Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Cyflwyno adroddiad ar ddatblygiad strategol y bartneriaeth gan Reolwr Cyflawni  Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn

 

 

Cofnod:

a)            Croesawyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Aelod Cabinet Diogelwch Cymunedol), Catherine Roberts (Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn) a’r Prif Arolygydd Mark Armstrong (Heddlu Gogledd Cymru) i’r cyfarfod.

           

b)            Amlygodd yr Aelod Cabinet bod maes gwaith y bartneriaeth yn un eang a dyrys gyda’r prif nod o gadw ein Cymunedau’n ddiogel. Tynnwyd sylw at yr adroddiad oedd yn olrhain cefndir y gwasanaethau a’r adnoddau, ynghyd â gwaith y bartneriaeth. Nodwyd bod atebolrwydd yn heriol oherwydd bod angen cydweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a’r Partneriaethau Rhanbarthol. Ategodd bod cydweithio da gyda Môn.

 

c)            Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol gan gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn gosod  fframwaith i’r blaenoriaethau. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hoblygiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006  

 

ch)         Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau a gyfeiriwyd at y Bartneriaeth yn dilyn cyfarfod paratoi, cafwyd y sylwadau canlynol.

 

·         Ceir di-dreth. Cyfeiriwyd at wefan berthnasol lle y gellid mewnbynnu manylion. Nodwyd mai'r Heddlu oedd yn ymdrin â cheir heb dreth gyda chydweithrediad y DVLA.

·         Parcio ceir heb ddefnydd - dim yn ymddangos yn flaenoriaeth i’r Heddlu, ond amlygodd y Prif Arolygydd nad oedd hyn yn gywir a bod yr Heddlu yn cydweithio gyda Gwasanaethau Gorfodaeth y Cyngor a’r DVLA i ddatrys y problemau hyn. Anogwyd yr Heddlu i gydweithio hefyd gyda’r Cymdeithasau Tai

·         Argaeledd Plismon Lleol - amlygwyd nad oedd rhifau swyddfeydd yr Heddlu bellach yn cael eu rhannu – hyn yn cael ei weithredu yn ganolog. Cytunwyd bod gwaith papur yn tra arglwyddiaethu'r gwaith plismona, ond bod pob ymgais yn cael ei wneud i wella'r sefyllfa yn lleol. Un o’r gwelliannau hynny yw presenoldeb y PSO’s ar ein strydoedd.

·         Cynllun OWL (Online Watch Link) - Nodwyd bod oddeutu cost o  £30k ar y cynllun a gafodd ei gyllido gan yr Heddlu. Adroddwyd bod y cynllun wedi dod i ben gan nad oedd digon wedi cofrestru gyda’r cynllun a bod cyfryngau cymdeithasol megis twitter a facebook yn gweithio yn well

·         Cynlluniau cefnogi’r blaenoriaethau. Adroddwyd bod 26 cynllun 2015/2016 yn wyrdd, 8 yn felyn ac 1 yn goch. Nodwyd bod nifer o’r cynlluniau melyn wedi eu trosglwyddo i gynllun 2016/2017.

·         Galwadau Niwsans.  Adroddwyd bod yr Heddlu wedi bod yn cydweithio gyda Adran Safonau Masnach i geisio gwarchod pobl hŷn, bregus. Nodwyd bod teclyn ‘truecall’ wedi cael ei hyrwyddo ac wedi bod yn llwyddiannus.

·         Mabwysiadau Pwerau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Adroddwyd bod Gwynedd, fel Môn, bellach wedi cwblhau’r broses o fabwysiadau’r pwerau ers Gorffennaf 2016.

·         Trosglwyddo Tîm WISDOM (sydd yn cynnwys swyddogion yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf), i weithio o adeilad y Cyngor ym Mhenrallt. Mae’n wasanaeth ble mae’r ddwy asiantaeth yn cydweithio yn agos i reoli'r troseddwyr mwyaf peryg yn ein cymunedau. O ran amserlen, y gobaith yw symud y tîm i’r adeilad ym mis Tachwedd.

·         Amserlen cyflawni dadansoddiadau anghenion hyfforddi o fewn maes camdriniaeth ddomestig. Adroddwyd bod yr hyfforddiant ar gyfer codi ymwybyddiaeth a derbyniwyd bod yr amserlen, gan Lywodraeth Cymru, yn un uchelgeisiol.

 

d)            Wrth gyfeirio at waith a blaenoriaethau’r Bartneriaeth, amlygwyd bod Cynllun 2016/17 yn anelu i adeiladu ar y gwaith helaeth a ddigwyddodd dros y blynyddoedd diwethaf  sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn Trosedd ac Anhrefn yn Siroedd Gwynedd a Môn. Bydd y Cynllun yn canolbwyntio ar feysydd gwaith, yn seiliedig ar yr asesiad strategol, ac ar y canllawiau a’r blaenoriaethau a sefydlwyd gan y Bwrdd Rhanbarthol. Bydd y Bartneriaeth yn parhau i edrych ar feysydd gwaith sydd eisoes wedi'i sefydlu a chyfrannu  at  feysydd ffocws.

 

Tynnwyd sylw at brif gerrig milltir y Bartneriaeth oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

dd)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryderon troseddau rhywiol difrifol, nododd y Prif Arolygydd bod y digwyddiadau sydd yn y newyddion yn ddigwyddiadau hanesyddol. Yng nghyd-destun ‘niferoedd’, nodwyd bod hyn yn ‘arwyddocaol’ gan fod nifer y digwyddiadau sydd yn cael eu cofnodi yn awgrymu bod gan bobl ffydd yn yr Heddlu i ddod ymlaen gyda chwyn. Ychwanegodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol bod cynnydd aruthrol yn y gwaith cefnogol dros y 10 mlynedd diwethaf a chynnydd mewn plant ifanc yn adrodd. Ategwyd bod y newid mewn diwylliant i’w groesawu a bod trafodaeth iach o gwmpas y maes yn cael ei gynnal ar lefel rhanbarthol.

 

e)            Croesawyd y Cynllun WISDOM ac yng nghyd-destun yr elfen PREVENT nodwyd bod dyletswydd ar y Cyngor i gyfarch yr anghenion.

 

f)             Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dod a Chynllun OWL i ben, amlygodd y Prif Arolygydd bod angen gwneud defnydd gwell o’r arian a chyrraedd y mwyafrif. Derbyniwyd bod yr adnodd yn un gwerthfawr, ond yn anffodus nid oedd defnydd digonol yn cael ei wneud ohono.

 

  ff)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd mewn poblogaeth y sir yn ystod Gorffennaf ac Awst a sut roedd y gwasanaethau yn cynllunio ymlaen o ran adnoddau, nododd y Prif Arolygydd bod y gwasanaethau yn ceisio ymateb i’r galw drwy ddefnyddio adnoddau yn wahanol oherwydd nid oedd adnoddau ychwanegol.

 

g)            Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Aelodau am y sylwadau. Ategodd efallai nad oedd y maes yn cael sylw digonol ac fe awgrymodd yr angen i gynnal sesiwn briffio gyda’r holl Aelodau er mwyn rhannu gwybodaeth sylfaenol am agweddau o’r maes.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol am ei arbenigedd yn y maes ac i’r gwaith roedd y tîm bychan yn ei gyflawni.

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet, i’r Prif Arolygydd a’r Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol am eu cyfraniad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: