyr.

 

Yng nghyd-destun materion llecynnau agored, amlygwyd pryderon y Pwyllgor i beidio  darparu llecyn agored o fewn y safle fel rhan o’r datblygiad gan ystyried bod diffyg llecynnau chwarae anffurfiol i blant ynghyd a diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn nalgylch safle’r cais. Amlygwyd bod y Datganiad Cynllunio a gyflwynwyd i gefnogi’r cais yn nodi bod cyngor ar gyfer pennu pellter cerdded ynghyd ag amser cerdded sy’n cael eu hystyried yn dderbyniol a hygyrch i lecynnau agored. Yn yr achos yma, lleoli’r  llecyn chwarae agosaf nid nepell o safle’r cais a chyfochrog a’r A5 rhwng Min Ogwen a Coed Hyfryd gyda llwybr cyhoeddus yn ei gysylltu â Coetmor New Road ac union gyferbyn a’r fynedfa i safle’r cais. Ategwyd bod asiant yr ymgeisydd yn nodi bod Cae Chwarae Clwb Rygbi Bethesda o fewn 650m i safle’r cais gyda chaeau chwarae Ysgol Dyffryn Ogwen 100m o safle’r cais gyda chwantwm o lecynnau chwarae o’r fath o fewn lleoliadau agos i’r safle yn uchel.

 

O nodi’r wybodaeth ystyriwyd bod y fath sefyllfa yn un eithriadol ble nad oes modd darparu llecynnau chwarae awyr agored fel rhan annatod o’r datblygiad arfaethedig. I’r perwyl hyn, ac yn unol â gofynion y CCA, yr ymgeisydd eisoes wedi ymrwymo i gyfrannu’n ariannol tuag at ddarpariaeth llecynnau agored oddi ar y safle.

 

Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn gwella ymddangosiad gweledol y safle segur fel y saif yn bresennol gyda 100% o’r unedau yn rhai fforddiadwy, yn ymateb i’r anghenion sydd wedi’u hadnabod yn lleol

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod yr angen am dai wedi ei dystiolaethu

·         Bod y safle yn ddigon mawr ac wedi ei leoli yng nghanol Bethesda

 

·         Yn gefnogol i adeiladu tai fforddiadwy, ond 18 yn ormod ar gyfer y safle yma – yn orddatblygiad

·         Bod angen ystyried mwynderau chwarae plant – croesi ffordd yn beryglus

·         Bod potensial cael 36 car ar y safle fyddai yn creu effaith ar yr allt serth i’r safle.

·         Er yn gefnogol i’r egwyddor bod angen tai i bobl lleol, pryderon traffig yn goroesi

·         Tynnu dau dŷ a chynnig lle chwarae fel rhan o’r datblygiad - hyn yn cynnig llai o effaith ar fwynderau trigolion lleol. Cyfle yma i greu lle chwarae, llefydd i eistedd - cyfle i greu cymuned

·         Bod mynediad i’r safle yn gul - dim lle i ddau gar basio ei gilydd

·         Pam cynnig lle chwarae i blant oddi ar y safle? - angen sicrhau bod llefydd chwarae yn cael eu cynnwys o fewn y safle yn unol â pholisïau. Pam na ellid cydymffurfio a pholisïau - rhaid sicrhau diogelwch plant - sarhaus yw cynnig cyn lleied o arian

 

ch)  Mewn ymateb i sylwadau yn ymwneud a phryderon traffig, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod ystyriaeth fanwl wedi ei roi i faterion trafnidiaeth ynghyd ag ymgynghori gydag arbenigwyr trafnidiaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Amlygodd, petai’r Pwyllgor yn gwrthwynebu’r cais ar sail materion trafnidiaeth bydd hyn yn arwain at gostau apêl sylweddol.

 

d)        Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ganiatáu y cais yn ddarostyngedig ar gynnwys  amodi mynediad o’r safle i’r llwybr troed

 

Gan fod canlyniad y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol addysgol a llecynnau agored ac i’r amodau isod; -

 

                 1.     5 mlynedd.

                 2.     Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

                 3.     Cyflwyno a chytuno cynllun tirlunio a thirweddu meddal a chaled sy’n cadarnhau rhywogaethau coed.

                 4.     Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.

                 5.     Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; Arolwg Ymlusgiaid; Asesiad Effaith Coedyddiaeth; Arolwg Coed ac Adroddiad Arolwg Botanegol.

                 6.     Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.

                 7.     Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

                 8.     Cyflwyno a chytuno gyda Chynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLl.

                 9.     Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth parthed gwelliannau i’r fynedfa a’r llecynnau parcio.

                 10.   Cyflwyno a chytuno gydag esiamplau o ddeunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr anheddau preswyl.

                 11.   Cyflwyno a chytuno gyda chynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys manylion goleuo chlwydfanau ystlumod.

                 12.   Cyflwyno a chytuno gydag Asesiad Risg Bioddiogelwch ar gyfer difa llysiau’r dial sydd ar rannau o’r safle.

                 13.   Cyflwyno a chytuno manylion y paneli solar.

                 14.   Cyflwyno a chytuno manylion Arolwg Tir Rhan 2 ar gyfer asesu sefydlogrwydd y safle.

                 15.   Creu mynediad o’r safle i’r llwybr troed

 

Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor diwygiedig Dwr Cymru.

 

Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Dogfennau ategol: