skip to main content

Agenda item

Diweddaru’r Pwyllgor ar y trefniadau anwytho i aelodau yn dilyn etholiadau Mai 4ydd, 2017

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar y trefniadau anwytho i aelodau yn dilyn etholiadau 4 Mai, 2017.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gyflwyniad byr ar drefniadau’r etholiadau, gan gyfeirio at:-

 

·         Y sefyllfa gyfredol

·         Amserlen

·         Anwytho

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd:-

 

·         Y byddai’r aelodau yn arwyddo i dderbyn y swydd wrth ymweld â’r stondin Côd Ymddygiad ar y Dyddiau Croeso ar y 9fed a’r 10fed o Fai a bod hynny’n dderbyniol yn gyfreithiol.

·         Y byddai’n rhaid edrych fesul achos ar sefyllfa’r aelodau hynny sy’n gwasanaethu ar gyrff allanol, ond ddim yn cael eu hail-ethol ar y Cyngor ar ôl Mai.

 

Dangoswyd y fersiwn ddiweddaraf o’r Porth Aelodau a gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, neu aelod o’r Tîm, os hoffent gyflwyno syniadau o ran sut i ddatblygu’r porth ymhellach.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad o’r sefyllfa o ran y ddarpariaeth TG i aelodau o fis Mai ymlaen.  Nododd:-

 

·         O ganlyniad i farn wahanol ymhlith aelodau’r Grŵp Ffocws (tri o’r farn y dylid safoni ar y Microsoft Surface Pro 4, un eisiau’r Surface Pro 4 at ei ddefnydd ei hun, ond yn hapus i eraill gael y dewis ac un yn ffafrio’r Ipad Air 2 ar gyfer pawb) y gofynnwyd iddo ef, fel Pennaeth y Gwasanaeth Democrataidd, ddod i benderfyniad ar y mater.

·         Iddo bwyso a mesur yn ofalus, gan gymryd i ystyriaeth farn y mwyafrif ac ymgynghori gyda’r swyddogion a’r Dirprwy Arweinydd, oedd yn aelod o’r Grŵp Ffocws, cyn penderfynu ar y Microsoft Surface Pro 4, ar y sail ei fod yn cynnig llawer mwy nag sy’n bosib’ gyda’r mathau eraill o gyfarpar.

·         Mai’r bwriad dros amser fyddai symud yn llwyr i’r Surface Pro 4, ac er y byddai anogaeth i bawb ddefnyddio’r Surface Pro 4 o’r cychwyn, caniateid i aelodau sy’n dychwelyd barhau i ddefnyddio’r Ipad hyd oni fyddai’n amser adnewyddu eu cyfarpar.

·         Byddai hawl hefyd i aelodau ddefnyddio eu teclynnau personol eu hunain ac ‘roedd yr Uned TG yn ffyddiog y gallent gefnogi’r offer hwnnw hefyd.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei siomedigaeth na chafodd y pwyllgor hwn y cyfle i ddod i benderfyniad ar y mater a gofynnodd i’r aelodau hynny oedd yn aelodau o’r Grŵp Ffocws gyflwyno eu sylwadau. 

 

Nododd pob un o aelodau’r grŵp eu bod yn gefnogol i benderfyniad y Pennaeth.  Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod yr amserlen prynu’r cyfarpar yn golygu nad oedd yn bosib’ i’r Grŵp Ffocws adrodd yn ôl i’r pwyllgor.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd trefnu hyfforddiant buan i’r aelodau ar yr offer newydd.  Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod hyfforddiant wedi ei drefnu ym Mehefin / Gorffennaf ac y byddai swyddogion TG ar gael ar ddiwrnod y Cyngor Blynyddol i gynorthwyo aelodau i gael mynediad i’w dogfennau.  Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gofynnid i bob aelod lenwi holiadur ar gychwyn y Cyngor newydd ynglŷn â lefel eu hyder wrth ddefnyddio technoleg.

 

Trafodwyd beth fyddai’n digwydd i’r cyfarpar presennol.  Nodwyd mai argymhelliad y Grŵp Ffocws oedd gofyn i’r aelodau ddychwelyd y cyfarpar i’r Cyngor a’u bod yn cael eu rhoi fel rhodd i ysgolion fel eu bod yn parhau i gael eu defnyddio fel adnodd y Cyngor. 

 

Mynegodd rhai aelodau eu siomedigaeth na roddid cynnig i’r aelodau brynu’r teclynnau am bris rhesymol.  Nodwyd nad oedd y Ipads mewn cyflwr da bellach ac y byddai’n llawer gwell gan yr ysgolion dderbyn offer mwy cyfredol.

 

Awgrymwyd, gan y gofynnwyd i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddod i benderfyniad ynglŷn â’r teclynnau, y byddai’n synhwyrol iddo yntau hefyd wneud y penderfyniad ynglŷn â beth fydd yn digwydd i’r Ipads.  Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n rhaid iddo wirio hynny, ond yr hoffai i’r aelodau gynnig eu hargymhelliad cyn bod hynny’n digwydd.

 

PENDERFYNWYD

1.       Cefnogi penderfyniad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i ddewis y Microsoft Surface Pro 4 fel y teclyn electronig mwyaf addas ar gyfer aelodau o fis Mai ymlaen.

2.       O ran y teclynnau presennol, argymell i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd roi’r dewis i aelodau:-

·         Brynu’r Ipads am bris rhesymol.

·         Eu dychwelyd i’r Cyngor i’w glanhau o bob data a’u rhoi yn rhodd i ysgol.

·         Barhau i’w defnyddio am y tro, gan ddewis un o’r ddau opsiwn uchod pan ddaw’r adeg iddynt uwchraddio i’r Surface Pro 4.

 

Dogfennau ategol: