Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r
Cynllun Gweithredu, sy’n cynnwys y 3 elfen ganlynol o gefnogaeth y gellir ei
gynnig i aelodau a chlercod cynghorau cymuned ar faterion yn ymwneud â’r Cod
Ymddygiad:-
1. Cyngor ar
faterion penodol - Parhau i gysylltu gyda’r Swyddog Monitro neu’r Dirprwy
Swyddog Monitro.
2. Gwefan
Cyngor Gwynedd - Tudalen Pwyllgor Safonau i gynnwys gwybodaeth a
chanllawiau yn ogystal â dolenni i wefannau eraill defnyddiol.
3.Hyfforddiant - Cynnal sesiwn hyfforddiant rhithiol ar ffurf ‘webinar’.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau
yn gwahodd y pwyllgor i gymeradwyo cynllun gweithredu i gyfarch y materion a
godwyd yn Adroddiad y Cyn-gadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol yn dilyn eu
hymgynghoriad gyda detholiad o glercod ynglŷn â’r fframwaith moesegol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyn-gadeirydd a’r Aelod
Pwyllgor Cymunedol am yr holl waith oedd wedi mynd ymlaen yn y cefndir.
Gwahoddwyd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol i gyflwyno ei
sylwadau ar y cynllun gweithredu.
Nododd:-
·
Ei fod yn croesawu’r adroddiad, a bod yma
ddealltwriaeth o beth yw dyletswydd y Cyngor Sir a’r Pwyllgor Safonau, ac mai
dyletswydd y pwyllgor yw edrych ar ôl, a cheisio codi, safonau yn y cynghorau
cymuned.
·
Ei fod yn cytuno ag argymhellion yr adroddiad,
ond y dymunai ychwanegu bod llythyr yn cael ei anfon at yr holl gynghorau tref
a chymuned yn nodi penderfyniad y pwyllgor fel bod y clercod a’r cadeiryddion
yn gwybod bod modd iddynt gysylltu ag Adran Gyfreithiol y Cyngor Sir i gael
cyngor ar faterion penodol.
·
Y byddai’r hyfforddiant rhithiol ar ffurf
‘webinar’ yn ein hamddiffyn os yw pobl yn honni nad ydynt wedi cael y cyfle i
gael hyfforddiant. Gan hynny, roedd yn
bwysig iawn bod yr hyfforddiant yma’n cael ei gynnig.
·
Bod y materion eraill a godwyd yn
faterion gweinyddol i’r Cyngor Sir eu hystyried, ac yn gwbl ar wahân i waith y
Pwyllgor Safonau.
Mewn ymateb i sylwadau’r Aelod Pwyllgor Cymunedol, nododd y
Swyddog Monitro:-
·
Bod y clercod eisoes
yn cysylltu â’r Adran Gyfreithiol i gael cyngor ar faterion penodol.
·
Ei fod wedi pasio’r
adroddiad i sylw’r Gwasanaethau Corfforaethol fel bod yna ymwybyddiaeth o’r
materion a godwyd o ran sut mae’r Cyngor yn ymateb yn gyffredinol i ymholiadau.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Awgrymwyd, unwaith y bydd y sesiwn
hyfforddiant rhithiol ar gael ar wefan y Cyngor, y gellid gofyn i Unllais Cymru
ofyn i bob cyngor tref a chymuned ei gynnwys fel eitem yn eu cyfarfod blynyddol
nesaf, fel bod pawb yn ei weld.
Awgrymwyd hefyd y byddai tua 20 munud o hyfforddiant yn ddigonol. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro y
byddai’r hyfforddiant tuag awr o hyd, ac yn cyfleu’r prif bwyntiau o ran y Cod
Ymddygiad. Nododd hefyd, unwaith y
byddai’r hyfforddiant ar y wefan, y byddai modd i gynghorau ei ddefnyddio, boed
hynny cyn, neu yn ystod, cyfarfod o’r Cyngor pan fo pawb gyda’i gilydd.
·
Awgrymwyd na fyddai
angen i’r cynghorau cymuned a thref gynnwys yr hyfforddiant yn flynyddol ac
efallai y byddai unwaith ar ôl pob etholiad yn ddigonol, heblaw bod yna aelodau
newydd yn ymuno â’r cyngor. O ran cael y
neges yma drosodd i’r cadeiryddion a’r clercod, awgrymwyd bod hynny’n cael ei
gynnwys yn y llythyr fydd yn cael ei yrru allan, ar gais yr Aelod Pwyllgor
Cymunedol, yn nodi penderfyniad y pwyllgor hwn.
·
Nodwyd mai’r broblem fwyaf yw datgan
buddiant, ac nad yw pobl yn deall bod angen iddynt adael y cyfarfod pan
drafodir mater mae ganddynt fuddiant ynddo.
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod y drefn datgan buddiant yn
gymhleth oherwydd ei bod yn ceisio paratoi ar gyfer pob posibilrwydd. Yn gyffredinol, roedd y prif faterion y deuir
ar eu traws wrth ddatgan buddiant yn gymharol syml, ac roedd taflen fechan ar
gael i dywys aelodau drwy’r broses fesul cam.
Weithiau roedd yn fater o arfogi’r clerc i fod yn fwy cadarn. Roedd y buddiannau yn fwy astrus ar lefel
cynghorau tref a chymuned, ac efallai mai’r her o ran yr hyfforddiant oedd
tynnu’r cymhlethdod allan a’i gadw’n gymharol syml. Anaml iawn y deuir ar draws y materion mwy
cymhleth yn y system, ac roedd yn bwysig cael y pethau sylfaenol yn iawn, a
phoeni llai am y rhai mwy esoterig.
·
Nodwyd y cytunid â’r syniad o gyflwyno’r
hyfforddiant fel eitem yng nghyfarfodydd blynyddol y cynghorau, ond awgrymwyd
bod awr o gyflwyniad yn rhy faith, ac y byddai negeseuon yn cael eu colli. Yn hytrach, byddai fideo 15-20 munud yn
ddigonol, gyda thua awr o hyfforddiant mwy manwl yn cael ei deilwrio ar gyfer y
clercod. Awgrymwyd hefyd y byddai’n
fuddiol cynnwys 3-4 astudiaeth achos fel ffordd o amlygu’r egwyddorion y tu ôl
i ddatgan buddiant ac i gynorthwyo pobl i ganolbwyntio’r meddwl, ond y dylai’r
achosion hynny fod yn rhai syml iawn lle mae’r sefyllfaoedd yn amlwg a
chlir. Mewn ymateb, nododd y Swyddog
Monitro ei fod yn llwyr ddeall y sylw o ran gwylio awr o fideo, ond bod cywasgu
hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad i awr, gan gynnwys astudiaethau achos, yn gryn
her ynddo’i hun. Eglurodd, os oes
cŵyn i’r Ombwdsmon, y gofynnir i’r aelod os yw ef/hi wedi derbyn
hyfforddiant, a’i bod yn anodd gadael hynny i’r clercod, gan fod yna amrywiaeth
o glercod o ran profiad ar draws y sir.
Cytunid bod angen cynnwys yr elfen ryngweithiol er mwyn cadw’r
hyfforddiant yn fyw ac yn ddiddorol, a bwriedid edrych ar y fformat, gan, o
bosib’, redeg peilot gerbron y pwyllgor os yw amser a rhaglen waith y pwyllgor
yn caniatáu.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu,
sy’n cynnwys y 3 elfen ganlynol o gefnogaeth y gellir ei gynnig i aelodau a
chlercod cynghorau cymuned ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad:-
1.
Cyngor ar faterion penodol - Parhau i gysylltu
gyda’r Swyddog Monitro neu’r Dirprwy Swyddog Monitro.
2.
Gwefan Cyngor Gwynedd - Tudalen Pwyllgor
Safonau i gynnwys gwybodaeth a chanllawiau yn ogystal â dolenni i wefannau
eraill defnyddiol.
3. Hyfforddiant - Cynnal
sesiwn hyfforddiant rhithiol ar ffurf ‘webinar’.
Dogfennau ategol: