Cyflwyno blaenraglen
ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 i’w mabwysiadu.
Penderfyniad:
Mabwysiadu rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer 2023/24.
Cofnod:
Cyflwynwyd - blaenraglen y
pwyllgor ar gyfer 2023/24.
Cytunwyd
i:-
·
Adnabod eitemau dros gyfnod o 18
mis, er mwyn hwyluso paratoi ar gyfer cyfarfodydd cyntaf 2024/25;
·
Rhaglennu diweddariad ar yr eitem Canol Trefi Gwynedd o
gwmpas yr adeg hon y flwyddyn nesaf;
·
Ychwanegu Anghenion Dysgu Ychwanegol
yn y prif lif ac ysgolion arbennig fel eitem bosib’ ar y flaenraglen.
Gofynnwyd i’r Ymgynghorydd
Craffu drafod y flaenraglen gyda’r Cadeirydd a chyflwyno’r flaenraglen
ddiwygiedig i’r cyfarfod nesaf, neu cyn hynny drwy e-bost i’r aelodau.
Yna
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau mewn perthynas â threfniadau’r
cyfarfodydd:-
Awgrymwyd bod y pwyllgor
hwn yn cael ei ddominyddu gan eitemau addysg, a holwyd a fyddai’n bosib’
sefydlu trefn o gael un cyfarfod i graffu materion addysg, a chyfarfod dilynol
i graffu materion mwy economaidd. Mewn
ymateb, nodwyd:-
·
Y ceisid lledaenu’r materion ar
draws y flwyddyn gyfan fel nad yw’r holl bwysau yn disgyn ar un adran ar gyfnod
penodol.
·
Y gellid rhoi’r eitemau economi yn
gyntaf ar y rhaglen, ond bod yr aelodau cyfetholedig yn mynychu ar gyfer yr
eitemau addysg yn benodol, er bod croeso iddynt aros drwy gydol y cyfarfod.
Awgrymwyd
nad oedd presenoldeb yr aelodau cyfetholedig ar gyfer yr eitemau addysg yn unig
yn ddigon o reswm i roi’r eitemau economi / corfforaethol yn olaf ar y rhaglen
bob tro, a bod angen sefydlu trefn am-yn-ail, gan roi gwybod i’r aelodau
cyfetholedig pan mae’r drafodaeth ar y materion addysg ar fin cychwyn.
Nododd aelod ei bod yn
cofio cais yn cael ei wneud i wahanu materion addysg ac economi, a bod hynny
wedi ei wneud yn dwt yn y blaenraglen, ond bod angen rhoi ystyriaeth i gael
cydbwysedd o ran trefn yr eitemau ar raglenni cyfarfodydd Pwyllgor. Ymhelaethodd y byddai’n well ganddi weld dau
bwyllgor craffu cwbl ar wahân, y naill ar gyfer craffu materion addysg, a’r
llall ar gyfer craffu materion economi / corfforaethol, oherwydd y llwyth
gwaith. Awgrymodd aelod arall y dylai
materion economi gael eu craffu gan y Pwyllgor Cymunedau gan fod yna lawer o
orgyffwrdd rhwng y ddau faes, a bod llwyth gwaith y pwyllgor hwnnw yn
ysgafnach.
Mewn
ymateb i’r sylwadau, nodwyd:-
·
Yn sgil yr adolygiad o
effeithiolrwydd craffu yng Ngwynedd, a chyfweliadau gyda rhai aelodau, y
disgwylid adroddiad drafft gan Archwilio Cymru yn fuan.
·
Y rhoddwyd addewid adeg yr etholiad
llynedd, pan sefydlwyd y drefn bresennol o rannu cyfrifoldebau rhwng y 3
phwyllgor craffu, y byddai’r drefn honno’n cael ei hadolygu ymhen 18 mis.
·
Bod bwriad, felly, yn yr Hydref, i
adolygu’r drefn bresennol, ynghyd â’r hyn fydd yn cael ei argymell yn adroddiad
Archwilio Cymru, a byddai gan yr aelodau fewnbwn i unrhyw newidiadau fyddai’n
deillio o hynny.
Nododd aelod nad oedd yn
ymwybodol bod cyfle wedi bod i’r aelodau roi sylwadau i Archwilio Cymru, gan
ddatgan y byddai’n falch petai cyfle eto i’r cynghorwyr roi sylwadau yn
unigol. Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid
ymgynghori â’r craffwyr o ran yr adolygiad mewnol o’r drefn graffu, a byddai’r
aelodau yn cael eu hysbysu o’r trefniadau ar ôl yr haf.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer 2023/24.
Dogfennau ategol: