Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, diolchodd i staff
addysgol y rhanbarth am eu gwaith caled i gyflawni’r canlyniadau, a nodwyd y
canlynol:
§ Nid yw’r canlyniadau yn ganlyniadau
terfynol ar hyn o bryd ac mae posibilrwydd y caiff eu newid.
§ Mae perfformiad Cyfnod Sylfaen wedi
cynyddu ar draws y rhanbarth, y cynnydd mwyaf ar lefel genedlaethol. Er hyn,
mae perfformiad GwE yn is na’r disgwyl o fewn y pedwar consortiwm (trydydd).
Nodwyd bod angen sylw pellach mewn rhai awdurdodau o fewn y rhanbarth gan gynnwys
Conwy ac i ddarganfod os oes problemau gyda’r asesiad neu’r addysgu.
§ Mae perfformiad Cyfnod Allweddol 2 yn dda
iawn ac mae GwE wedi codi i’r safle cyntaf ymhlith y pedwar consortiwm.
§ Mae’r cynnydd yng Nghyfnod Allweddol 3
wedi bod yn gadarn yn 2017 ond mae sylw pellach wedi ei adnabod ar gyfer
Wrecsam.
§ Roedd AT yn awyddus i ganolbwyntio ar
canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 yn y cyfarfod. Pwysleisiodd bod y manylebau TGAU
ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth wedi newid, ac felly mae’r
gwaelodlin ar gyfer 2017 yn hollol newydd. Cafodd Mathemateg ei adnabod fel
adran yw wella. Yn ogystal, nodwyd bod problemau ynglŷn a denu penaethiaid
Mathemateg i ysgolion y rhanbarth. Yn ddiweddar, mae 31 pennaeth Mathemateg
newydd wedi eu penodi ar draws y rhanbarth sy’n peri risg i’r adran berfformio
yn dda os nad ydynt yn derbyn y cefnogaeth sydd angen.
§ Nodwyd bod Cyfnod Allweddol 5 yn destun
blaenoriaeth cenedlaethol. Mae’n gymhleth dadansoddi’r data am fod y model
cyflwyno yn amrywio oddi fewn awdurdodau ar draws y rhanbarth.
Nodwyd bod Cyfnod Sylfaen yn destun pryder yng Ngwynedd ac angen mwy o
sylw. Gofynnwyd os yw’r broblem o ddenu penaethiaid Mathemateg yn un
genedlaethol.
Pwysleisiwyd bod denu penaethiaid Mathemateg i ysgolion yn anodd iawn, ond
ei fod yn haws i’r ysgolion mawr am eu bod gyda’r arian i’w cadw yn y swydd.
Awgrymwyd mai un ateb fydd i benodi penaethiaid uwchben y consortiwm a fyddai’n
galluogi’r posibilrwydd i symud penaethiaid o gwmpas ysgolion yn ôl yr angen –
bydd hyn angen trafodaeth pellach.
Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar Bapur Gwyn yn
ymwneud a Addysg 16+ a gofynnwyd i’r Cyd-Bwyllgor os oedd rhywun yn bresennol
yn y cyfarfod yn ymwneud a’r papur a gynhaliwyd yn Llanelwy yn ddiweddar.
Nodwyd bod yr awdurdodau heb dderbyn Papur Gwyn gan y Llywodraeth ac eu bod
heb ymgynghori gyda’r awdurdodau yn y rhanbarth. Cwestiynwyd pam bod y
Llywodraeth heb gynnwys barn asiantaethau allweddol yn y maes yn yr
ymgynghoriad a bod yn mater yn annerbyniol.
Cadarnhawyd bod GwE wedi cael eu tynnu mewn i drafodaeth cychwynnol gyda’r
Llywodraeth ynglŷn a’r ymgynghoriad.
Gofynnwyd sut yr rydem am fesur ein cynnydd amser yma blwyddyn nesaf er
mwyn codi safonau ac i ddadansoddi’r manylion.
Esboniwyd bod GwE am adrodd ar ddata byw, hynny yw, edrych ar ffactorau fel
penaethiaid Gwyddoniaeth, Gwaith Cwrs, a’r nifer o ddysgwyr sydd wedi eistedd
eu arholiadau yn barod, a dadansoddi y wybodaeth yma. Bydd GwE hefyd yn
gweithio’n agos gyda adrannau ac ysgolion gwahanol i sicrhau eu bod ar y
trywydd iawn i gyrraedd eu targedau. Bydd adrodd ar ddata byw yn galluogi GwE i
symud adnoddau yn gynt ac yn ôl yr angen i atal materion rhag codi.
Nodwyd y byddai mwy o graffu manwl yn codi’r cwestiwn o sut yr rydem yn
ymdrin ag atebolrwydd ac yn galluogi dull mwy cyson o rheoli ein
atebolrwydd.
Codwyd y pwynt bod angen gwell eglurhad ynglŷn a hawl ysgolion am
gymorth, ac ein bod angen gweithio mewn partneriaeth i wneud hyn yn glir. Mae
tuedd i ysgolion sydd yn derbyn cymorth i fod yn rhy ddibynnol ar y cymorth
hynny ar ôl amser, ac yn dod yn ateb tymor byr, nid ateb tymor hir.
PENDERFYNWYD: Yr adroddiad i ddod yn ôl i’r Cydbwyllgor
unwaith y mae’r canlyniadau yn derfynol.
Dogfennau ategol: