Agenda item

Ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad, i ennyn trafodaeth ar flaenoriaethau Strategaeth Partneriaeth Tai Gwynedd 2013 – 2017. Nodwyd rôl y cymdeithasau tai i gyflawni’r blaenoriaethau hyn ynghyd a sut bydd rhai materion yn cael eu cyfarch wrth adolygu'r Strategaeth ar gyfer y cyfnod  2017 - 2021.

 

Amlygodd y Rheolwr Strategol Tai bod Cymdeithasau Tai yn darparu mwy na chartrefi a bod yr adroddiad yn cyfeirio at yr hyn sydd wedi ei gwblhau ynghyd a’r prif lwyddiannau dros gyfnod y strategaeth. Ymddengys buddion ychwanegol megis cyfleoedd gwaith  a chyfleoedd i bobl symud ymlaen yn y farchnad dai. Er hynny, eu prif bwyslais yw adeiladu datblygiadau o’r newydd sydd yn cael eu hariannu drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru. Amlygwyd  bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed cyflenwad o 20,000 o unedau erbyn diwedd y Llywodraeth nesaf sydd yn rhoi pwyslais a  brys ar Gynghorau a Chymdeithasau Tai i ymateb. Y Cyngor sydd yn penderfynu blaenoriaethau strategol y datblygiadau hyn drwy gydweithio a chyfeirio’r  Cymdeithasau Tai i ardaloedd lle targedir ardaloedd gwahanol wedi eu rhannu yn ôl yr angen. Bydd y broses yn adnabod darpar denantiaid drwy'r Polisi Gosod a’r Tîm Opsiynau Tai. Cyfeiriwyd at Rôl y Wardeiniaid Ynni sydd yn dyngedfennol o ran cyflwyno a hyrwyddo cynlluniau. Nodwyd bod nifer o Bartneriaid y Bartneriaeth yn cyfrannu tuag ar y rôl yma - enghraifft o gynlluniau ynni yw ‘Nyth’ a ‘Cartrefi Clud’.

 

Ynghyd â datblygiadau newydd, eglurwyd bod y Bartneriaeth yn canolbwyntio ar faterion digartrefedd a’r Ddeddf Tai  drwy gydweithio gyda Chymdeithasau Tai a Thîm Cefnogi Pobl i ddarparu gwasanaethau i drigolion mwyaf bregus ein cymdeithas. Nodwyd, wrth adolygu’r strategaeth y bydd angen i’r partneriaid, fel darparwyr a hyrwyddwyr, fod yn ganolog i sicrhau bod y berthynas yn parhau.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod rhai ardaloedd yn parhau i weld angen

·         Beth yw gweledigaeth y Cymdeithasau Tai?

·         Rhaid gwneud mwy i gadw pobl yn lleol - angen hyder yn y drefn gosod

·         Pam adeiladu o’r newydd? - angen edrych ar y sefyllfa o dai ar werth a thai gwag

·         Treth llofftydd gwag yn gost ychwanegol i’r tenant

·         Bod adeiladu o’r newydd yn gallu creu geto tu allan i gymunedau lle gwelir pobl yn symud o ganol pentrefi i fyw ar y cyrion.

·         Angen cynlluniau sydd yn cynnwys mwy o fyngalos

·         Rhaid edrych yn fanwl ar y tymor hir o ran addasrwydd tai - rhaid cael gweledigaeth tymor hir

 

Cydnabuwyd bod y sefyllfa yn heriol  gydag anawsterau a thrafferthion sylweddol i wneud yr hyn sydd yn bosib gyda’r adnoddau sydd ar gael. Amlygwyd bod y Strategaeth yn gadarn - y capasiti i weithredu ac ariannu'r cynlluniau sydd yn heriol

 

Mewn ymateb i'r pryder am y drefn gosod, cydnabuwyd bod pwyslais wedi bod yn y gorffennol i osod o fewn amserlen dynn, ond bellach bod cydnabyddiaeth i  edrych ar gael y tenant cywir i’r lleoliad cywir. Derbyniwyd yr awgrym i gysylltu gyda’r Aelod Lleol mewn ardaloedd lle mae rhestri gwan neu sefyllfa, lle efallai, ceir rhybudd ymlaen llaw am dy gwag. Nodwyd bod cynnal adolygiad i waith y Tîm Opsiynau Tai  (sydd wedi ei sefydlu ers 2012) yn cael ei gwblhau

 

Cartrefi Clud - mewn ymateb i sylw amlygwyd bod gofynion y cynllun yn cyfyngu'r nifer o dai. Adroddwyd bod pob cynllun yn wahanol gyda meini prawf gwahanol ac amserlen dynn i gyflwyno cais. Mynegwyd pryder am ddiffyg adnodd o fewn yr uned a bod cydweithio a chefnogaeth y Cymdeithasau Tai wedi bod yn fanteisiol i geisio gwybodaeth. Ategwyd, bod y canllawiau cenedlaethol yn rhwystr ac awgrymwyd cysylltu gyda’r Cynulliad i adrodd nad oedd y drefn yn arwain at gynllunio effeithiol.

 

Mewn ymateb i sylw, ac awydd i adeiladu mwy o fyngalos ar gyfer pobl hŷn, amlygwyd bod y Strategaeth Letya Pobl Hŷn yn edrych ar y  sefyllfa  sy’n gyffredin ar draws y Sir. Nodwyd bod y diwydiant adeiladu a datblygwyr yn ymddangos yn ystyfnig gan nad yw adeiladu byngalo yn gost effeithiol. Nodwyd bod pedair ardal wedi ei hadnabod o fewn y Strategaeth Letya Pobl Hŷn a bod angen gwneud gwaith i geisio datrysiadau a chynnal sgwrs am ddyheadau teuluoedd.

 

Adroddwyd bod Tai Gofal Ychwanegol wedi rhyddhau 16 uned ar gyfer teuluoedd ym Mangor yn dilyn gwaith i hwyluso a helpu unigolion i symud. Wedi cwblhau Hafod y Gest ym Mhorthmadog, bydd angen edrych ar yr opsiynau nesaf gan ystyried modelau gwahanol ar gyfer cymunedau llai sydd yn cynnig yr un cyfleoedd i bobl hŷn.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gan groesawu'r cyfle i gynnal trafodaeth gychwynnol ynglŷn â chyfeiriad y Strategaeth a chynnig y sylwadau isod:

-       Fforddiadwyedd - pwysleisio bod angen ymateb i’r argyfwng fforddiadwyedd tai - i’r Bartneriaeth edrych ar ddulliau a ffyrdd gwahanol o wneud gwahaniaeth  ac ymateb i’r her drwy sicrhau tai fforddiadwy i bobl leol

-       Ceisio addasrwydd stoc tai  i sicrhau balans o ran y ddarpariaeth

-       Adnabod cyfleoedd, o leiaf mewn ardaloedd lle mae rhestri gwan, i gysylltu gyda’r Aelod Lleol i drafod y sefyllfa ynghyd â theilwra dulliau marchnata

-       Ystyried y posibiliadau i brynu tai sydd ar werth neu yn wag yn ogystal ac adeiladu o’r newydd er mwyn osgoi'r posibilrwydd o greu cymunedau an-hyfyw. Awgrym i drafod newid y pwyslais ac addasu'r trefniant sybsidi yn y tymor hir gyda Llywodraeth Cymru

-       Gan y bydd y Cyngor Llawn yn ystyried gweithredu Premiwm Ail Dai / Tai Gwag bod posib o ddenu incwm i’w glustnodi ar gyfer tai cymdeithasol, fforddiadwy – bydd angen i’r Bartneriaeth gynnal deialog o benderfyniad y Cyngor ar sut i weithredu hyn.

 

Dogfennau ategol: