I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf:
(i) Atodiad 1 - Cwestiwn gan Gymdeithas Teithwyr Amwythig/Aberystwyth
(ii) Atodiad 2 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin
(iii) Atodiad 3 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin
(iv) Atodiad 4 – Cwestiwn gan Cyngor Tref Cricieth
(v) Atodiad 5 – Llythyr a dderbyniwyd gan Cyngor Tref Porthmadog
Cofnod:
Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno
gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion ac atebwyd fel a ganlyn:
(i) Fel noddwyr signalu ERTMS a ddefnyddir ar y Cambrian, mae'n ofynnol fod Network Rail yn pwyso ar
i bob cerbyd teithwyr sydd wedi
eu trawsnewid i gael eu
defnyddio ar y rheilffordd. Mae hyn yn golygu
bod Network Rail yn cymryd cyfrifoldeb nad oes cerbydau Dosbarth
158 ar y Cambrian.
Dylid un ai defnyddio'r cyfan o'r 24 uned Dosbarth
158 a'u dyrannu'n briodol neu fod
Network Rail yn ariannu trawsnewid cerbydau eraill i gwrdd
â'r galw.
Wrth ateb, dywedodd Mr Sam Hadley ei fod wedi trafod
hyn gyda'r Cyng Trevor Roberts pan gyfarfu
ag ef yn Abermaw, mewn perthynas
â'r trên stêm. O safbwynt y mater ehangach, nid oedd
yn sicr pwy
oedd yn gyfrifol
am hyn. Roedd Llywodraeth y DU yn edrych i
ehangu gwella digidol. Aeth Mr Lewis Bencher yn ei flaen i
ddweud y lleiaf o ddefnydd oedd o'r
158 y tu allan i Lein y Cambrian, roedd mwy o bosibilrwydd
o'u defnyddio ar leiniau eraill. Roedd 24 (158 uned) allan o Fachynlleth
yn rif delfrydol
ac yn fflyd eithaf sylweddol.
Roedd trafodaethau yn parhau gyda
Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd a dywedodd Mr
Hadley y byddai'n diweddaru'r
Pwyllgor hwn pan fyddai rhagor o wybodaeth wedi dod i
law.
(ii) Rhwystrau diogelwch/wal derfyn - Prif
ffordd (A493) - rhwng Llwyngwril a'r Friog
Dywedodd Mr Hadley yn dilyn y cyfarfod diwethaf o'r Pwyllgor hwn roedd y mater yma wedi ei
godi gyda'r Rheolwr Asedau Llwybrau. Cynhaliwyd cyfarfod safle rhwng swyddogion
o Network Rail ac Ymgynghoriaeth Gwynedd ble cytunwyd y byddai Network Rail yn anfon cylch gwaith
i Dylan Davies, Uwch Beiriannydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd i ymgymryd â'r gwaith. Ar hyn o bryd nid oedd
unrhyw ddyddiad dechrau i'r gwaith,
ond addawodd Mr Hadley i roi gwybod
i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau.
(iii) Diffyg goleuadau ym maes
parcio Gorsaf Llwyngwril
Dywedodd Mr Hadley nad oedd Network Rail yn derbyn arian i
wneud gwelliannau ond roedd yn
falch o gael adrodd eu bod yn
edrych ar gynllun goleuo yn y maes parcio
gan fod cyfle
wedi codi i wneud y gwaith
yma. Nid oedd dyddiad
hysbys i'r gwaith ond bydd
Mr Hadley yn i roi gwybod am unrhyw
ddatblygiadau i aelodau'r Pwyllgor.
(iv) A yw Trenau Arriva Cymru yn medru
sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth
dwyieithog?
Dywedodd Mr Ben Davies fod Trenau Arriva Cymru yn ateb gohebiaeth
yn ddwyieithog ond roeddent yn
cael trafferth gyda gwasanaeth dwyieithog ar y trenau oherwydd diffyg ariannu. Hyderir y bydd cwmni llwyddiannus y fasnachfraint newydd yn gallu cynnig
gwasanaeth cyhoeddi dwyieithog yn y gorsafoedd ac ar y trenau.
Cyfeiriodd y Cadeirydd
hefyd at lythyr a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Porthmadog
am ddiffyg defnydd a blaenoriaeth i'r Gymraeg. Dywedodd hefyd fod y mater uchod wedi ei drafod
yn y Pwyllgor hwn am nifer o flynyddoedd heb unrhyw lwyddiant
ac roedd yn flaenoriaeth i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei
defnyddio a bod enwau Cymraeg yn cael
eu hynganu yn gywir mewn
cyhoeddiadau ar drenau ac ar hysbysiadau
mewn gorsafoedd.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Davies fod y cyhoeddiadau yn cael eu gwneud
drwy system tecst i siarad ac nid
oedd bob amser yn cael ei
ddweud gan berson. Er hynny, dywedwyd
ymhellach fod staff oedd ddim yn
siarad Cymraeg yn cael cyfle
i ddysgu'r iaith ac yn cael
eu hannog i siarad Cymraeg. Roedd Cwmni oedd yn
gallu darparu'r gwasanaeth yn y Gymraeg ond dywedodd
Mr Davies eto y byddai’n ddrud iawn ac nad
oedd gan Trenau Arriva Cymru unrhyw arian.
(v) A yw Arriva am ystyried
cael un trên cyflym y dydd nôl
ac ymlaen o’r Gogledd I’r De?
Nododd Mr Davies nad oedd hyn am ddigwydd
ac ychwanegwyd y byddai’n fater i’r masnachfraint
newydd i’w ystyried.
(vi) A yw Arriva am ystyried
cynnig gwasanath arlwyo ar y trên
rhwng Pwllheli a Machynlleth?
Addawodd Mr Davies y byddir
yn edrych i fewn i’r
uchod ac y byddai’n fwy na bodlon
trafod ymhellach hefo unrhyw un a fyddai’n barod i gynnig y gwasanaeth.
(vii) Nid oes gan y stesions trên rhwng Pwllheli
a Machynlleth beiriannau tocynnau – ac mai’n anghyfleus nad oes modd printio
tocynnau wedi eu prynu o’r
We neu medru eu lawrlwytho ar
app. A oes modd datrys hyn?
Mewn ymateb nododd Mr Davies nad oedd bwriad i
osod peiriannau oherwydd diffyg lle yn y gorsafoedd. Fodd bynnag, fe fyddir
yn cyflwyno technoleg newydd a fyddai ar gael
i bawb a bod yn rhaid ystyried
pob ffurf i werthu tocynnau
gan ystyried hefyd cynnal a chadw a dibynadwyedd.
(viii) A oes modd cael arwyddion i’r stesion drên
yng Nghricieth?
Addawodd Mr Davies i ystyried yr uchod
ymhellach a nododd Mr Sam
Hadley y byddai Network Rail yn
cefnogi os y gallent.
Os yw’r cwestiwn yn cyfeirio
at arwyddion lliw brown, byddai’n rhaid cyfeirio’r mater i’r Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd, Cyngor
Gwynedd.
Penderfynwyd - Derbyn
a nodi'r adroddiad gan ddiolch i’r
swyddogion am eu hatebion i'r cwestiynau
uchod a'u bod yn cymryd camau
gweithredu priodol lle bo angen.
Dogfennau ategol: