I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru.
Cofnod:
Derbyniwyd adroddiad llafar gan Mr Ben Davies, Trenau
Arriva Cymru, gan nodi
·
bod
cynnydd yn nifer o deithwyr sy’n defnyddio’r trenau a’r broblem ydoedd nad oedd
ganddynt ddiogon o drenau
·
y
bydd darpariaeth Wi-fi yn cael ei roi ar drenau’r 150, 158 a’r 175 y Cambrian o
fis Medi ymlaen gan dynnu sylw y bydd rhai mannau nas gellir cael mynediad ond
sicrhawyd y byddai modd cael cysylltiad yn y Gorsafoedd
·
bod
y Gwyl Gomedi a gynhaliwyd ym Machynlleth dros Wyl Banc Calan Mai wedi bod yn
llwyddiant i’r gwasanaeth ac i’r gymuned
·
y
byddir yn parhau gyda’r gwaith caled o hyrwyddo a datblygu’r gwasanaeth am y
ddwy flynedd nesaf hyd nes y daw’r fasnachfraint i ben
·
bod
y Cynllun Waled Oren ar gyfer anghenion pobl gyda anawsterau dysgu yn
llwyddiannus dros ben a’i bod yn cael eu hyrwyddo ar ffurf ffilm o gwmpas y
wlad erbyn hyn
·
o
safbwynt cyhoeddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ar rheilffordd y Cambrian,
sicrhawyd bod yr iaith Gymraeg yn bwysig i Drenau Arriva Cymru ac fe fyddir yn
trefnu gwasanaeth dwyieithog ar gyfer pob un o’r Gorsafoedd yng Nghymru. Nodwyd ymhellach nad oedd problem yn y
Gorsafoedd ond profir problemau ar y trenau oherwydd y pellter rhwng
gorsafoedd. Mewn ymateb i ymholiad gan y
Cadeirydd o amserlen i dderbyn darpariaeth dwyieithog ar reilffordd y Cambrian,
esboniodd Mr Ben Davies nad oedd modd rhoi dyddiad penodol ond y byddai yn
dilyn y mater i fyny gan sicrhau bod darpariaeth yr iaith yn cael ei gynnwys yn
y masnachfraint newydd. Nodwyd ymhellach
bod pob un o docynnwyr Trenau Arriva Cymru yn siarad yr iaith
·
y
bydd y lifft wedi eu gwblhau yng Ngorsaf Machynlleth erbyn 18 Mehefin 2016
·
o
safbwynt y tren 8.00 y.h. o Fachynlleth i Pwllheli ddim yn stopio ymhob Gorsaf
ar y lein, eglurwyd mai’r brif broblem
ydoedd bod cyfyngiad ar yr amser i’r gyrrwyr y trenau fedru gyrru heb doriad (4
awr) ac os bydd yn rhaid stopio yn y gwahanol orsafoedd byddent yn mynd dros yr
amser caniatiedig i yrru. Awgrymwyd mai’r
ffordd orau ymlaen ydoedd trafod ymhellach gyda Mr Ken Skates, Aelod Cynulliad,
ac apeliwyd ar i Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd, Aelod Cynulliad
Dwyfor/Meirionnydd ddilyn y mater i fyny hefyd.
·
Bod
trafodaethau yn parhau gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a’r Ganolfan Dwristiaeth yn
Abermaw, oherwydd bod y Cyngor yn awyddus i’w gau ac ar hyn o bryd yn gwerthu
tocynnau i Trenau Arriva Cymru ar gyfer rheilffordd y Cambrian.
·
Bod
“app.trainline” newydd ar gael ar gyfer archebu tocynnau i ffonau symudol
priodol “Arriva Train Tickets”
·
O
safbwynt platfform isel, bod Trenau Arriva Cymru wedi ymgymryd a gwaith i
adnewyddu 27 ohonynt a bod mwy i’w wneud
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r adroddiad.
(b)
Anfon llythyr o longyfarch i Ken Skates, Aelod Cynulliad – Ysgrifennydd
Economi ac Isadeiledd Cabinet Llywodraeth Cymru (Cabinet Secretary for Economy
and Infrastructure) ac i’w wahodd i
fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor hwn i’r dyfodol.