Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

01/10/2020 - ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR ref: 557    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Charles W.Jones o gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 


01/10/2020 - Notice of Motion by Councillor Gareth Thomas ref: 560    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol a badau pŵer ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol a bad pŵer yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordrwyo.

 


01/10/2020 - Notice of Motion by Councillor Gruffydd Williams ref: 559    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl cynllunio i drosi anedd yn haf /uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal.

 


01/10/2020 - ETHOL CADEIRYDD ref: 552    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Peidio symud ymlaen i benodi Cadeirydd, a chaniatáu i’r Cadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021.

 


01/10/2020 - ANNUAL REVIEW OF THE COUNCIL'S POLITICAL BALANCE ref: 556    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

(a)     Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad i’r Cyngor, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr atodiad.

(b)     Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(c)     Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

          Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi                   Grŵp Plaid Cymru

          Pwyllgor Craffu Cymunedau                               Grŵp Annibynnol

          Pwyllgor Craffu Gofal                                          Grŵp Annibynnol

 

 


01/10/2020 - APPOINTMENT OF CHAIRMAN OF THE DEMOCRATIC SERVICES COMMITTEE ref: 555    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21.

 


01/10/2020 - GWYNEDD COUNCIL ANNUAL PERFORMANCE REPORT 2019/20 ref: 554    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20, a’i fabwysiadu.

 


01/10/2020 - ETHOL IS-GADEIRYDD ref: 553    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Peidio symud ymlaen i benodi Is-gadeirydd, a chaniatáu i’r Is-gadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021.

 


01/10/2020 - Notice of Motion by Councillor Glyn Daniels ref: 558    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2020 - Y Cyngor

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2020

Effective from: 01/10/2020

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

 


14/09/2020 - YMDDIHEURIADAU ref: 538    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 14/09/2020 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/09/2020

Effective from: 14/09/2020

Penderfyniad:

Dim i’w nodi

 


24/09/2020 - Application Number C20/0250/11/LL - Mostyn Arms, Mostyn Arms, 27 Stryd Ambrose, Bangor, Gwynedd, LL57 1BH ref: 551    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 24/09/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/09/2020

Effective from: 24/09/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â'r cynlluniau a'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais.

 


24/09/2020 - Application Number C20/0102/33/LL - Plas yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli ref: 550    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 24/09/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/09/2020

Effective from: 24/09/2020

Penderfyniad:

Gohirio penderfynu’r cais er mwyn ei mwyn galluogi’r ymgeisydd i gyflwyno rhagor o wybodaeth i gefnogi’r cais

 


24/09/2020 - Application Number C20/0222/20/LL - Swn Y Mor, Caenarfon, LL55 1UE ref: 549    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 24/09/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/09/2020

Effective from: 24/09/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-

 

Amodau

1.            5 mlynedd

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Materion tirlunio.

4.            Cyflwyno cynllun goleuo ar gyfer yr adeiladau a’r ardaloedd tu allan i gynnwys math ac amser byddent ymlaen.

5.            Cydymffurfio ag argymhellion mesurau lliniaru’r Adroddiad Ecolegol

6.            Cyflwyno mesurau lliniaru archeolegol

7.            Cyflwyno manylion arwyddion dwyieithog o fewn y safle.

8.            Cwblhau llecynnau parcio cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio at unrhyw       ddiben.

 

Nodyn yn tynnu sylw’r ymgeisydd i ofynion System Draenio Cynaliadwy (SuUDS)

 


24/09/2020 - Cais Rhif - C20/0324/17/DT - Y Borth, 30 Cae Sarn, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7TW ref: 548    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 24/09/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/09/2020

Effective from: 24/09/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD Caniatáu gydag amodau:

 

  1. Dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol a chynlluniau