Agenda item

 

Ystyried Adroddiad Blynyddol, (2014 -15), Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) 2014 - 2015. Cyfeiriwyd at y Cytundeb Trosglwyddo a nodwyd bod yn ofynnol iddynt nodi sut maent  wedi gwireddu’r addewidion a wnaed i denantiaid yn y Ddogfen Gynnig  a  gweithredu goblygiadau dan y Cytundeb Trosglwyddo. Tynnwyd sylw at rai materion penodol:

 

·       Bod 167 (98.8%) o'r addewidion o fewn y Ddogfen Gynnig "Eich Cartref, Eich Dewis" wedi eu cyflwyno'n llwyddiannus, ers diwedd mis Mawrth 2015. Nodwyd bod CCG yn parhau i roi blaenoriaeth i swyddi lleol gan sicrhau bod y gwariant yn cael ei gylchdroi. Ar ddiwedd Mawrth 2015 roedd 257 yn cael eu cyflogi ar  raglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)  ar draws yr holl ddarparwyr gwasanaeth. Wrth i lif gwaith a rhaglen gwella SATC dynnu tua'r terfyn, nodwyd bod lefelau staffio Darparwyr Gwasanaeth yn gostwng ac o ganlyniad ffigyrau nifer prentisiaid a hyfforddeion yn lleihau.

 

·       CCG  wedi ennill gwobr Partneriaeth a Mentergarwch Cymdeithas Penseiri Ymgynghorol (2013), a gwobr am Gyfraniad Arbennig yn y Gwobrwyon Caffael Cenedlaethol (2014). Yn dilyn hynny, maent wedi derbyn canmoliaeth am y modd y mae busnesau lleol a phobl leol wedi cael budd o'r swyddi a'r prentisiaethau sydd wedi eu creu. Yn 2015, derbyniwyd gwobr gan Caffael Cenedlaethol Cymru.

 

·       Ers bodolaeth CCG a hyd at Fawrth 2015, mae 180 o brosiectau cymunedol wedi derbyn budd o grantiau (cyfanswm £975,699) drwy Gronfa Budd Cymunedol CCG gyda buddsoddiad ychwanegol o £5.6M wedi ei ddiogelu drwy arian cydgyfeirio.

 

·       Bod pwyslais CCG yn newid. Dros y pum mlynedd diwethaf y pwyslais oedd sicrhau bod stoc y gymdeithas yn cydymffurfio a’r safon ac mae hyn yn parhau yn ymrwymiad clir. Erbyn hyn, mae cyfeiriad y busnes yn newid a lluniwyd Cynllun Corfforaethol 2015/20 yn amlinellu strategaeth a dyheadau am y pum mlynedd nesaf. Bydd mesurau lles yn gwasgu ar denantiaid a rhaid rhoi ystyriaeth ar y ddarpariaeth fydd yn cael ei gynnig.

 

·       Y busnes yn parhau i dyfu er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir - datblygiadau newydd ym Maesgeirchen a Phwllheli ynghyd â chyrraedd targed i ddarparu tai fforddiadwy ac ymchwilio i ffynonellau incwm newydd. Er bydd y gwariant yn lleihau o’r flwyddyn yma ymlaen, bydd CCG yn parhau i fuddsoddi a chylchdroi arian o fewn y Sir.

 

·       Elfennau cydweithio gyda chwmnïoedd mawr a threfniadau is-gontractio yn codi rhai pryderon, ond CCG yn parhau i weithio drwy hyn.

 

·       Parhau i ymgynghori gyda thenantiaid i gynnwys cwsmeriaid ym mhopeth maent yn wneud.

 

·       O ganlyniad i’r newid pwyslais, y berthynas gyda’r Cyngor, o safbwynt monitro yn newid.

 

(b)       Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

                 i.       Llongyfarchwyd CCG ar eu llwyddiant o dderbyn gwobr Caffael Cenedlaethol Cymru ac ar eu hadroddiad positif. Diolchwyd iddynt am lwyddiant y gronfa gymunedol a’u parodrwydd i wella stadau cymysg eu heiddo.

 

                ii.       Cymeradwywyd datblygiadau o’r newydd, ond angen sicrhau mwy o unedau ar gyfer pobl hŷn ac unedau un llofft. Mewn ymateb nodwyd  bod CCG yn ymwybodol o gynnydd yn nifer pobl hŷn ac o’r ystadegau clir sydd tystiolaethu’r  pwyslais ar gadw pobl hŷn yn eu cartrefi - y mater eisoes wedi ei drafod yn y Bartneriaeth Tai ac felly'r cymdeithasau tai yn cydweithio i ymateb i’r galw a sicrhau bod y datblygiadau yn y llefydd cywir.

 

               iii.       Dirywiad safonau ceginau, er enghraifft yn debygol o ddod gyda'i gilydd ac felly rhagweld y bydd angen buddsoddiad pellach ymhen rhyw bymtheg mlynedd. Mewn ymateb nodwyd bod ystyriaeth wedi roi i hyn yn y cynllun busnes.

 

               iv.       Cais i gryfhau cyswllt yr aelodau lleol, Cyngor Bro gyda’r wardeniaid lleol o ran rhannu gwybodaeth. Mewn ymateb nodwyd bod y Protocol Aelodau Etholedig yn sicrhau llif gwybodaeth i un cyfeiriad gyda phob ymholiad ac ymateb yn cael ei gofnodi yn briodol. Dywedwyd bod sefydlu un pwynt cyswllt yn rhoi agwedd broffesiynol i’r drefn. O ran cysylltu gyda wardeniaid, amlygwyd nad oedd hyn yn effeithiol gan fod y warden yn dueddol o fod allan yn y maes drwy’r dydd. Amlygwyd hefyd bod Pencampwr Aelodau wedi  ei benodi yn bwrpasol i rannu gwybodaeth. Ategwyd yr aelodau bod y protocol aelodau yn effeithiol a llongyfarchwyd Gethin a’r tîm am eu gwybodaeth a’u hymatebion amserol.

 

                v.       O ran gwerthiant tai nodwyd bod y cyfartaledd wedi gostwng i rhwng 5 – 7 tŷ yn cael eu gwerthu yn flynyddol. Nodwyd bod gan y Llywodraeth fwriad i ostwng y disgownt o £16,000 i £8,000 fydd yn gwneud y broses yn llai deniadol i’r tenant. Mae’r fenter ‘Hawl i Brynu’ yn parhau gyda chyfnod cymhwyso o fod wedi byw yn yr eiddo am ddwy flynedd cyn gwneud cais. Yn ôl Llywodraeth San Steffan, mae’n ddymuniad, ar gyfer pob tŷ sydd yn cael ei werthu, dylai un gael ei adeiladu yn ei le, ond ymddengys bod gan Llywodraeth Cymru ymrwymiad cadarn i waredu’r prosiect ‘Hawl i Brynu’.

 

               vi.       Wrth ymateb i gais gan Aelod am wybodaeth i rannu gyda thenantiaid yng nghyd-destun pwy sydd yn cael blaenoriaeth, nodwyd bod ceisiadau yn cael eu rheoli gan y Tîm Opsiynau Tai gyda chydweithio da gyda’r Gwasanaethau Tai. Amlygwyd hefyd bod rhaid parchu Diogelwch Gwybodaeth ac felly ni ellir rhannu gwybodaeth am denantiaid. Gwerthfawrogwyd y gwaith roedd aelodau yn ei wneud i liniaru sefyllfaoedd.

 

              vii.       Mewn ymateb i sylw yn nodi siom fod CCG wedi penodi dau uwch Swyddog di-gymraeg a’r drwg deimlad roedd wedi ei greu, amlygwyd nad oedd yn benderfyniad hawdd. Nodwyd bod problemau recriwtio a’u bod wedi ceisio ymateb i’r sefyllfa. Mae gwaith CCG at y Gymraeg yn parhau, ond fel busnes rhaid sicrhau bod y bobl iawn yn y swyddi iawn ac felly hyn yn flaenoriaeth.

 

             viii.       Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwella trefniadau cydweithio o ran sefyllfa Tai Gwag, nodwyd bod tai gwag yn broblem ariannol i CCG ac felly os gall aelodau lleol gefnogi CCG drwy hyrwyddo tai gwag buasent yn ddiolchgar iawn.

 

               ix.       O ran perchnogaeth tiroedd, amlygwyd y buasai CCG yn cysylltu gydag aelodau unigol

 

                x.       O ran newid perthynas, amlygwyd y buasai’r aelodau yn hoff o weld y berthynas yn parhau rhwng y Cyngor a CCG gan fod cydweithio yn llesol. Gwnaed awgrym cychwynnol y buasai modd cynnal trafodaeth flynyddol yn y  Pwyllgor Craffu Cymunedol i drafod / craffu gwaith yr holl gymdeithas tai sydd yn darparu cartrefi yng Ngwynedd.

 

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad i’r drafodaeth ac i  gynrychiolwyr Cartrefi Cymunedol Gwynedd am fynychu’r cyfarfod. Derbyniwyd yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: