skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·      Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth i faterion yng nghyswllt y Côd Diogelwch Morwrol.

·         Roedd y Gwasanaeth yn disgwyl derbyn adolygiad o’r côd gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ym mis Ionawr. Yn anffodus, oherwydd diffyg capasiti nid oedd yr archwiliad wedi ei gynnal ac roedd y Gwasanaeth yn disgwyl i ail drefnu’r adolygiad. Rhagwelwyd y cynhelir yr adolygiad ym mis Medi 2017.

·      Yn dilyn sylw a wnaed yn y cyfarfod blaenorol roedd golau’r Bwi Tramwyo wedi ei newid fel bod y golau i’w weld ymhellach o’r môr. Cyfeiriwyd at gryfder golau diogelwch cwmni Blue Water Marine, nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y byddai’n codi’r mater efo’r cwmni.

·         Bod y Gwasanaeth, ar y cyd gyda Sefydliad y Bad Achub, wedi cychwyn ar waith cynnal adolygiad o arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraethau Pwllheli. Fe fyddai’r Gwasanaeth yn ymateb i ganlyniad yr archwiliad a gobeithir y byddai unrhyw arwydd newydd yn cyfrannu at ddiogelwch ar y rhan yma o arfordir Gwynedd.

·      Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol bresennol yr Harbwr a’r Hafan gan nodi fod y Gwasanaeth yn ffyddiog y byddai’r gyllideb yn unol â’r targed heblaw am ddiffyg yn incwm yr Hafan.

·      Yr ail-edrychir ar sut cyflwynir gwybodaeth gyllidebol i’r Pwyllgor Ymgynghorol.

·       Bod y Cyngor wedi cefnogi cais y Gwasanaeth i unioni trefn codi ffi yn yr Hafan. O’r 1af o Ebrill ymlaen fe fyddai’r drefn codi ffi am angorfa pontŵn yn dychwelyd at drefniant Uchafswm Hyd Cwch (LOA) yn Hafan Pwllheli. Rhagwelwyd y byddai hyn yn lleihau cost angorfa flynyddol i 95% o’r cwsmeriaid oedd ar drefniant codi ffi ‘banding’ a gobeithir byddai hyn yn denu cwsmeriaid newydd i’r Hafan dros y tair blynedd nesaf.

·         Bod rhaid i’r Cyngor ychwanegu ffi am bob angorfa ym mhob Harbwr o dan reolaeth y Cyngor yn 2017. Eglurwyd bod y ffi wedi ei ychwanegu gan Ystad y Goron a fyddai’n hawlio £25.00 am bob angorfa yn yr Harbwr Allanol. Nodwyd bod gofyn ar y Cyngor, fel yr Awdurdod Harbwr, i godi a chasglu’r ffi ar ran Ystad y Goron. Ychwanegwyd bod y ffi ychwanegol hefyd yn daladwy am angorfeydd ymwelwyr ac fe fydd gofyniad i’r taliad hwn gael ei ariannu drwy gyllideb yr Harbwr.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y gwaith a fwriedir ei gwblhau yn unol â’r Strategaeth Carthu, nodwyd y cynhelir archwiliad o’r sianel yn ystod y llanw isel mwyaf ffafriol nesaf gan gynnal arolwg hydrograffeg er mwyn adnabod os byddai angen comisiynu gwaith ‘bed levelling’ yn y sianel. Nodwyd y gwneir gwaith carthu ceg yr harbwr yn ystod mis Ebrill cyn gwneud gwaith ‘bed levelling’ cyn y Sulgwyn os oes angen. Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n anfon copi o’r Strategaeth Garthu i’r aelodau nad oedd wedi derbyn copi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran cynyddu maint y forddwyd, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bwriedir dychwelyd y forddwyd i’w ffurf flaenorol. Nodwyd y byddai costau sylweddol ynghlwm â chynyddu maint y forddwyd oherwydd y trwyddedau a fyddai’n rhaid eu derbyn o dan reoliadau cynefinoedd i weithredu.

 

Nododd aelod ei rwystredigaeth o ran cyflymdra gweithredu ar y Strategaeth Carthu a oedd yn holl bwysig o ran sicrhau llwyddiant i’r dyfodol. Mewn ymateb, nododd Uwch Reolwr Economi a Chymuned ei fod yn derbyn y sylw o ran cymryd amser i weithredu ond bod y baich carthu yn ddwys a heb ddatrysiad syml. Cadarnhaodd bod y Strategaeth Carthu wedi ei adnabod fel blaenoriaeth i’r Adran Economi a Chymuned ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18.

 

Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli bod y gymdeithas wedi cynnal arolwg barn o’u haelodau, mater a amlygwyd gan yr aelodau oedd eu dyhead am fwy o gyfleusterau megis bwytai a thafarndai yn agosach i’r Hafan gan eu bod yn teimlo ei fod yn rhy bell i fynd i’r dref. Ychwanegodd bod carthu yn holl bwysig ond bod angen ystyried materion eraill gan na fyddai ar ben ei hun yn denu pawb yn ôl.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig at Ardal 5 o’r Harbwr Allanol, nodwyd yr unionwyd ardal 5 a 6 ac fe fuddsoddwyd mewn un rhes o angorfeydd ynghyd â 3 angorfa stanc a fyddai ar gael am yr un ffi. Eglurwyd y byddai Rheolwr Harbwr Pwllheli yn ystyried y ceisiadau a dderbynnir.

 

Mewn ymateb i sylw gan Gynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y 3 stanc cyntaf wedi eu neilltuo i bobl leol. Nodwyd y byddai hawl gan y Cyngor i angora cychod ochr yn ochr ar y tri stanc cyntaf er mwyn cynyddu capasiti lleol.

 

Adroddwyd na fyddai adnewyddiad i gwsmeriaid os oedd eu cyfrif mewn dyled. Mewn ymateb i sylw gan Gynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch, nodwyd nid oedd hyn wedi ei gyfeirio at unigolion penodol, roedd yn gyffredinol i holl gwsmeriaid gyda chyfrifoldeb gan y Cyngor i warchod arian a oedd yn ddyledus i dreth dalwyr. 

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli bod y trefniant gyda’r Cyngor o ran cychod o Ardal 5 yn angori ym Mhlas Heli dal yn agored i gwsmeriaid.

 

Mewn ymateb i sylwadau yng nghyswllt hybu unigolion i gymryd angorfa ym Mhlas Heli ar draul yr Hafan, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Cyngor yn cyd-weithio efo Plas Heli i geisio hwyluso mynediad pobl leol gan fod ffi'r Hafan yn uwch oherwydd y cyfleusterau ychwanegol a oedd ar gael.

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli bod Plas Heli wedi ei ariannu gan arian grant Ewrop ac mai un o’r amcanion pan sefydlwyd Plas Heli oedd darparu angorfeydd am bris is na’r farchnad i bobl leol.

 

Awgrymodd Cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch y dylid ystyried gostwng ffioedd yr Hafan er mwyn ceisio llenwi’r llefydd gwag. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’r Gwasanaeth yn ystyried y mater.

 

Nodwyd bod y Gwasanaeth yn parhau i ystyried opsiynau ac yn adolygu trefn goruchwyliaeth diogelwch nos yr Hafan. Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Hafan Pwllheli bod aelodau’r gymdeithas yn bendant y dylai goruchwyliaeth diogelwch yr Hafan barhau i fod yn 24/7.

 

Nodwyd yr angen i ddefnyddio cyfran o’r gwarged a wneir yn flynyddol yn yr Hafan tuag at gynnal a chadw.

 

Cynigiwyd a eiliwyd i ofyn i’r Aelod Cabinet - Economi ail-fuddsoddi 50% o warged blynyddol yr Hafan er mwyn sicrhau bod adnoddau gan swyddogion i gynnal a chadw, gweithredu’r Strategaeth Garthu a gwella’r adnoddau er denu mwy o gwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD gofyn i’r Aelod Cabinet - Economi ail-fuddsoddi 50% o warged blynyddol yr Hafan er mwyn sicrhau bod adnoddau gan swyddogion i gynnal a chadw, gweithredu’r Strategaeth Garthu a gwella’r adnoddau er denu mwy o gwsmeriaid.

 

Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol yr angen i farchnata bod yr Hafan yn dychwelyd i drefniant codi ffi Uchafswm Hyd Cwch (LOA) er mwyn denu cwsmeriaid. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned y gobeithir y byddai dychwelyd i’r trefniant LOA yn denu cwsmeriaid. Ychwanegodd bod Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch wedi bod yn allweddol o ran yr awgrym i ddychwelyd i’r trefniant.

 

Mewn ymateb i bryder Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y byddai ffi ychwanegol Ystad y Goron yn cynyddu, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod yn gobeithio y byddai’n aros yn statig am y pum mlynedd nesaf.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch at rwystredigaeth unigolyn nad oedd yn gallu derbyn enw a chyfeiriad perchennog cwch gan y Cyngor yng nghyswllt hawlio yswiriant a holodd am drefniadau yswiriant y Cyngor efo perchnogion. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd y Cyngor yn cael rhyddhau enw a chyfeiriad unigolyn i unigolion eraill o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Eglurodd bod y Cyngor yn y gorffennol wedi gofyn i unigolion am gopi o’u hyswiriant, ond erbyn hyn gofynnir i berchnogion gwblhau datganiad cyfreithiol yn nodi’r swm yr yswiriwyd y cwch, yn unol ag arweiniad cyfreithiol a dderbyniwyd. Nododd mai yswirwyr y perchnogion a fyddai’n cysylltu efo'i gilydd os cyfyd sefyllfa o ran hawlio.

 

Tynnwyd sylw bod niferoedd cychod ymwelwyr i’r Hafan yn y flwyddyn bresennol wedi cynyddu. Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli y byddai’n ddiddorol gweld ystadegau o ran ymwelwyr yn yr harbyrau eraill er mwyn adnabod tueddiadau. Awgrymodd Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y dylid ystyried gostwng y ffi o ran cychod ymwelwyr er mwyn ceisio annog unigolion i ddod i Bwllheli, fe allent o ganlyniad gymryd angorfa yn y flwyddyn ganlynol. Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli bod rhai harbyrau yn gofyn am gyfeiriad e-bost unigolion ar gyfer marchnata gyda system draws wladol yn bodoli o ran symud o le i le.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: