Aelodau Cabinet Tlodi, Amddifadedd,
Economi, Tai â’r Amgylchedd
Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies Economi a Chymuned
Y Cynghorydd Ioan Thomas Tai
ac Amddifadedd
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Iaith
Y Cynghorydd John Wynn Jones Amgylchedd
Y Cynghorydd Dafydd Meurig Cynllunio
a Rheoleiddio
Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor
Cofnod:
Yn unol â chyfundrefn rheoli perfformiad y
Cyngor, cyflwynwyd adroddiad trosolwg o berfformiad y Cyngor yn canolbwyntio ar
Tlodi, Amddifadedd, Economi, Tai, Y Gymraeg a’r Amgylchedd. Amlygwyd bod yr adroddiad
yn cyfarch cynlluniau trawsnewidiol y cynllun strategol yn ogystal â thynnu
sylw at y mesurau perfformiad sydd yn bwysig i bobl Gwynedd ac yn ganolog i
waith dyddiol y Cyngor
i.
Maes yr
Economi
a.
Swyddi gwerth uchel ac o ansawdd - amlygwyd bod
prosiect gyda Llywodraeth Cymru i werthu potensial Gwynedd i ddatblygwyr wedi
chwarae rhan flaenllaw mewn creu 35 o swyddi gwerth uchel yn y Sir (diffiniad o
swydd gwerth uchel yw cyflog £26,500+ ).
b.
Tynnwyd sylw at 15 swydd yn NMI Gaming
Parc Menai: nifer o gyfleoedd yma a potensial i greu oddeutu dros 200 o swyddi
yn y Sir: angen ystyried sgiliau priodol, meddylfryd a bod yn greadigol i geisio'r budd
gorau o’r cyfleon hyn
c.
Dyraniad proffil gwerth uchel – adroddwyd nad oedd
arian yn cael ei dalu tan ar ôl y digwyddiad.
Cyfle yma i werthuso faint o gyfleodd
mae cwmnïau lleol wedi ei gael i ddarparu bwyd a llety er enghraifft,
a’r cyfleoedd o rannu delweddau o’r Sir.
Materion
yn codi o’r drafodaeth:
-
Nid oes
arian i fuddsoddi ac felly angen bod yn greadigol
wrth ystyried dulliau gweithredu mewn ardaloedd fel Dwyfor a Meirionnydd. Awgrym y dylai'r Cyngor weithio fel galluogwr
- hyn yn her sylweddol. Grantiau ac adnoddau yn prinhau
ac anodd yw adfywio economi heb arian - rhaid
bod yn arloesol a defnyddio'r arfau ar adnoddau sydd
ar gael yn
well.
-
Twristiaeth yw prif economi'r ardal - nid oes
cefnogaeth ddigonol gan y Cyngor i dynnu pobl i mewn
-
Cyfarch buddsoddiadau Zip
World a Parc Menai, ond siomedig nad oedd cyfeiriad
at fuddsoddiad Plas Heli, Pwllheli
-
Angen ymestyn y llwybrau cerdded / llwybrau beicio
ym Mhenllyn
-
Yng nghyd-destun canran cwsmeriaid sydd yn fodlon
gyda’r gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau – awgrymwyd y dylai'r gwaelodlin
fod wedi ei osod cyn trafod y toriadau
-
Amgueddfa Lloyd George - rhaid ceisio gweithio mewn
ffordd wahanol i arbed y gwasanaeth
-
Awgrym i addasu geiriad yr adroddiad i adlewyrchu
toriadau
ii.
Maes Tai
a)
Prosiect Cydymdrechu yn erbyn tlodi yn cynnwys dwy
flaenoriaeth - tlodi gofodol a thlodi poblogaeth. Nodwyd bod gwaith ymchwil gan
y Cyngor wedi adnabod bod 6,500 o gartrefi yng Ngwynedd
yn cael eu heffeithio gan y Ddeddf Diwygio Lles. Amlygwyd bydd blaenoriaeth yn
cael ei roi i aelwydydd un rhiant.
b)
Agenda Trechu Tlodi - nid yw yn treiddio trwy
adrannau'r Cyngor ac felly awgrymwyd gwahodd Penaethiaid, Swyddogion ac Aelodau
Cabinet at ei gilydd i sicrhau bod yr agenda yn cael ei cyfarch.
Materion yn codi o’r drafodaeth:
-
Tlodi plant - angen treiddio'r broblem i mewn i
wasanaethau Cyngor
-
Cludiant ôl 16 yn enghraifft o ddiffyg ymroddiad i
sicrhau bod plant o aelwydydd tlotaf Gwynedd yn cael addysg uwch
-
Calonogol gweld
lleihad yn yr amser disgwyl
ym maes digartrefedd
-
Tai Fforddiadwy
– heriwyd y nifer o gartrefi newydd oedd yn cael
eu hadeiladu gan awgrymu bod mwy na 31.
iii.
Maes Iaith
a)
Hyrwyddo'r Gymraeg drwy gefnogi a grymuso pedair
cymuned - adroddwyd bod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Nolgellau
b)
Y Gymraeg ar Gwasanaethau Cyhoeddus - Nodwyd bod y mater ar raglen cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol 23.9.16
lle bydd trafodaeth yn cael ei hysgogi i weld y ffordd orau i hyrwyddo’r
Gymraeg.
c)
Siarter Iaith - ymateb i’r data lleol a gasglwyd yn cael ei weithredu. Y cynllun yn cael ei ymestyn
yn genedlaethol
ch) Cymraeg yn y Cyngor - awdit wedi ei gwblhau.
Yr ymateb wedi bod yn galonogol - camau nesaf fydd codi ymwybyddiaeth a hyder
pobl mewn defnyddio’r Gymraeg. Trafodaethau i'w
cynnal gyda'r Uned Gofal Cwsmer
Materion yn codi o’r drafodaeth:
-
Yn dilyn datganiad gan y Comisiynydd Iaith o’r
bwriad i beidio cynnal arholiadau ail iaith, amlygodd yr Aelod Cabinet ei fod
yn gefnogol i’r datganiad. Yng Ngwynedd y disgwyliad
yw i bob plentyn fod yn rhugl yn y Gymraeg ac sefyll arholiad iaith gyntaf.
-
Lefelau siaradwyr Cymraeg yng Ngarndolbenmaen
yn lleihau - cais gan yr Aelod Lleol i gael ei gynnwys mewn trafodaethau
-
Angen i Iaith fod yn pontio gwasanaethau ac nid
cael ei gyfyngu i adrannau megis Tai a Chynllunio. Dylai unrhyw faterion Iaith
gael eu cyfeirio at yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Iaith.
iv.
Maes Priffyrdd
a)
Canran o’r
rhagolygon diweddar o ran gwastraff trefol a gesglir bellach yn 62.7% - y nod yw cyrraedd 70% erbyn 2025.
b)
Casgliadau 3 wythnos wedi ei weld fel ymarfer da -
Conwy bellach yn ystyried treialu 4 wythnos. Amlygwyd bod rhaid i Wynedd fod yn fyw i’r hyn sydd yn bosib
Materion
yn codi o’r drafodaeth:
-
Cyfarch gwasanaeth newydd o ddidoli gwastraff
cymysg yn Canolfan Ailgylchu Rhwngddwyryd - hyn yn
effeithiol iawn
-
Adran Ymgynghoriaeth
– diffyg yn y target net o
£160k – angen eglurhad manylach dros y rhesymau
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chais a wnaed i’r Aelod Cabinet (19.5.16) gynnal
trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru i bwrpas cynnwys tunelloedd
compostio cartref yn y cyfrifiad ailgylchu fel nad yw yn cael effaith ar
berfformiad y Cyngor yn erbyn eu targedau, amlygwyd bod yr Aelod Cabinet wedi
cysylltu ond heb lwyddiant. Ategwyd y byddai ef a’r Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn
cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet (Llywodraeth Cymru) dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig, ym mis Tachwedd.
v.
Maes Rheoleiddio
a)
Amlygodd yr Aelod Cabinet bod y mesurau yn cael eu
monitro a’u herio yn aml
b)
Yn unol â chais yr Aelodau, cyflwynwyd adroddiad
(mesurydd cludiant THS/007) gan yr Aelod Cabinet. Roedd yr adroddiad yn adrodd
ar y sefyllfa o ran pobl anabl llai na 60oed gyda thocyn teithio rhatach ar y
bws, ynghyd a beth yw’r sefyllfa yng Ngwynedd a sut
mae hyn yn cymharu gyda siroedd eraill. Adroddwyd bod Gwynedd yn cymharu yn
ffafriol gyda Chynghorau tebyg (gwledig)
Materion yn codi o’r drafodaeth:
-
Diolchwyd am yr
adroddiad mesurydd cludiant THS/007
-
Awgrym i beidio
defnyddio'r term ‘cydymffurfio yn fras’ yng nghyd destun sefydliadau hylendid bwyd (mesur
PAM9 Gwarchod y Cyhoedd). Dylai ynteu ddehongli ‘yndi’ neu ‘nac ydi’.
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad
Dogfennau ategol: