Agenda item

Ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) 2015 - 2016. Cyfeiriwyd at y Cytundeb Trosglwyddo a nodwyd bod yn ofynnol iddynt nodi sut maent  wedi gwireddu’r addewidion a wnaed i denantiaid yn y Ddogfen Gynnig  a  gweithredu goblygiadau dan y Cytundeb Trosglwyddo. Amlygwyd bod canlyniadau'r adroddiad yn galonogol ac yn cael effaith gwerthfawr ar yr economi.

 

Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Llongyfarchwyd CCG ar dderbyn gwobr Caffael Cenedlaethol Cymru ac ar eu hadroddiad budd cymdeithasol positif.

·         Cymeradwywyd datblygiadau o’r newydd, ond angen sicrhau mwy o unedau ar gyfer pobl hŷn ac unedau un llofft.

·         Angen datrys cyfrifoldebau cynnal tiroedd mewn lleoliadau aml-berchnogaeth, gan roi ystyriaeth i’r diffyg hyblygrwydd yn y trefniadau talu

·         Dirywiad safonau ceginau, er enghraifft yn debygol o ddod gyda'i gilydd ac felly rhagweld y bydd angen buddsoddiad pellach

·         Cais i gryfhau cyswllt yr aelodau lleol - adnodd gwerthfawr i bontio cysylltiadau

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chwmni allanol yn llunio’r adroddiad, nodwyd bod proses tendro wedi ei dilyn oedd yn agored i bawb ac mai cwmni o Belfast oedd wedi llwyddo. Amlygwyd bod Menter Môn a chwmni o Bae Colwyn wedi cyfrannu mewnbwn lleol i’r adroddiadau

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofal cwsmer, nodwyd bod ystadegau gofal cwsmer yn is na’r disgwyl ac mai'r gwasanaeth trwsio oedd yn rhan o hyn. O ganlyniad, nodwyd bod y sefyllfa yn cael ei adolygu a bod gwaith yn cael ei wneud i drawsnewid er mwyn gwella effeithlonrwydd gofal cwsmer. Adroddwyd bod peilot wedi ei  wneud a bod pethau yn ymddangos yn well.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â derbyn yr adroddiad, adroddodd y Rheolwr Strategol Tai bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal pob 6 mis gyda CCG i adolygu’r gwerthoedd a’r addewidion. Derbyniwyd bod nifer o addewidion wedi eu gaddo, ond bellach teimlwyd bod CCG wedi cyflawni'r addewidion hynny ac felly derbyn bod hyn wedi ei gwblhau. Cadarnhawyd hyn gan yr Aelod Cabinet.

 

Amlygodd Prif Weithredwr CCG bod y cwmni bellach yn symud i gyfnod o ddatblygu ac eisiau cyflawni mwy o fewn cymunedau. Gwaed cais iddynt gael eu trin fel partner cyfartal  - fel y gwasanaethau tai eraill.

 

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad ac i gynrychiolwyr Cartrefi Cymunedol Gwynedd am fynychu’r cyfarfod.

 

Penderfynwyd

·         Derbyn y cyngor proffesiynol bod CCG wedi cyflawni addewidion y Ddogfen Gynnig yn amodol ar y pwyntiau isod:

·         Croesawu y dylid cadw perthynas agos gyda CCG hyd yn oed ar ôl cwblhau addewidion y Cytundeb

·         Llongyfarch llwyddiant y broses caffael gyda’r buddsoddiad a gafwyd yn lleol

·         Bod angen datrys cyfrifoldebau cynnal tiroedd mewn Stadau Tai Aml berchnogaeth

·         Bod angen chwilio i fodlonrwydd cwsmer yn dilyn perfformiad is na’r disgwyl gydag awgrym i ymestyn y cynllun peilot os yw yn profi yn llwyddiannus

·         Bod angen sicrhau bod y rhaglen waith yn cynnwys buddsoddiad i  sicrhau bod  safon y stoc yn gyson ar draws y Sir

 

Dogfennau ategol: