Agenda item

BRYNFFYNNON, LOVE LANE, DOLGELLAU, LL40 1RR

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

1.            CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – Brynffynnon, Love Lane, Dolgellau, LL40 1RR

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais. Wrth amlygu absenoldeb gwrthwynebwyr y cais, gofynnodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Trwyddedu gadarnhau os oedd y gwrthwynebwyr wedi derbyn llythyr yn nodi dyddiad ac amser y gwrandawiad. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu bod llythyr wedi  ei anfon at bob gwrthwynebydd gyda thystiolaeth yn cefnogi hyn.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Steven Holt

                                                Ms Debra Harries

                                                Mrs Angela Lienz

                                                Mr Bernhard Lienz

 

a)    Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer

Brynffynnon, Love Lane, Dolgellau mewn perthynas â chyflenwi alcohol a dangos ffilmiau i unigolion nad ydynt yn breswylwyr gwely a brecwast sydd yn aros ar yr eiddo, ynghyd a’r hawl i  weini lluniaeth hwyr y nos i rai nad ydynt yn breswylwyr rhwng 23:00 a 01:00 mewn digwyddiadau arbennig. Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd bod gan yr eiddo drwydded bresennol ar gyfer gwerthu alcohol a dangos ffilmiau i breswylwyr yr eiddo yn unig. Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno er mwyn denu cwsmeriaid, nad ydynt yn breswylwyr i’r bwyty, a galluogi bod diodydd alcohol ar gael iddynt.

 

Nodwyd bod swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu gyda thystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod Cyngor Tref Dolgellau yn gefnogol i’r cais a bod chwe llythyr wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, atal trosedd ac anrhefn a  diogelwch y cyhoedd. Amlygwyd bod yr holl wrthwynebwyr yn cyfeirio sail eu pryderon am anaddasrwydd y ffordd fynediad cul i gynnydd mewn traffig: pryder y byddai cynnydd mewn ymwelwyr i’r eiddo yn creu sefyllfa lle na fyddai cerbydau argyfwng yn cael mynediad i’r eiddo; bod yr eiddo o fewn ardal breswyl ddistaw ac y byddai caniatáu'r drwydded yn cynyddu sŵn; bod potensial o gynnydd mewn trosedd ac anrhefn

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:

·         Prif amcan y cais oedd gwerthu alcohol i rai nad ydynt yn breswylwyr

·         Mai cynhwysedd yr ystafell yw 20

·         Bod mannau parcio digonol yn y dref ynghyd a lle i hyd at 10 car ar y safle

·         O ran monitro sŵn, nodwyd y byddai cais i ymwelwyr ymadael a’r gwesty, yn drefnus ac yn ddistaw. Byddai bwyd yn cael ei weini rhwng 6:30pm ac 8:30pm gyda phobl yn gyffredinol yn ymadael am oddeutu 10:00pm. Gallai hyn fod yn hwyrach ar ddigwyddiadau arbennig, megis Nos Galan

·         Nid yw’r gwesty yn lle rhad i yfed a bwyta ac felly ni ragwelir cynnydd mewn troseddau - nid oedd unrhyw fwriad creu aflonyddwch - byddai rhaid ystyried eu preswylwyr, eu staff a'u cymdogion eu hunain

·         Bod y cais am drwydded ffilmiau yn codi oherwydd ceisiadau gan sefydliadau megis Merched y Wawr a Cyngor Gwynedd i logi ystafell gyfarfod / dangos ffilmiau byr

·         Bod y gwesty yn darparu  llety gwyliau da a swyddi lleol

·         Bod darparu lluniaeth hwyr y nos yn wasanaeth ychwanegol mewn ymateb i geisiadau gan westai gwely a brecwast eraill

·         Cyfanswm posib i breswylwyr yw 16 ac felly, lle i 4 ychwanegol sydd yn bosibl

 

ch)   Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y byddai un person cyfrifol, dynodedig  ar ddyletswydd ar y safle bob amser. Ychwanegwyd na fydd bar swyddogol ar gael - diodydd gyda bwyd yw’r bwriad gyda bocs gonestrwydd yn y lolfa i breswylwyr yn unig. Ni fydd unrhyw werthiant alcohol yn digwydd ar ôl 11pm. Ni fydd unrhyw aelod o staff o dan 18 oed yn gwerthu alcohol.

 

d)    Cydnabuwyd y llythyrau a dderbyniwyd o’r cyfnod ymgynghori

 

Mynegwyd siom nad oedd y gwrthwynebwyr yn bresennol i fynegi eu sylwadau ac i ymateb i gwestiynau gan yr Is Bwyllgor

 

dd)     Wrth grynhoi y cais, nododd yr ymgeisydd

·         Y bwriad yw peidio agor sefydliad gwerthu bwyd yn hwyr yn y nos gyda bar, ond ehangu'r drwydded bresennol er mwyn gweini bwyd da o safon uchel i rai di breswyl.

·         Eu bod yn gydnabyddedig ar wefan www.visitwales.com; eu bod wedi ennill nifer o wobrau ac anrhydeddau – hyn oll yn hybu’r economi leol

·         Nad oeddynt am beryglu eu henw da

 

e)   Ymneilltuodd aelodau’r Is Bwyllgor o’r Siambr i drafod y cais ac fe  ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd.  Rhoddwyd  sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003

           Trosedd ac Anhrefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

ynghyd â chanllawiau’r Swyddfa Gartref a pholisi trwyddedu’r Cyngor.

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor holl sylwadau'r ymgeisydd a oedd yn cadarnhau mai bwriad y cais oedd galluogi'r  eiddo i ddarparu alcohol gyda phrydau bwyd, yn hytrach na o far, ar gyfer y rhai hynny nad oedd yn breswylwyr. Derbyniodd yr Is-bwyllgor gadarnhad bod mynediad i far gonestrwydd ar yr eiddo yn gyfyngedig i breswylwyr yn unig. Ystyriodd yr Is-bwyllgor yn ogystal sicrwydd yr ymgeisydd y byddai aelod o staff yn bresennol pan fo pobl di breswyl yn bresennol ar y safle. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, felly, bod y safle yn cael ei oruchwylio yn briodol.

 

Yn ychwanegol, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i sylwadau’r partïon â diddordeb a oedd yn codi pryderon am ardrawiad posibl caniatáu’r drwydded ar ymddygiad gwrth gymdeithasol, sŵn a phroblemau traffig/parcio. Tra bo’r Is-bwyllgor yn derbyn bod pryderon o’r fath yn gallu o bosib fod yn berthnasol i’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch cyhoeddus, ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth o ddigwyddiadau blaenorol ac nid oedd presenoldeb y partïon â diddordeb yn y gwrandawiad i ymhelaethu ar eu pryderon. O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn mai ychydig iawn o bwysau, os o gwbl, y gellid ei briodoli i’r sylwadau hyn.

 

Diystyriodd yr Is-bwyllgor rhai sylwadau ar y sail eu bod yn amherthnasol, er enghraifft bod yna ddigon o sefydliadau trwyddedig yn y dalgylch.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2:00pm a daeth i ben am 3:15pm

 

Dogfennau ategol: