I ystyried
a chymeradwyo'r cynnig gan y diwydiant tacsi i godi’r uchafswm
prisiau
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Uchafbris
perthnasol |
Cyfraddau
presennol |
Argymhelliad
|
|
|
|
Lle mae’r daith yn
llai na milltir |
£3.60 |
Dim newid |
Lle mae’r daith yn fwy
na milltir, am y filltir gyntaf |
£3.00 |
Dim newid |
Creu ‘tariff’
ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr |
£3.00 |
£3.30 |
Uchafbris cludo
bagiau ychwanegol yn cist y cerbyd |
30c |
50c |
Uchafbris cost
‘valet‘ glanhau proffesiynol |
£45 |
£120 |
Am logi'r cerbyd
rhwng hanner nos a 7:00y.b. unrhyw ddydd neu ar unrhyw amser ar Ŵyl y
Banc, heblaw am Ddydd Nadolig a Dydd Calan |
50% yn ychwanegol
ar y gyfradd sylfaennol £4.50 |
60% yn ychwaegol
i’r cyfradd sylfaennol £4.80 |
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol
Cynllunio ac Amgylchedd oedd yn ymateb i gais gan y diwydiant yng Ngwynedd i
newid yr uchaf bris.
Yn unol â Deddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 sydd yn gosod dyletswyddau
rheoleiddio ar yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â gweithredu uchaf bris a all gael ei godi ar y cyhoedd
wrth deithio mewn cerbydau hacni oddi fewn i’r
Sir, mae’n ofynnol fod unrhyw gais am
newid yn cael ei gyflwyno gan y diwydiant. Cadarnhawyd bod 5 cais diweddar wedi
eu derbyn gan berchnogion cwmnïau tacsi i adolygu’r prisiau a bod y prisiau hyn
ar gyfer cerbydau hacni yn unig ac nid cerbydau
preifat. Ategwyd bod y Ddeddf yn caniatáu darparu tabl prisiau ynghyd a’r
gofyniad statudol i ddefnyddio cloc tacsi (taxi meter) fel mecanwaith i reoleiddio'r prisiau a diogelu
buddiannau’r cyhoedd.
Nodwyd y bu cais
llwyddiannus i gynyddu’r uchaf bris yn 2019 (wedi 9 mlynedd heb gynnydd) ac nad
oedd newid wedi bod ers hynny. Ategwyd bod y cynnydd o £5 i £6 yn yr uchaf bris
am y ddwy filltir gyntaf mewn taith tacsi yn 2019 yn un sylweddol ac yn
adlewyrchu cyfartaledd costau chwyddiant dros y cyfnod.
Cyfeiriwyd at y
ffactorau hynny sydd wedi effeithio busnesau tacsi yn ddiweddar (cyfnod clo
dros gyfnod covid 19, cynnydd sylweddol yng nghostau
tanwydd ynghyd a chynnydd sylweddol mewn
chwyddiant) gan nodi bod rhain yn ffactorau sydd yn effeithio pawb. Nodwyd
pwysigrwydd cloriannu effaith y sefyllfa bresennol gan sicrhau tegwch i’r
diwydiant a’r defnyddwyr tacsi.
Cyfeiriwyd at gynnig
ac argymhellion yr Awdurdod Trwyddedu i gynyddu rhai prisiau o gymharu a’r
cyfraddau presennol gan adrodd y bydd cyfnod o ymgynghori ar y cynnig yn dilyn
penderfyniad y Pwyllgor. Ategwyd y bydd angen ail drafod y cynnig os bydd
gwrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno gan y diwydiant.
b)
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y cynnig yn un hael
·
Bod y cynnig am gostau glanhau proffesiynol yn
gynnydd sylweddol
·
Angen sicrhau nad yw’r pris yn ormod i’r rhai hynny
sydd yn ddibynnol ar wasanaeth tacsi
·
Bod rhai pobl fregus yn gaeth i’w tai oherwydd
toriadau mewn gwasanaethau bws - angen sicrhau na fydd y rhain yn cael eu
heffeithio gan y cynnydd am wasanaeth tacsi
·
Pryder y gall codi am gost o gludo bagiau gael
effaith ar siopau lleol – awgrym y bydd pobl yn troi at siopa ar lein
·
Bod angen osgoi effaith negyddol ar ddefnyddwyr
c)
Mewn ymateb i sylw bod rhai cwmnïau yn osgoi
siwrneiau byr oherwydd gormod o drafferth a bod sefyllfa o'r fath yn achos o
bryder i unigolion bregus, nododd y Pennaeth Cynorthwyol ei ddymuniad i unrhyw
achos o’r fath gael ei gyfeirio i’r Awdurdod Trwyddedu.
Mewn ymateb i sylw
bod prisiau teithiau yn amrywio yn sylweddol mewn rhai ardaloedd, awgrymwyd mai
cwmnïau preifat oedd yn gwneud hyn ond y dylid cyflwyno unrhyw esiamplau i’r
Awdurdod Trwyddedu fel bod modd edrych i mewn i’r mater. Ategodd y dylid adrodd
ar unrhyw ddigwyddiad fel bod modd osgoi sefyllfa o roi pobl mewn risg.
Mewn ymateb i
gynnydd sylweddol yng nghostau glanhau ‘valet’
proffesiynol (£45 i £120), nodwyd bod y costau hyn yn adlewyrchu gwir gost o
lanhau car. Derbyniwyd y sylw bod angen ystyried pob sefyllfa a diffinio
perthnasedd pob sefyllfa unigol, ond bod y ffi a argymhellwyd yn un rhesymol.
Cynigwyd ac
eiliwyd cymeradwyo’r cynnig
PENDERFYNWYD:
·
Cymeradwyo’r
cynnig i godi’r uchabris yn unol a’r argymhellion
·
Cymeradwyo
ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod
·
Derbyn
yr angen i ail drafod os daw gwrthwynebiadau i’r cynnig cyn gweithredu
Dogfennau ategol: