Corff Allanol
Grwp Gweithredu Lleol LEADER
Disgrifiad
LEADER yng Ngwynedd
Beth yw LEADER?
LEADER yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio dull arbennig o
ddatblygu lleol mewn ardaloedd gwledig. Mae’r enw LEADER yn dod o dalfyriad
Ffrengig am ‘Liaison Entre Actions pour le Development de L'Economie Rurale’, sy’n cyfieithu’n fras i
‘cysylltiadau rhwng camau gweithredu ar gyfer datblygu’r economi wledig’.
Mae’n gynllun a gyllidir gan yr UE a Llywodraeth Cymru fydd yn
cefnogi gweithgareddau yng Ngwynedd rhwng 2015 a 2021
o fewn pum thema. Y themâu yw:
· Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol
· Hwyluso datblygiad cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
·
Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau
lleol anstatudol
·
Ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol
·
Manteisio ar dechnoleg ddigidol
Beth yw rhinweddau rhaglen LEADER?
Mae pwyslais ar brosiectau peilot er mwyn dysgu a rhannu arfer
da. Yn gyffredinol, mi fydd prosiectau LEADER yn meddu ar y rhinweddau
canlynol:
·
Mae’n cael ei weithredu dros amser penodol.
·
Mae’n cyd fynd â Strategaeth Datblygu Leol
Gwynedd
·
Mae’n ceisio datrys her neu broblem sydd â
pherthnasedd eang.
·
Mae’n mabwysiadu dull newydd sydd ddim eisoes
wedi ei weithredu.
·
Mae’n caniatáu dysgu a rhannu arfer da
·
Nid yw’n rhoi mantais fasnachol uniongyrchol nag
anuniongyrchol i unrhyw grŵp neu unigolyn.
Beth fydd LEADER yn ei wneud?
Mae LEADER yn ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd
neu fygythiadau sydd yn ein hwynebu yng Ngwynedd.
Enghreifftiau o’r rhain yw:
·
Sut gallem annog
cerddwyr ar hyd llwybr arfordirol Gwynedd i wario fwy o fewn busnesau lleol ar
hyd y llwybr?
·
Wrth wynebu toriadau mewn gwasanaethau
cyhoeddus, all cymunedau rhedeg gwasanaethau lleol eu hunain?
·
A oes cyfleoedd i ddatblygu cynnyrch a
gwasanaethau drwy’r Iaith Gymraeg?
Dylai'r rhain fod yn weithgareddau o’r gwaelod i fyny wedi eu harwain gan gymunedau sy'n cynnwys sbectrwm eang o grwpiau, sefydliadau ac unigolion.
Beth yw’r Strategaeth Datblygu Leol (SDLl)?
Mae’r Strategaeth Datblygu Leol yn amlinellu blaenoriaethau Arloesi Gwynedd Wledig (AGW), yr enw a roddir ar raglen LEADER yng Ngwynedd, dros y 6 mlynedd. Cafodd ei baratoi yn dilyn proses ymgynghori dwys a dylai holl weithgareddau AGW gyd-fynd â nod ac amcanion y strategaeth. Fodd bynnag, dylid pwysleisio mai un ystyriaeth yn unig yw cyd-fynd â’r SDLl wrth ddatblygu prosiect LEADER.
Pa gefnogaeth gall Arloesi Gwynedd Wledig ei gynnig?
Gall Arloesi Gwynedd Wledig ddarparu'r cymorth angenrheidiol i dreialu gweithgaredd dros gyfnod penodol. Gall hyn gynnwys gwariant fel prydlesu offer, rhentu eiddo, prynu eitemau cyfalaf bach a chefnogi cefnogaeth arbenigol. Bydd cefnogaeth barhaus hefyd yn cael ei ddarparu gan swyddogion prosiect drwy gydol y prosiect. Mi fydd yr holl gostau yn cael eu talu’n uniongyrchol drwy raglen AGW ac ni ddyrannir unrhyw grantiau.
Pwy all gymryd rhan?
Mi fydd Arloesi Gwynedd Wledig yn ceisio ymgysylltu â
chymunedau o ddiddordeb yn ogystal â'r rhai a
ddiffinnir yn ddaearyddol. Gallai enghreifftiau o'r rhain gynnwys:
·
Grŵp o drigolion a busnesau lleol o fewn
pentref yn gweithio mewn partneriaeth i dreialu dull newydd o redeg gwasanaeth
lleol.
·
Cwmnïau gweithgareddau awyr agored ar draws
Gwynedd yn partneru gyda darparwyr llety i beilota pecynnau gwyliau newydd.
Mi fydd gweithgareddau llwyddiannus angen mewnbwn ystod eang o
gyfranogwyr ac mi fydd llwyddiant gan amlaf yn codi yn sgil ymgysylltiad a
chyfranogiad pawb sydd â diddordeb. Gall brosiectau gynnwys cyfranogwyr o'r
sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol a gwirfoddol.
Bydd modd cydweithio gydag ystod eang o gyrff a mudiadau ond
nid oes modd ariannu eraill i weithredu cynlluniau tu allan i drefniant
caffael. Mae sawl rheswm am hyn:
·
Nid oes modd cynnig grant (neu unrhyw beth sydd
yn debyg i grant)
·
Mae gofyn cyd-fynd â rheolau caffael ar yr holl
wariant
·
Mae gofyn cyd-fynd â rheolau Cymorth
Gwladwriaethol ac mae gofyn osgoi rhoi mantais fasnachol i unrhyw fusnes neu
fudiad.
AGW fydd yn berchen ar yr holl eiddo deallusol sydd yn deillio o bob prosiect fydd yn caniatáu i’r wybodaeth cael ei ddosbarthu yn eang.
Pwy sydd yn rhedeg LEADER yng Ngwynedd?
Bydd rhaglen LEADER yn cael ei reoli gan Grŵp Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) sy'n cynnwys 18 o gynrychiolwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys twristiaeth, ffermio, y trydydd sector, llywodraeth leol a sefydliadau addysg. Cyfrifoldeb Grŵp AGW yw darparu cyfeiriad strategol a sicrhau bod y gweithgareddau yn cyd-fynd â Strategaeth Datblygu Leol Gwynedd.
Bydd rhaglen AGW yn cael ei weinyddu gan Fenter Môn o'u swyddfa ym Mhorthmadog. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol gyda 20 mlynedd o brofiad o gyflawni prosiectau datblygu gwledig ar draws Gogledd Cymru a byddent hefyd yn gyfrifol am y rhaglen LEADER ar Ynys Môn.
Cysylltwch â’r tîm Arloesi Gwynedd Wledig ar 01766 514057
Am ragor o
wybodaeth ewch i'r wefan www.arloesigwyneddwledig.com
Gwybodaeth gyswllt
Cyswllt:
Cyd-lynydd Gwledig Gwynedd