I ystyried
yr adroddiad
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
-
Aelodaeth i gynnwys Sharon
Warnes (Cadeirydd), Eifon Jones (Is gadeirydd).
Rhys Parry, Meryl Roberts a
Carys Edwards yn gwirfoddoli eu hunain
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn mynegi barn Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheolaethol gyffredinol o fewn yr
Awdurdod yn ystod 2022/23 gan ddarparu cyfryw farn archwilio mewnol blynyddol
i’r Awdurdod. Nodwyd na all sicrwydd fyth fod yn llwyr ac y mwyaf y gall
gwasanaeth archwilio mewnol ei ddarparu i’r Cyngor ydi cyngor rhesymol nad oes
gwendidau mawr yn y system gyfan o reolaeth fewnol.
Ar sail gwaith Archwilio Mewnol a gwblhawyd yn
ystod 2022/2023, ystyriwyd bod
fframwaith rheolaeth fewnol Cyngor Gwynedd yn ystod y flwyddyn ariannol
2020/2021 yn gweithredu ar lefel sicrwydd rhesymol ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu’r Awdurdod, rheoli risg a
rheolaeth fewnol.
Roedd 41 darn o waith wedi eu cynnwys yng nghynllun
archwilio addasedig terfynol 2022/2023. Cafodd 40 o aseiniadau eu cwblhau erbyn
31 Mawrth 2023, sy’n cynrychioli 97.56% o’r cynllun. O’r adroddiadau perthnasol
o gynllun archwilio 2022/2023 a dderbyniodd lefel sicrwydd, derbyniodd 77.14%%
ohonynt lefel sicrwydd “Digonol” neu “Uchel.
Ers 1 Ebrill 2021, roedd 7 aelod llawn amser i’r
Tîm Archwilio Mewnol ac un Uwch Archwiliwr Dros Dro. Nodwyd bod arian wedi ei neilltuo
i ariannu’r adnodd ychwanegol i’r Gwasanaeth weithredu archwiliadau pan fydd
cyfyngiadau’r argyfwng yn llacio, fel yr adroddwyd gan y Pennaeth Cyllid i’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 11/02/2021.
Yng nghyd-destun Rhaglen Sicrwydd Ansawdd a
Gwelliant, nodwyd bod cyrff y sector gyhoeddus yn adolygu eu gweithdrefnau
archwilio yn erbyn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus (PSIAS) o leiaf
unwaith bob pum mlynedd. Bydd canlyniadau’r hunanasesiad yn erbyn y safonau a’r
Nodyn diwygiedig i Lywodraeth Leol (2019) yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu yn ystod 2023/2024.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol
·
Croesawu adroddiad manwl
·
Llongyfarch yr Uned ar gwblhau
97.5% o’r archwiliadau - hyn yn gynnydd sylweddol o 2021/22
·
Angen gwell cydweithio a
chefnogaeth adrannau i gynyddu cyfran gweithrediadau cytunedig - angen ail
sefydlu’r Gweithgor Gwella Rheolaethol
·
Os nad oes ymateb i’r
gweithrediadau cytunedig yna cais am adroddiad pellach i'r Pwyllgor wneud
penderfyniad o alw gwasanaeth i mewn i drafod - pwysig bod y pwyllgor yn
cefnogi hyn
·
Awgrym bod yr adroddiad diffyg
ymateb i’r gweithrediadau yn cael ei gyfeirio at yr Aelod Cabinet - cyfle i
drafod yng nghyfarfodydd chwarterol herio perfformiad
·
Grym gan y Pwyllgor i herio
perfformiad - byddai ail sefydlu gweithgor yn fuddiol iawn i symud pethau
ymlaen
·
Bod angen codi ymwybyddiaeth
Penaethiaid Adrannau i waith Archwilio Mewnol
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r nifer
archwilwyr sydd yn gweithio ar bob archwiliad, nodwyd bod un archwilydd yn
gweithio ar archwiliad ac yn atebol i arweinydd fydd yn adolygu’r drefn ac yn
monitro ansawdd yr archwiliad. Eithriad
fyddai cael mwy nag un yn gweithio ar archwiliad. Ategwyd bod y tîm yn
cydweithio yn dda iawn. Diolchwyd i Bleddyn Rhys ac Eva Chan am gamu fyny yn
ystod absenoldeb salwch Luned.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr
adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y
flwyddyn ariannol 2022/23
·
Ail sefydlu
Gweithgor Gwella Rheolaethau.
- Aelodaeth
i gynnwys Sharon Warnes (Cadeirydd), Eifion Jones (Is gadeirydd).
Rhys
Parry, Meryl Roberts a Carys Edwards yn gwirfoddoli eu hunain
Dogfennau ategol: