Agenda item

Derbyn sylwadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i’r ymgynghoriad. 

Cofnod:

Cyflwynwydsylwadau o’r cyfarfod a fynychwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Hwn a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gydag aelodau’r Panel Annibynnol. Nodwyd fod  cynnydd bychan o 0.75% yn y cyflog sylfaenol i aelodau etholedig yn cael ei fwriadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ôl etholiadau’r Cyngor. Golyga hynny gynnydd o £100 y flwyddyn. Gofynnwyd i’r pwyllgor am eu sylwadau.

 

Adroddwyd mai pwrpas yr ad-daliad costau gofal oedd galluogi pobl o drawstoriad o gefndiroedd a sefyllfaoedd i fod yn aelodau etholedig trwy eu galluogi i fynychu cyfarfodydd. Nodwyd na fu unrhyw hawliad am ad-daliad o gostau gofal yn ddiweddar gan fod cyhoeddusrwydd negyddol wedi deillio o gyhoeddi hawlio’r ad-daliadau gofal.

 

O ran cofnodi’r rheswm pam fod aelod wedi bod yn absennol o gyfarfod, nodwyd mai’r bwriad oedd er mwyn hysbysu eraill mai er mwyn cofnodi methu mynychu gan fod aelod yn rhywle arall ar fusnes y Cyngor.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Beth oedd ymateb cynghorau eraill? Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod barn gymysg ymysg yn gyffredinol, gydag ambell gyngor yn gwrthod y cynnig

·         Y dylid derbyn y cynnydd o ran egwyddor, er mwyn hybu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd i sefyll mewn etholiad

·         Ei fod yn bwysig gochel rhag gorfod rhannu manylion am ad-daliadau costau gofal trwy gais rhyddid gwybodaeth. Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd manylion am yr ad-daliadau yn wybodaeth oedd yn dod o dan yrhawl i wybodaeth’. Gan y byddai gwirio fod yr arian wedi ei rannu yn briodol yn cael ei wirio yn y ffordd arferol.

·         Dylid cofnodi pan fo aelodau yn absennol oherwydd eu bod ar fusnes y Cyngor, ac y dylai sefydliadau fod yn ymwybodol o gyfarfodydd sy’n cael eu trefnu gan sefydliadau eraill a’r galwadau hynny ar amser aelodau.

·         Na ddylai’r Panel dderbyn gwahoddiad i siarad gyda’r Cyngor Llawn. Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol mai eisiau clywed lleisiau gwahanol oedd y Panel, ond nad oedd hynny o reidrwydd yn gorfod digwydd yn y Cyngor Llawn.

 

PENDERFYNWYD:

a) cefnogi’r cynnig i gynyddu y lwfans sylfaenol o £13,300 i £13,400

b) er mwyn hyrwyddo mwy o aelodau cymwys i hawlio y cymorth costau gofal, cefnogwyd y dylid cyhoeddi cyfanswm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn, ond heb briodoli’r taliadau i unrhyw aelod, a gofyn i’r Panel hefyd ystyried sut i sicrhau na fyddai ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn y dyfodol yn golygu y byddai’n rhaid i awdurdodau ryddhau gwybodaeth am hawlio ad-daliadau costau gofal fesul unigolyn.

c) cefnogi’r trefniadau newydd arfaethedig ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch gan ddeilydd uwch gyflog.

ch) cefnogi’r argymhelliad i nodi’r rheswm am absenoldeb lle bo hynny yn sgil aelod yn cynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfod arall, tra’n nodi y byddai’n rhaid i aelodau unigol ddarparu’r wybodaeth eu hunain.

d) gwahodd y Panel i gyfarfod â’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn y dyfodol a nid y Cyngor llawn 

 

Dogfennau ategol: