Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Economi a Chymuned
COFNODION:
Cyflwynwyd
adroddiad llawn gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yn ymateb i holl gwestiynau
Cyfarfod Paratoi’r Pwyllgor Craffu am ymateb y Gwasanaeth Cymunedau Iach i
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ‘Cyflawni a llai - Gwasanaethau Hamdden
ynghyd a’r cynnydd y mae’r gwasanaeth yn ei wneud i gyflawni’r targed arbedion
effeithlonrwydd fel y gosodwyd gan y
Strategaeth Ariannol y Cyngor 2015 - 2018.
Amlygodd yr Aelod
Cabinet bod y targed arbedion effeithlonrwydd yn un sylweddol a canmolwyd y
Gwasanaeth am weithredu a chyfarch y targed.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chynnig gwasanaethau am ddim i deuluoedd difreintiedig,
nodwyd nad oedd y canolfannau hamdden yn cynnig gostyngiad ar sail incwm, ond
pecyn rhatach ar amseroedd tawel - ni fyddai’r gwasanaeth yn asesu lefelau
incwm ar sail defnydd. Awgrymwyd bod modd edrych i mewn i hyn.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sesiynau Nofio am Ddim, adroddwyd mai penderfyniad y
Cyngor oedd peidio caniatáu i rieni fynd i mewn i’r pwll am ddim a bod y
Cynllun Nofio am Ddim yng Ngwynedd wedi derbyn lleihad sylweddol mewn grant.
Mewn ymateb i sylw
nad oedd Gwynedd yn ymddangos yn rhoi cyfle cyfartal i blant chwarae, nodwyd
bod pob plentyn yng Ngwynedd yn derbyn aelodaeth am ddim yn y Canolfannau
Hamdden.
Diolchwyd i’r
Gwasanaeth am yr adroddiad calonogol a
llongyfarchwyd y gwasanaeth am wyrdroi'r sefyllfa. Er hynny, petai angen codi
ffioedd yn uwch na chwyddiant , gwnaed sylw bod angen bod yn ofalus o beidio
‘anfon pobl i ffwrdd’.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â rhannu ymarfer da, amlygwyd bod hyn yn cael ei wneud
fwyaf drwy strwythur rheolaeth ardal (lle ceir un rheolwr yn gyfrifol am fwy
nag un canolfan) a staff yn rhan o dimau ar draws y Gwasanaeth. Er hynny,
pwysleisiwyd nad oedd y targed wedi ei gyrraedd ac felly cyfeiriwyd at yr angen
i ddarparu cynlluniau amgen er mwyn sicrhau darparu gwasanaeth cynaliadwy i’r
dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol:
·
Rhaid ystyried
dewisiadau eraill i leddfu colledion - awgrym bod angen gwaith ymchwil
pellach cyn gweithredu
·
Angen gweld gwell defnydd o
adnoddau
·
Angen denu mwy o bobl drwy’r drysau
·
Efallai bod angen ystyried y canolfannau hamdden
fel busnes yn hytrach na gwasanaeth
·
Mae’r Canolfannau Hamdden yn hanfodol ar gyfer
Iechyd a Lles
·
Rhaid ystyried
gweithgareddau ychwanegol
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â phryd fydd y Gwasanaeth yn debygol o gyflwyno gwybodaeth
am y modelau newydd, awgrymwyd y byddai cyfle i’r Pwyllgor graffu'r cynigion yn
llawn ym mis Medi.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan ddiolch i’r
Gwasanaeth am eu gwaith a nodi y byddai’r
aelodau yn croesawu derbyn gwybodaeth am fodelau amgen ym Medi 2017.
Dogfennau ategol: