Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Craffu’r broses sydd wedi ei dilyn ar gyfer llunio’r strategaeth.

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Dysgu Cymunedol yr Adran Economi yn gofyn i’r aelodau graffu'r broses sydd wedi ei dilyn ar gyfer llunio'r Strategaeth ‘Mwy na Llyfrau’. Nododd yr Aelod Cabinet bod darparu Gwasanaeth Llyfrgell ‘cynhwysfawr ac effeithlon i bawb sydd yn dymuno ei ddefnyddio’ yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.

 

b)            Adroddwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn syniadau trigolion, defnyddwyr a phartneriaid ar y Strategaeth “Mwy na Llyfrau”wedi ei gynnal yn ystod Mai - Gorffennaf 2015. Ategwyd bod ystod o argymhellion wedi eu cyflwyno  gan yr ymgynghorwyr oedd yn casglu a dadansoddi'r adborth a gyflwynwyd gan y cyhoedd a’r partneriaid. Nodwyd rhai o’r sylwadau a gyflwynwyd gan yr ymgynghorwr,

 

        Yr angen i addasu’r weledigaeth a chryfhau rhai o’r blaenoriaethau.

        nad yw parhau gyda’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

        amharodrwydd cyffredinol ymysg y cyhoedd i weld unrhyw newid i’r rhwydwaith o lyfrgelloedd, hyd yn oed mewn cyd-destun ariannol heriol.

 

Amlygwyd bod y Strategaeth yn argymell bod y Gwasanaeth Llyfrgell yn canolbwyntio  ar bedwar maes blaenoriaeth sef, cynnig darllen, cynnig gwybodaeth, cynnig iechyd a lles a cynnig digidol.

I gyflawni Strategaeth o fewn y gyllideb argymhellwyd categoreiddio'r math o ddarpariaeth sydd ei angen ar draws y Sir ac argymhellwyd symud i ddarpariaeth yn seiliedig ar bedwar model

 

          Llyfrgelloedd Dalgylch

          Llyfrgelloedd Cymunedol o dan reolaeth y Cyngor

          Gwasanaethau Teithiol  

          Dolen neu Gyswllt  Cymunedol

 

c)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

        Pryder bod hyn yn ysgwyddo baich ychwanegol a’r Gynghorau Cymuned. Nodwyd mai gwirfoddolwyr sydd yn gweithredu ar y Cynghorau a bod y niferoedd aelodau yn lleihau oherwydd bod cyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu cynnig iddynt o bob cyfeiriad. Amlygwyd bod angen cynnal trafodaethau i amlygu’r disgwyliadau ychwanegol hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod pryder ynglŷn â chapasiti gwirfoddolwyr i gyflawni eisoes wedi cael ei ystyried ac yr argymhelliad yw i’r Cyngor wneud ‘cynnig o’r hyn gall ei gyflawni’, gydag ymateb yn ddibynnol ar ‘yr hyn gall y cynghorau cymuned eu cyflawni’. Ategwyd nad datrysiadau oedd yn cael eu rhannu ond datganiad o’r hyn y gall y Cyngor ei gynnig..

 

        Mewn ymateb i leihad mewn cyllideb i brynu llyfrau, cynigiwyd cynnal ‘Diwrnod Amnest’

        Angen ystyried dod a gwasanaethau at ei gilydd - llyfrgelloedd, canolfannau twristiaeth, toiledau cyhoeddus

        Pwysleisiwyd yr angen i gynnal trafodaethau yn lleol er mwyn ymateb yn bositif i'r her

        Y modelau i’w croesau ac yn rai oedd yn ymateb yn greadigol i sicrhau bod y gwasanaeth llyfrgelloedd arbennig yma yn parhau yng Ngwynedd.

 

        Beth yw gwerth ‘Lori Ni’?

        Angen buddsoddiad pellach mewn llyfrau print bras Cymraeg

 

ch)       Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd bod y Polisi Rhoddion yn un sydd wedi ei ystyried a bod llyfrgelloedd yn y gorffennol wedi derbyn rhoddion gwerthfawr iawn. Er hynny, yn sgil prinder staff, nodwyd bod hyn yn dasg ychwanegol i staff ddethol a dewis llyfrau addas i’w benthyg.

 

Yng nghyd-destun gwerth ‘Lori Ni’ nodwyd bod gan y  lori swyddogaeth bwysig iawn o fewn y gwasanaeth - yn sicrhau bod llyfrau  print a digidol yn cyrraedd pob plentyn yr awdurdod drwy gydweithrediad yr ysgolion. Ategwyd bod yr ysgolion, sydd hefyd yn wynebu toriadau mewn cyllidebau, yn torri ar lyfrau, ac felly yn gwerthfawrogi cyflenwad cyson o lyfrau i blant. Er bod cost cynnal y lori oddeutu £30,000 y flwyddyn ategwyd bod hyn yn werth pob ceiniog.

 

d)            Yng nghyd-destun llyfrau print bras,  nodwyd mai yn y llyfrgell yn unig mae modd cael rhain, ac mai Gwynedd oedd yn arwain ar gynhyrchu llyfrau print bras Cymraeg - angen annog awdurdodau eraill i brynu i mewn i’r cynllun.

 

dd)       Derbyniwyd y sylw bod angen ystyried holl asedau'r Cyngor. Y gobaith yw y bydd trafodaethau gyda Chynghorau Lleol yn rhyddhau opsiynau posib fel bod modd cael gwell defnydd o adnoddau'r cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn y model yn fras, ond amlygwyd;

-        Pryder ar roi pwysau ychwanegol ar Gynghorau Cymuned yn sgil y modelau newydd a bod angen cynnal trafodaeth am y capasiti hyn gyda’r gymuned leol

-        Yr angen i gyfuno llyfrgelloedd gydag asedau eraill y Cyngor

 

Dogfennau ategol: