I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt
cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau a sylwebu fel bo angen.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
• Nodi’r risgiau perthnasol
• Cefnogi argymhelliad i’r Cabinet (13
Mehefin 2023) gymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen; i gymeradwyo’r holl
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol
Cofnod:
Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid byddai’r adroddiad
yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet 13 Mehefin 2023 a bod angen i’r Pwyllgor graffu
a chynnig sylwadau ar y sefyllfa cyn hynny.
Gosodwyd cyd-destun yr adroddiad gan y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol - Cynaliadwyedd a Datblygiadau. Nodwyd bod yr adroddiad yn
manylu ar wariant y Cyngor yn 2022/23, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant
yr adrannau unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at grynodeb o sefyllfa
derfynol yr holl adrannau sy’n amlygu’r symiau i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol ynghyd a’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol.
Amlygwyd,
·
Ar ddiwedd y flwyddyn ceir
gorwariant o fewn saith adran, a hynny o ganlyniad i nifer o ffactorau megis
methiant i wireddu arbedion, chwyddiant cyflogau uwchlaw’r
gyllideb a phrisiau ynni cynyddol. Cyfeiriwyd at y pum adran sydd a'r
gorwariant amlycaf
-
Adran Oedolion Iechyd a
Llesiant: Gorwariant o £3.9 miliwn, gyda £921 mil yn sgil thrafferthion
gwireddu arbedion. Gwelwyd defnydd
cynyddol o staff asiantaeth mewn gwahanol feysydd, pwysau ar lety cefnogol a
phecynnau taliadau uniongyrchol yn faterion yng Ngwasanaethau Pobl Hŷn ac
yn Anabledd Dysgu a oedd hefyd yn cyfrannu tuag at y gorwariant.
-
Adran Addysg: Gorwariant o
£1.2 miliwn. Effaith cost ychwanegol chwyddiant cymorthyddion
a staff gweinyddol o £690 mil ac effaith prisiau trydan uwch o £614 mil. Gydag
ysgolion wedi elwa o bron i £1 miliwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, defnyddir balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol o £1.304
miliwn.
-
Adran Economi / Byw’n Iach. Yn
2021/22 derbyniodd Byw’n Iach werth £1.4 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Nid oedd y cymorth ar gael yn 2022/23, ond sgil effaith ariannol Covid yn parhau ac yn amharu ar y gallu i gynhyrchu incwm.
Y Cyngor felly wedi ymestyn y cyfnod sicrwydd ar gyfer cefnogaeth ariannol i’r
cwmni hyd at ddiwedd 2022/23.
-
Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol; Gorwariant o £2.5 miliwn gyda’r maes casglu gwastraff ac
ailgylchu yn parhau i orwario. Cyfeiriwyd at wariant un-tro a phwysau cynyddol
ar gyllideb Priffyrdd erbyn diwedd y flwyddyn ynghyd a thrafferthion gwireddu
arbedion gwerth £608 mil, gyda £335 mil ohono yn y maes gwastraff.
-
Adran Tai ac Eiddo: Effaith
Deddf Ddigartrefedd wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol ac er bod yr Adran
wedi derbyn £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil Covid,
mae wedi parhau i orwario o £2.5m. Disgwyli’r
i’r gorwariant yma gael ei ariannu o Gronfa Premiwm Treth y Cyngor.
·
Bod nifer o resymau tanwariant
un-tro ar nifer o benawdau Corfforaethol
·
Bod cynnydd mewn cyfraddau llog
wedi arwain at £1.3 miliwn ychwanegol, a bu llai o aelwydydd yn hawlio
gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
·
Bod rhagdybiaethau darbodus
wrth osod cyllideb 2022/23 a newid deddfwriaethol trethiant hefyd wedi cyfrannu
at gynnyrch treth ychwanegol wrth i dai drosglwyddo yn ôl o drethi annomestig i
dreth cyngor.
·
Bod balansau’r
ysgolion wedi lleihau £4.8m, sef o £16.7m yn 2021/22 i £11.9m yn 2022/23. Dros
y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol ym malansau
ysgolion yn sgil effaith Covid a derbyn grantiau
sylweddol, ond maent bellach yn lleihau, gyda rhagolygon o leihad pellach erbyn
diwedd 2023/24, ac yn ôl i lefelau arferol.
·
Bod adolygiad digonolrwydd
cronfeydd penodol y Cyngor wrth gau’r cyfrifon, llwyddwyd i gynaeafu £3.918
miliwn o adnoddau.
Diolchwyd am yr adroddiad - nodwyd bod derbyn adroddiadau rheolaidd o’r
sefyllfa gorwariant dros y flwyddyn ariannol wedi bod yn fuddiol wrth ystyried
y darlun terfynol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan
Aelodau:
·
Bod dibyniaeth grantiau
tebygol yn creu sefyllfa o ariannu ansefydlog
·
Nad oes modd i ysgolion osod
cyllideb negyddol - bod y sefyllfa o grant yn cael ei ddyrannu ai peidio yn
risg i’r drefn cyllido ysgolion; yn arwain at ddiswyddo oherwydd gormodedd neu
beidio - yn drefn ddiffygiol a pheryglus.
·
Bod cynnydd yng nghyfartaledd
trigolion Gwynedd fydd yn arwain at gynnydd mewn defnydd gwasanaethau ac
felly’n cynyddu’r risg gyllidebol i’r dyfodol.
Mewn ymateb i sylw na fydd yr un symiau a
sefyllfaoedd ar gael 2023/24 (addasiadau cyfraddau llog, gostyngiadau treth
Cyngor ayyb), nododd y Pennaeth Cyllid, wrth osod cyllideb 2023/34 bod pob
ymgais yn cael ei wneud i amcangyfrif pob sefyllfa yn realistig. Mewn ymateb i
sylw ategol os na fyddai llai o arian wedi ei wario yn gorfforaethol bod risg
i’r adrannau hynny sydd yn gorwario, nodwyd bod rhai penawdau corfforaethol
eleni wedi bod yn achubiaeth ond na ellid parhau gyda’r agwedd yma - y
disgwyliad yw bod gwariant yn unol â’r gyllideb sydd ar gael.
Mewn ymateb i sylw bod gorwariant hanesyddol ym
maes Oedolion ac mai risg fyddai tan gyllido o ystyried bod gofynion pobl yn
bwysig a’r maes yn eang gyda chynnydd mewn disgwyliadau, nodwyd bod sawl adran
yn gorwario ond bod cynnydd sylweddol wedi ei weld yn yr Adran Oedolion Iechyd
da Llesiant ers adolygiad mis Tachwedd a diwedd y flwyddyn. Nodwyd bod bwriad
adolygu rhai cynlluniau arbedion - y rhai hynny yn hanesyddol sydd ddim yn
cael eu gwireddu ac ymchwilio i’r
rhesymau pam nad ydynt wedi eu gwireddu. Ategwyd bod diffyg darpariaeth yn y
gyllideb yn cael ei adolygu, ac er yn derbyn bod mwy o arian gorfodol wedi ei
wario yn 2022/23, ni all y sefyllfa ymdopi gyda gorwariant o £4m mewn un adran.
Ategodd yr Aelod Cabinet bod cyllideb yr Adran Oedolion yn rhesymol ac er yn
derbyn gorwariant bod diffyg gwireddu arbedion sydd wedi cael eu cynnig gan yr
Adran ei hun yn annerbyniol.
Mewn ymateb i sylw a ddylid cael corff allanol i
edrych ar bosibiliadau gweithredu arbedion nodwdy bod
y Cyngor yn defnyddio cyfundrefn Ffordd Gwynedd drwy ganolbwyntio ar angen y
dinesydd. Ategwyd bod cyrff rheolaethol eraill ym maes Gofal hefyd yn cadw
llygad ar y sefyllfa.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffygion ariannol
gan ysgolion ar ddiwedd 2022/23 a bod ysgolion yn annibynnol o reolaeth y
Cyngor, nodwyd na ellid gorfodi ysgolion i ddefnyddio eu balansau
- bod y swm yn cael ei ddyrannu gan yr Adran Cyllid ac mai corff llywodraethol
yr ysgol sydd yn gyfrifol am y gwariant.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr
adroddiad
·
Nodi’r risgiau
perthnasol
·
Cefnogi
argymhelliad i’r Cabinet (13 Mehefin 2023) gymeradwyo’r symiau i’w parhau; i
gymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol
Dogfennau ategol: