Agenda item

Aelod Cabinet : Cynghoryddr Gareth Thomas

 

Derbyn adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu

 

 

 

Cofnod:

Ymneilltuodd y Cynghorydd Linda Morgan o’r ystafell yn ystod y drafodaeth

 

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y cynnydd pellach o ran gweithredu argymhellion Ymchwiliad Craffu Cludiant Addysg Ol-16. Amlygwyd bod yr argymhellion wedi eu rhannu i dri categori

 

-           Gweithredu yn syth

-           Cydweithio yn y tymor canolig gyda gwasanaethau / partneriaid eraill er mwyn ymchwilio i ymarferoldeb gweithredu’r argymhellion

-           Peidio ystyried yr argymhellion hyn am y tro

 

Ategwyd bod nifer o’r argymhellion wedi eu cynnwys yn y Polisi Cludiant newydd a bod yr argymhellion sydd yn weddill yn ddibynnol ar drafodaethau. Cydnabuwyd  bod rhai o’r trafodaethau wedi bod yn araf a’r rhwystr mwyaf oedd cynnal trafodaethau gyda’r coleg, a datrys y broblem ‘teithio yn hyblyg’. Adroddwyd bod llawer o waith wedi ei wneud i geisio datrys yr uchod, ond heb ddwyn ffrwyth hyd yn hyn. Derbyniodd bod arafwch gyda’r broses ac unrhyw gerydd am hyn.

 

Derbyniodd yr Uwch Reolwr Ysgolion  bod yr ymateb ffurfiol wedi bod yn araf, ond adroddodd ei fod bellach wedi derbyn llythyr (dyddiedig 16.5.16) gan y Coleg yn nodi eu dymuniad i fod yn asiant ac yn agored i drafod ymhellach. Ychwanegwyd bod y trafodaethau hyn i ddechrau 21.6.16. Ategwyd bod y Coleg wedi nodi yn y llythyr eu bod yn ystyried ‘trosglwyddo'r ddarpariaeth i gyd’ ac felly angen trafod cynnwys y llythyr mewn manylder. Cyfeiriwyd hefyd mai at Meirion Dwyfor yn unig roedd y llythyr ac felly hyn hefyd angen ystyriaeth llawn.

 

Adroddwyd bod bwriad sefydlu Fforwm Defnyddiwr, ond angen sicrhau bod ‘cynnig ar y bwrdd’ i’r defnyddwyr yng nghyd destun ymateb i’r angen o gynyddu'r hyblygrwydd heb ychwanegu cost. Amlygwyd y byddai'r Fforwm Defnyddwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Coleg, Swyddogion y Cyngor, Darparwyr Cludiant a Myfyrwyr. Y gobaith yw i’r Fforwm aeddfedu fel y byddai yn rhoi pwyslais ar wleidyddion i weithredu.

 

Nodwyd bod system rhandaliadau misol wedi ei sefydlu, ond yng nghyd-destun myfyrwyr yn derbyn lwfansau hwyr i dalu costau, nid oedd hyn  yn flaenoriaeth gan y Colegau. Ategwyd y bwriad o godi hyn yn y trafodaethau gyda'r Coleg.

 

Adroddwyd bod 37% o lwybrau teithio gyda chyfyngiad amser; 40% o lwybrau heb gyfyngiad a 23% yn fysiau coleg pur. Yr her fwyaf yw ceisio datrysiad i’r llwybrau teithio hynny sydd yn gyfyngedig.

 

b)            Mewn ymateb i’r adroddiad nododd y Cynghorydd G Williams  bod angen cymharu'r hyn sydd ar gael yn Lloegr gyda’r hyn sydd ar gael yng Nghymru. Roedd yn parhau gyda phryderon nad oedd Cyngor Gwynedd wedi cynorthwyo aelwydydd y Sir gyda chostau a thegwch  addysg eu plant.

 

c)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·                    Bod y Coleg yn araf yn derbyn cyfrifoldeb dros y myfyrwyr - nid yw teithio yn llesol i blant ac nid yw’r colegau yn rhoi digon o ystyriaeth i hyn. Awgrymwyd y dylai’r Coleg arwain ar y mater a cheisio datrys y broblem

·                    Rhaid rhoi plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i’r gwasanaeth. Rhaid sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd cyfartal

·                    Rhaid datrys y broblem ‘tocyn hyblyg’ a rhoi pob cefnogaeth posib i blant y sir - dyma yw ein dyfodol

·                    Rhaid cael tocyn sydd yn gweithio - un sydd yn effeithiol

·                    Rhaid ystyried llês y plant

·                    Angen erfyn ar yr  Aelod Cabinet newydd o fewn y Cynulliad i edrych ar hyn

 

ch)       Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Aelod Cabinet bod hyblygrwydd y tocyn yn  elfennol, ond bod natur y cytundebau bysus yn amrywiol. Rhaid felly ceisio datrysiad i alluogi'r 37% o lwybrau cyfyngedig  fod yn hyblyg heb gost ychwanegol i’r Cyngor.

 

            Nodwyd y byddai  unrhyw wybodaeth o’r cyfarfod gyda’r Coleg ac o’r Fforwm Defnyddwyr yn cael eu rhyddhau i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau unwaith y byddant wedi eu cynnal.

 

d)            Gwnaed sylw bod argymhellion y Cyngor wedi eu gweithredu ond bod y diffyg gweithredu gan y partneriaethau allanol. Awgrymwyd,

                    Ail negodi natur cytundebau gyda’r cwmnïau bysiau pan yn amserol

                    Ystyried edrych ar dystiolaeth o blant sydd yn disgyn allan o addysg oherwydd yr elfen deithiol / llesiant,  fuasai o ganlyniad yn golled incwm i’r coleg - modd gwneud achos busnes yma

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

Mynegwyd siom ddirfawr ar yr elfennau amlycaf a dymuniad y Pwyllgor oedd parhau i bwyso ar gael pethau yn eu lle erbyn Medi 2016.

Nodwyd bod angen cynnal Fforwm Defnyddwyr yn fuan a bod angen anfon neges at y Gweinidog newydd i geisio'r un tegwch i blant Cymru a phlant Lloegr.

 

 

Dogfennau ategol: