Ail- gyflwyniad: Newid
defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo masnachol presennol,
ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r
fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard
AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Pughe
Dolen
i ddogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad
Y rhesymau am ddyfarniad y Cyngor i
ganiatáu'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd eisoes:
Nodiadau
Cofnod:
Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn
gysylltiedig â'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch,
gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa
gerbydol i'r iard
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld ar safle 15-05-23
a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd
tir i greu iard storio / gwerthiant ar dir gyferbyn ac Idris Villas, Tywyn fyddai’n gysylltiedig ag eiddo masnachol presennol
sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr. Byddai’r bwriad yn cynnwys codi ffens
diogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i’r fynedfa amaethyddol
bresennol i greu mynedfa gerbydol addas. Ategwyd bod Datganiad Cynllunio,
Asesiad Canlyniadau Llifogydd ac Adroddiad Ecolegol Cychwynnol wedi eu cyflwyno
fel rhan o’r cais ac yn ddiweddarach ar y 29 Mawrth 2023 cyflwynwyd Cynllun
Tirlunio o amgylch y ffens derfyn. Yn
dilyn y Pwyllgor diwethaf cyflwynwyd manylion
llwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle ar y 28 Ebrill 2023.
Cyfeiriwyd at effaith gweledol ymysg y rhesymau gwrthod ar
y cais blaenorol C22/1050/09/LL gyda’r swyddogion yn amlygu bod yr un pryderon
yn parhau’n berthnasol. Er derbyn cynllun tirlunio oedd yn dangos bwriad i
dirlunio ochr allanol y ffens ddiogelwch, ystyriwyd y byddai hyn yn lleddfu
ychydig ar effaith gweledol y datblygiad, fodd bynnag, nid yw’n llwyr oresgyn y
pryderon.
Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad a sylwadau’r Uned
Priffyrdd (ers y Pwyllgor diwethaf 17
Ebrill 2023) derbyniwyd cynlluniau o lwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle
yn ogystal â manylion sut mae’r cerbydau yn troi o fewn y safle. Nodwyd bod y
safle yn ganolog yn y dref a byddai’r fynedfa ar ochr allanol ym mwa’r ffordd.
O’r archwiliad safle ystyriwyd fod gwelededd agored boddhaol i’r ddau
gyfeiriad. Byddai parcio o fewn y safle i gwsmeriaid a ystyrir yn dderbyniol i
fodloni gofynion TRA 2 y CDLl. Derbyniwyd sylwadau’r
Uned Drafnidiaeth ar y wybodaeth ychwanegol ddiweddaraf, sy’n datgan eu bodlonrwydd
gyda’r cynlluniau sy’n dangos symudiadau ymadawiadau cerbydau o’r safle ac nad
oes ganddynt wrthwynebiad. Ar sail y sylwadau diweddaraf ystyriwyd fod y bwriad
yn dderbyniol i sicrhau gweithrediad diogel o’r briffordd a chydymffurfio a
pholisïau TRA 4, maen prawf 6 polisi MAN 6 y CDLl a
NCT 18: Trafnidiaeth
Nodwyd bod y swyddogion yn ystyried fod y datblygiad yn
parhau’n annerbyniol ar sail pryderon llifogydd, effaith ar fwynderau gweledol
yr ardal a mwynderau'r preswylwyr cyfagos. Er bod elfennau yn dderbyniol, nid
yw’n gorbwyso’r ffaith fod egwyddor y bwriad yn methu cyfarfod profion
cyfiawnhad polisi Cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15. Cafodd y pryderon hyn
eu codi mewn ymateb i Ymholiad Cyn Cais ble
argymhellwyd yn erbyn cyflwyno cais, ar sail na ellid cyfiawnhau
lleoli’r bwriad mewn parth llifogydd C1. Mae cynllun tirlunio wedi ei gyflwyno
bellach sy’n golygu ychydig o welliant yn nhermau mwynderau gweledol, ond nid
yw’n goresgyn ein pryderon yn llwyr. Mae’r wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r
llwybrau mynediad ac ymadawiad cerbydau, wedi goresgyn ein pryderon gwreiddiol
am ddiogelwch ffyrdd ac felly gellid diddymu rheswm 4 o’r rhesymau gwrthod.
Fodd bynnag, ystyriwyd bod y bwriad yn ei hanfod yn parhau yn debyg o ran
manylion i’r cais a wrthodwyd yn gynharach eleni o dan gais C22/1050/09/LL sydd
yn ystyriaeth faterol.
b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad, ar sail ardrawiad
economaidd – yn cadw busnes yn yr ardal
c)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y
safle presennol yn un peryglus - traffig
trwm yng nghanol y dref
·
Bod
yr Aelod Lleol, yn y cyfarfod blaenorol, wedi cynnig rhesymau da dros ganiatáu
·
Bod
Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais
·
Bod y
cynlluniau yn welliant o ran gwelededd – posib plannu a gosod ffens fyddai’n
cynnig golygfa well
·
Dim
hanes llifogydd yn yr ardal yma
·
Dim
gwrthwynebiadau i’r cais gan drigolion y dref
·
Bod
ffordd i’r safle presennol yn brysur - hyn yn cynnig gwelliant i’r sefyllfa
·
Na
fyddai hyn yn creu effaith andwyol ar drigolion Idris Villas
·
Bod
yr ymweliad safle wedi bod yn werthfawr iawn
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfeiriad at iard ‘storio’ nwyddau a phetai
angen i’r dyfodol am strwythur i storio nwyddau ac angen am ganiatâd cynllunio
pellach ar gyfer hyn, nodwyd nad oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais
ynglŷn â gosodiad yr ardal storio ac felly, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, byddai rhaid gosod amod i sicrhau rheolaeth
o’r trefniant storio a’r uchder. Gyda chyfeiriad bod y fenter yn ‘gysylltiedig
ag eiddo presennol / masnachol’, hanfodol fyddai cynnwys amod i gyfarch hyn.
ch) Cynigiwyd gwelliant
i ganiatáu y cais yn ddarostyngedig i gynnwys amodau fyddai yn cynnwys:
-
Caniatâd
yn gysylltiedig ag eiddo masnachol yn unig
-
Bod y
cais yn cyd-fynd a’r hyn sydd yn cael ei nodi gan yr Uned Trafnidiaeth -
mynedfa i ddilyn y cynlluniau a gyflwynwyd - yn saff a llydan
-
Bod
plannu a ffensio digonol ar y ffin i leihau effaith weledol - sicrhau bod y
plannu yn wyrdd a thal
-
Bod y
safle yn is na’r tai ac felly angen ystyried bod uchder y nwyddau sydd yn cael
eu storio yn cael ei gapio.
Mewn ymateb i’r gwelliant, nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod cynnwys y 4 amod uchod yn dderbyniol ac atgoffwyd yr angen i
amodi gweithredu ar faterion yn codi o’r asesiad llifogydd. Gwnaed sylw pellach
gan Aelod bod angen cynnwys amod ynglŷn â rheoli amseroedd derbyn/
dosbarthu nwyddau.
PENDERFYNWYD
Caniatáu yn groes i’r argymhelliad
1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad
y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn
dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd.
2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif 80 1 - 22 - 0 5; 801
- 22 - 70; 22/115/P 09; 22/115/P 04 a 22/115/P 03 Amendment A a gyflwynwyd i'r
Awdurdod Cynllunio Lleol,
ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau
eraill gyda'r cais, os nad
oes amod(au) sy'n ei diwygio
wedi ei gynnwys
ar y dyfarniad cynllunio hwn.
3. Cyn i’r cyfleuster a ganiateir drwy hyn ddod yn
weithredol fel iard storio/gwerthiant,
rhaid yn gyntaf cyflwyno manylion i’w gytuno’n
ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol o unrhyw adeilad a/neu strwythur bwriedir ei godi fel
rhan o’r cyfleuster arfaethedig gan gynnwys dyluniad
ac uchder.
4. Rhaid i’r cyfleuster a ganiateir drwy hyn fod yn
gysylltiedig â defnydd bwriedir ei wneud
gan yr ymgeisydd o’r adeilad masnachol
ar y Stryd Fawr fel canolfan
busnes cyflenwr nwyddau/deunyddiau amaethyddol ac sydd wedi ei amlinellu
mewn glas yng nghynllun rhif
22/115/P 03 Amendment A.
5. Rhaid cyflawni'r cynllun plannu clawdd draenen
gymysg a gynhwysir yng nghynllun rhif
22/115/P 03 Amendment A yn ystod
y tymor plannu cyntaf ar ôl
i'r defnydd ddod yn weithredol.
Yn achos unrhyw rhan o’r
clawdd a fydd o fewn cyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad
plannu farw, a symudir neu a niweidir yn ddifrifol neu a ddaw'n heintus rhaid eu symud
a phlannu yn eu lle yn
ystod y tymor plannu nesaf eraill
cyffelyb o ran maint a rhywogaeth oni bai i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ganiatáu ymrwymiad mewn ysgrifen.
6. Cyn i'r cyfleuster ddod yn weithredol,
rhaid yn gyntaf cyflwyno manylion i’w gytuno’n
ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer unrhyw
arwyddion sydd i’w codi ar
y safle a bydd yr arwyddion hyn yn
y Gymraeg yn unig, neu'n ddwyieithog
gyda blaenoriaeth i'r Gymraeg.
7. Rhaid cydymffurfio gyda Rhan 6.0 (Crynodeb a Chasgliadau) yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd (cyf. KRS.0639.001.R001.A) dyddiedig Medi, 2022 gan KRS
Environmental.
8. Rhaid i’r gwelliannau i’r fynedfa bresennol
cael eu cario
allan yn hollol unol a’r
manylion a gynhwysir o fewn cynllun rhif 22/115/P 03 Amendment A.
9. Ni chaniateir
derbyn nwyddau neu eu dosbarthu o'r
safle a ganiateir drwy hyn y tu
allan i'r oriau 08:00 i 18:00 Llun i Gwener;
08:00 i 12:00 dydd Sadwrn a dim o gwbl ar ddydd Sul.
Y rhesymau am ddyfarniad y Cyngor i ganiatáu'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd
eisoes:
1. Cydymffurfio â Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref.
2. Cydymffurfio
a darpariaethau Deddfau
Cynllunio Gwlad a Thref ac i sicrhau datblygiad
boddhaol y safle, ac i ddiogelu mwynderau
gweledol y cylch
3. I
sicrhau datblygiad trefnus y safle ac i ddiogelu mwynderau
gweledol.
4. I
sicrhau datblygiad trefnus y safle.
5. I
ddiogelu mwynderau gweledol ac i sicrhau
gwelliannau bioamrywiaeth.
6. I
ddiogelu ac i hybu’r iaith Gymraeg.
7. I gydymffurfio
a gofynion Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd.
8. Er
budd diogelwch y ffyrdd.
9. I
ddiogelu mwynderau preswyl.
Nodiadau
1. Oherwydd maint a natur y datblygiad bydd angen darparu cais
i’r Corff Cymeradwy Systemau Draenio Cynaliadwy i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith
adeiladu. Rhaid i’r systemau
hyn gael eu cymeradwyo gan
Gyngor Gwynedd yn ei rôl fel
Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy cyn y bydd gwaith adeiladu’n
dechrau.
2. Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Dwr
Cymru ddyddiedig 24.02.23 a'r
angen i sicrhau
bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo. Mae’r llythyr
i’w weld o dan gyfeirnod y cais yma ar
dudalennau dilyn a darganfod ar safle
we’r Cyngor.
3. NODYN: Rhaid i ymyl y ffordd
o flaen y fynedfa gael ei chryfhau
gyda cyrbiau smwt 125 x 150mm wedi eu gosod yn
unol â 'Dylunio Ffyrdd'.
4. NODYN: Na fydd
yr Awdurdod Priffyrdd yn gyfrifol am unrhyw ddŵr wyneb o'r ffordd
sy'n mynd i'r safle'n sgil
y datblygiad.
5. NODYN: Cyfarwyddir
yr ymgeisydd i ysgrifennu i'r Awdurdod Priffyrdd i
gael hawl o dan Adran 278 o'r Ddeddf
Priffyrdd, 1980, i gario allan unrhyw
waith sydd yn golygu newidiadau
i'r ffordd bresennol er mwyn creu mynedfa i'r
safle.
6. NODYN: Ni ddylai
dwr wyneb o gwrtil y safle arllwys i'r briffordd.
Rhaid cwblhau draeniad y briffordd ar y fynedfa ac ar hyd y ffryntiad
i gwrdd â gofynion yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cychwyn
ar unrhyw waith ar weddill
y datblygiad.
Dogfennau ategol: