Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 14 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, creu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol
Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Gwenllian
Cofnod:
Cais amlinellol gyda rhai materion wedi
eu cadw yn
ôl i godi
14 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol
newydd a ffordd stad, creu rhandiroedd
gyda mynedfa a pharcio cysylltiol.
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron i godi 14 tŷ, creu mynedfa gerbydol a
ffordd stad ynghyd a darparu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol gyda
rhai materion wedi eu cadw’n ôl i’w cynnwys oddi fewn i gais manwl (pe
caniateir y cais amlinellol hwn). Yr unig fater
sy’n ffurfio rhan o’r cais amlinellol hwn yw'r fynedfa arfaethedig ac
mae’r materion sydd wedi’u cadw yn ôl yn
ymwneud â thirweddu, edrychiadau, cynllun a graddfa.
Nodwyd y prif elfennau i’r cais
sef:
·
darparu tai i
gynnwys 8 byngalo, 4 tŷ dormer ynghyd a 2 dy ddeulawr ac wedi eu dylunio
a’u gosod ar ffurf pâr gyda 4 o’r tai wedi eu cynnig fel tai fforddiadwy.
·
Creu 5
rhandir a mannau parcio cysylltiedig ar y rhan gwaelod o’r safle
·
Creu
mynedfa newydd - er mwyn gwasanaethu’r tai bydd angen creu mynedfa
newydd oddi ar y ffordd sirol
ddi-ddosbarth cyfagos (Ffordd Glan y Môr). Er mwyn galluogi creu’r fynedfa a
chael gwelededd safonol ynghyd a chreu llwybr troed newydd bydd y clawdd sy’n
gwahanu’r safle o’r ffordd sirol yn cael ei ddymchwel ar hyd holl ffin ogleddol
y safle.
Ymhelaethwyd ar y polisïau perthnasol a gan ystyried cyd-destun y polisïau
a’r canllawiau lleol roedd yn glir nad yw’r bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor a’i
fod yn groes i bolisïau a chanllawiau lleol ynghyd â chyngor a gynhwysir yn
nogfennau Llywodraeth Cymru ar sail lleoliad, mwynderau gweledol, effaith ar
safleoedd o bwysigrwydd archeolegol, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt.
O ystyried yr holl asesiadau argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd
gwrthod y cais oherwydd nad yw’n dderbyniol ar sail yr egwyddor o ddatblygiad
tai yn y lleoliad dan sylw, effaith ar heneb gofrestredig, effaith ar fwynderau
gweledol, effaith ar ddiogelwch ffyrdd a cholled o glawdd a gwrych.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:
·
Apeliwyd i’r Pwyllgor ohirio rhag penderfynu
ar y cais
·
Bod safle’r
cais gyferbyn â ffin datblygu y Felinheli fel amlinellir
yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd
·
Bod y bwriad
yn cynnig 14 tŷ gyda 4 ohonynt yn rhai
fforddiadwy sydd yn gyfatebol i
30% o’r cyfanswm
·
Ceir amrywiaeth eang o gyfleusterau a gwasanaethau yn Felinheli a chredir bod rhain yn ddigonol ar
gyfer tyfiant yn y boblogaeth all ddeillio o’r datblygiad
arfaethedig
·
Bod 64.3% o boblogaeth Ward y Felinheli yn siarad
Cymraeg o’i gymharu a 65.4% yng Ngwynedd
·
Bod yr
amrywiaeth o dai sy’n cael eu
cynnig yn debygol o ddenu pobl sengl, teuluoedd
hŷn a theuluoedd gyda phlant a gall y datblygiad gael effaith bositif ar yr Ysgol
gynradd leol drwy gynyddu’r
nifer disgyblion
·
Bod nifer
o fewnfudwyr yn Ward y Felinheli wedi cynyddu o 191 i 280 - 46.6% rhwng 1991 a 2001sy’n cymharu â chynnydd Gwynedd o 47.5%
·
mai dim ond gostyngiad o
2.6 o siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 – 2011 sy’n golygu nad yw
mewnfudiad yn bobl di-gymraeg
·
bod y cynnig
yn ddeniadol iawn o ran denu pobl i fyw
yno oherwydd y cyfleusterau sydd ar gael yn
y Felinheli yn ogystal ag agosatrwydd at Bangor
a Chaernarfon
·
gyda Bangor a Chaernarfon yn
ganolfannau cyflogaeth pwysig byddai’r datblygiad yn hwyluso
pobl at wasanaethau lleol a mannau gwaith
·
bod y canrannau
tai haf yn weddol isel yn
y Felinheli o’i gymharu â’r canran
Sirol a olygai bod y posibilrwydd o ddefnydd y tai arfaethedig i’r perwyl hwn yn
weddol isel
(c) Gwnaed y pwyntiau canlynol gan yr
Aelod Lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):
·
bod Cyngor
Cymuned y Felinheli wedi datgan gwrthwynebiad
i’r datblygiad arfaethedig am nifer o resymau i gynnwys
bod y safle tu allan i’r ffin
datblygu fel a nodir yn adroddiad
y swydogion cynllunio
·
gan mai cais amlinellol sydd gerbron nid oes
sicrwydd pa fath o dai fwrieidir ddatblygu
ar y safle ac o’r herwydd apeliwyd
ar y Pwyllgor i beidio gohirio’r
cais ac i’w wrthod oherwydd nad oes galw
am dai marchnad agored yn y Felinheli
ar hyn o bryd
·
rhestrwyd rhai o ddatblygiadau
eisoes wedi eu cwblhau yn y Felinheli a / neu gyda chaniatadau i’w hadeiladu yn
y dyfodol
·
byddai’r datblygiad arfaethedig
yn creu cynnydd
mewn traffig a chreu tagfeydd ynghanol y pentref ac fe fyddai angen
lledu’r ffordd i greu llwybr
troed i wneud
y safle yn ddiogel
·
cyfeirwyd at y broblemau llifogydd
ynghyd â rhesymau bioamrywaeth
·
oherwydd y diffyg angen lleol am dai, gall hyn arwain yn
ei dro at effaith ar yr
iaith Gymraeg oherwydd bod y Felinheli yn un o’r cymunedau
lle mae oddeutu
gostyngiad o 8% ers y cyfrifiad diwethaf ac felly ni ellir derbyn
yr asesiad iaith a gyflwynwyd gan y datblygwr
(ch)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio nad
oedd cyfiawnhad i ohirio’r cais
oherwydd yn bennaf bod y safle tu allan i’r
ffin datblygu yn ogystal â phryderon
amgylcheddol.
(d) Cynigiwyd ac eilwyd i wrthod y cais
yn unol ag
argymhelliad y swyddogion cynllunio.
(dd) Mewn ymateb i ymholiad
gan Aelod, eglurwyd bod barn yr Uned Polisi ar
y Cyd ym mhwynt 5.16 wedi ei wneud yn
sgil asesiad gyflwynwyd ac nad yw yn golygu
bod yr Uned yn cefnogi’r cais
ond yn hytrach
bod y wybodaeth
yn cyfarch materion o safbwynt ystyriaeth cynllunio perthnasol sy’n ymwneud â materion ieithyddol a chymunedol.
Penderfynwyd: Gwrthod am y rhesymau canlynol:
1. Mae’r bwriad yn annerbyniol mewn egwyddor ac yn groes i
ofynion Polisi C1, CH7 a CH9 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac i Ganllawiau
Cynllunio Atodol y Cyngor ar Dai Fforddiadwy ac Adeiladu Tai Newydd yng Nghefn
Gwlad, Nodyn Cyngor Technegol 2 yn ymwneud a Thai Fforddiadwy, Nodyn Cyngor
Technegol ar Gynllunio ar Gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ynghyd a Pholisi
Cynllunio Cymru, pennod 9 ar Dai gan ei fod yn golygu codi tai newydd yng
nghefn gwlad agored heb gyfiawnhad.
2. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi , B23 a C1 o
Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Canllaw Cynllunio Atodol ar Adeiladu Tai
Newydd yng Nghefn Gwlad, Canllawiau Dylunio Gwynedd, Nodyn Cyngor Technegol 12
ar Ddylunio ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 ar Dai gan y buasai’r
bwriad yn golygu creu nodwedd anghydnaws mewn tirlun sensitif.
3. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi B7 o Gynllun
Datblygu Unedol Gwynedd, Polisi Cynllunio Cymru Pennod 6 a Chylchlythyr 60/96 y
Swyddfa Gymreig gan fydd y bwriad yn amharu’n andwyol ar osodiad ac integredd yr heneb gofrestredig a adnabyddir fel caer pentir
Dinas.
4. Mae’r bwriad i ddymchwel y clawdd a’r gwrych presennol yn
groes i ofynion Polisi A1 a B21 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Nodyn Cyngor
Technegol 5 ar Gynllunio a Chadwraeth Natur a Pholisi Cynllunio Cymru Pennod 5
ar Warchod a Gwella’r Dreftadaeth Naturiol a’r Arfordir gan nad oes asesiad
ecolegol wedi ei gyflwyno gyda’r cais a fyddai’n galluogi’r Awdurdod Cynllunio
Lleol i asesu’n fanwl effeithiau ecolegol
y datblygiad pwysig sydd yn cyfrannu’n helaeth tuag at gymeriad mwynderol yr ardal.
5. Mae’r bwriad yn groes i ofynion
Polisi A1 a CH33 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Nodyn Cyngor Technegol 18
ar Drafnidiaeth a Pholisi Cynllunio Cymru Pennod 8 ar Drafnidiaeth gan nad oes
digon o wybodaeth ar sail asesiad traffig wedi ei gyflwyno gyda’r cais sy’n
dangos bod y rhwydwaith ffyrdd lleol yn gallu ymdopi gyda chynnydd mewn traffig
fydd yn deillio o’r datblygiad.
Dogfennau ategol: