Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried yr adroddiad a gwneud argymhellion ar y drefn awgrymir ar gyfer codi ffi ar drigolion am gasglu gwastraff gardd

Cofnod:

Ymneilltuodd y Cynghorydd Angela Russell o’r ystafell yn ystod y drafodaeth.

 

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd yn amlygu bwriad yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i godi ffi am gasglu gwastraff gardd.

 

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd 16.12.14 bu i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu ystod o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd  a oedd yn cynnwysAdolygu Gwasanaeth Gwastraff Gardd’ i gyflawni arbedion o £750,000 yn y flwyddyn ariannol 2017/2018.

 

O dan ‘Reoliadau Gwastraff a Reoli’r 2012 gall awdurdodau godi ffi ar gasglu gwastraff gardd gan drigolion (hyn ddim i gynnwys y gost o’i waredu) ac mae Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 yn rhoddi hyblygrwydd ar godi ffi neu beidio ar hawl pe dymunir i godi ffi resymol am y gwasanaeth.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ei ganllawiau ymarfer da ‘Glasbrint Casglu’ yn argymell y dylid codi ffi ar drigolion am gasglu gwastraff gardd ar amlder pob pythefnos a hyn i bwrpas lleihau ar y cyfaint o wastraff gardd a roddir allan gan drigolion ac er mwyn arbed costau casglu a thirlenwi.

 

Adroddwyd bod gwastraff gardd yn cyfrannu at gyflawni targedau ailgylchu ac ym Mawrth 2016 bu i’r Cyngor lwyddo i gyrraedd 58.75% (targed statudol o 58%). Nodwyd, pe byddai’r ganran ailgylchu yn gostwng yn is na’r targed yna byddai'r Cyngor yn derbyn dirwyon. Amlygwyd y bydd gostyngiad tebygol yn y galw am y gwasanaeth yn y flwyddyn gyntaf, ond rhagwelir bydd cynnydd yn y flwyddyn olynol.

 

Gwnaed sylw nad oedd codi ffi ar unrhyw wasanaeth yn fater poblogaidd, ond bod rhaid ymateb i’r toriadau neu bydd rhaid ystyried toriadau pellach mewn gwasanaethau eraill.

 

Yr opsiynau dan sylw;

 

-       Opsiwn 1: Parhau i gasglu gwastraff gardd  am 12 mis o’r flwyddyn gan osod lefel ffi o £33 y flwyddyn (Arbediad blynyddol - £750,000)

 

-       Opsiwn 2: Casglu gwastraff gardd am 9 mis y flwyddyn gan osod lefel ffi o £30 mis y flwyddyn (arbediad blynyddol - £756,410)

 

b)            Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phryder o dderbyn dirwyon am fethu cyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol, dywedodd Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod yr adran yn rhannu'r pryderon hynny ac yn pwysleisio  yr angen i barhau i gyflawni a chynnal y gwasanaeth i’r un safon gan fonitro'r sefyllfa yn ofalus.

 

c)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·      Nad oedd cyflwyno'r newidiadau yn amserol o ystyried newidiadau diweddar i drefniadau ailgylchu - buasai hyn yn gam yn ôl

·      Bod chwe swydd yn y fantolnid oedd hyn yn newyddion da

·      Cais i’r Cyngor ystyried sachau hesian fel opsiwn

·      Dim yn gefnogol i’r taliad

·      Cynnydd tebygol mewn tipio slei bach a cham ddefnydd o’r bin gwastraff gweddilliolsut fydd hyn yn cael ei blismona?

·      Angen ystyried sut y bydd unigolion bregus yn ymdopi

·      Dylid annog mwy o ddefnydd o’r bin brown

·       Cais i ystyried gostyngiad mewn ffi i fin llai ei faint

·      Ymddengys bod pobl y Sir yn cael eu cosbi am gompostio - angen i Lywodraeth Cymru addasu'r fformiwla ailgylchu

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau bod y bwriad eisoes wedi ei gymeradwyo ac felly gwireddu'r arbediad oedd dan sylw. Cytunwyd gyda’r awgrym nad oedd yr addasiad yn amserol, ond ategwyd mai sefyllfa ariannol y Cyngor oedd yn gorfodi'r newid hwn. Cadarnhawyd y byddai’r sefyllfa yn cael ei monitro yn ofalus.

 

Nodwyd bod defnyddio sachau hesian wedi cael ei ystyried, ond  bod y sachau yn fach o ran maint ac yn costio oddeutu £16 yr un. Yng nghyd destun cam ddefnyddio’r bin gwastraff gweddilliol, amlygwyd  y byddai modd cyflwyno camau gorfodaeth i reoli hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerthu'r compost sydd yn cael ei gynhyrchu, nodwyd bod yr adran wedi edrych ar y cyfleodd i’w farchnata, ond gan mai ‘gwelliant pridd’ ydoedd ac nid compost, nid oedd modd ei werthu yn gyhoeddus. Ategwyd bod y ‘gwelliant pridd’ yn cael ei waredu ar dir llwyd neu ei ddosbarthu  am ddim i drigolion Gwynedd drwy'r Canolfannau Ailgylchu.

 

Wrth drafod opsiynau’r cynllun, gwnaed sylw gan yr  Uwch Reolwr Gwastraff a Chomisiynu y byddai parhau i gasglu  am 12 mis o’r flwyddyn  yn gwella'r posibilrwydd o lwyddo i gyrraedd y targedau cenedlaethol gan fod oddeutu 200 tunnell y mis o wastraff yn cael ei gasglu tu allan i’r tymor tyfu.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i gynnig opsiwn 1

 

Penderfynwyd derbyn  yr argymhelliad i godi ffi ar drigolion am gasglu gwastraff gardd am 12 mis y flwyddyn, ond amlygwyd

-       Pryder am effaith y newidiadau ar y targedau ailgylchu, o ystyried;-

o   Bod ailgylchu ar gynnydd o fewn y sir

o   Bod trigolion y sir newydd ddod i arfer a’r trefniadau newydd

o   Bod dirwyon sylweddol am fethu cyrraedd y targed statudol

-       Pryder bod cost ychwanegol ar rai teuluoedd o gyflwyno’r cynllun

-       Bod cais i’r Aelodau Cabinet gynnal trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru i bwrpas cynnwys tunelloedd compostio cartref yn y cyfrifiad ailgylchu fel nad yw yn cael effaith ar berfformiad y Cyngor yn erbyn eu targedau

 

 

Dogfennau ategol: