Agenda item

Estyniad 75,000 troedfedd sgwar i'r warws presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Estyniad 75,000 troedfedd sgwâr i'r warws presennol 

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn warws llyfrau ‘The Book People’ ym Mharc Menai er mwyn  creu storfa ychwanegol atodol i’r warws presennol.

 

Nodwyd bod safle’r estyniad wedi ei leoli ar dalcen gorllewinol yr adeilad presennol ac yn cynnwys llecyn o dir gwastad o wyneb llechi a greuwyd pan godwyd yr adeilad gwreiddiol yn 2002.

 

Amlygwyd bod egwyddor o ymestyn ac ehangu mentrau cymdeithasol wedi ei selio ar bolisi D8 o CDUG sydd yn datgan y  bydd cynigion o’r fath yn cael eu cymeradwyo os gellid cydymffurfio gyda nifer o ganllawiau sydd yn datgan nad yw’r defnydd presennol yn achosi difrod arwyddocaol i’r ardal, bod y bwriad wedi ei leoli o fewn y datblygiad presennol, bod y bwriad yn ategol i’r gwaith presennol ac na fydd graddfa'r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r amgylchedd a’r rhwydwaith ffyrdd lleol.  Nodwyd bod manylion y bwriad wedi ei gynnwys yn y cais gwreiddiol yn 2002 ar gyfer codi’r adeilad presennol sydd yn cadarnhau bwriad yr ymgeisydd i ehangu’r fenter.

 

Cadarnahwyd y byddai’r estyniad yn adlewyrchiad o’r adielad presennol ac wedi ei sgrinio yn sylweddol gan goedlan sefydlog . Gan fod y estyniad o’r un edrychiad ac o’r un uchder ni fydd gwahaniaeth sylweddol nac arwyddocaol yn nhrawiad yr estyniad ar fwynderau gweledol.  Nodwyd hefyd bod y safle wedi ei leoli o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd yn CDUG yn ogystal a bod o fewn Tirwedd Hanesyddol Cofrestredig. Nodwyd, oherwydd  bod y safle eisoes wedi ei ddynodi ar gyfer defnyddiau diwydiannol o safon uchel, ni fyddai yn cael effaith sylweddol bellach ar osodiad a chymeriad y tirlun hanesyddol. Amlygywd bod y safle nepell i’r de o ardal gadwraeth Stad y Faenol ynghyd a wal restredig gradd II y stad sydd wedi ei leoli i’r dwyrain o’r safleer hynny ni ystyriwyd y byddai unrhyw effaith negyddol sylweddol ar osodiad nac integredd yr ardal gadwraeth na’r wal restredig o ystyried lleoliad a dyluniad yr estyniad ynghyd a sgrinio a tirweddu sydd yn lleihau yr adrawiad ar yr amgylchedd lleol.

 

Amlygwyd nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno i’r cais yn wreiddiol gan nad oedd digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno i ymateb yn llawn iddo. Gwnaed cais i’r ymgeisydd am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud a chynllun goleuo ac asesiad risg bioamrywiaeth ac effaith y datblygiad ar rywogaethau gwarchodedig. Er nad oedd ymateb ysgrifenedig wedi ei dderbyn ar ôl ymgynghori pellach gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, cynigiwyd bod modd gosod amodau priodol i reoli'r  sefyllfa os oedd sylwadau CNC yn gofyn am hyn.

 

Yn unol â gofynion perthnasol cyflwynwyd Datganiad Ieithyddol a Chymunedol gyda’r cais a cyfeiriwyd at yr ymateb yn y sylwadau ychwanegol a ddosbarthwyd.

 

Wrth ystyried yr asesiad ac yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffarfiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol ar sail graddfa, lleoliad, dyluniad, ffurf, deunyddiau, diogelwch ffyrdd, parcio, mwynderau gweledol a phreswyl ac yn cydymffurfio gyda pholisiau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

(b)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·            Ei fod yn gefnogol i’r cais

·            Bod y safle eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer estyniad i’r busnes presennol

·            Dyma'r cyflogwr mwyaf o fewn Parc Britannia, Parc Menai

 

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·            Croesawu y datblygiad ac balch bod y cwmni eisiau parhau i fuddsoddi ym Mangor

·            Bod cwmni ‘The Book People’ yn gyflogwyr pwysig iawn i ddalgylch Bangor

·            Y llyfrau yn fforddiadwy ac felly yn annog pobl i ddarllen

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghlyn a thirlunio pellach, nodwyd bod y safle eisoes wedi ei dirlunio yn sylweddol ac yn eithaf cuddiedig, fodd bynnag nodwyd fod amod wedi ei argymell yn yr adroddiad i sicrhau cynllun rheoli ar gyfer tirweddu.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan CNC.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Amodau Bioamrywiaeth sy’n ymwneud ac ymgymryd â mesuriadau lliniaru fel y’i     cynhwysir yn yr Arolwg Cynefin Estynedig Cam 1 a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio.

4.     Deunyddiau allanol.

5.     Amodau CNC parthed diogelu rhywogaethau gwarchodedig.

6.     Cyflwyno cynllun goleuo i’w gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

7.     Cyflwyno cynllun rheoli tirlunio i’w gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

8.     Cyfyngu’r llawr mezzanine i’r lleoliad a ddangosir yng nghynllun rhif BAS-DR-A 023 Rev. P3.

 

Dogfennau ategol: