Codi 2 dŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig
Dolen i'r dogfennau
cefndirol perthnasol
Penderfyniad:
PENFERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ac
amodau’n ymwneud a’r canlynol :
1. Dechrau
o fewn 5 mlynedd
2. Datblygiad yn
cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
3. Defnyddio llechi
to Cymreig
4. Amod er sicrhau gwelededd
derbyniol
5. Tynnu’r Hawliau
Datblygu a Ganiateir er sicrhau fforddiadwyedd
6. Amod Dŵr
Cymru
7. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol
Rhagarweiniol
8. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl
Llifogydd
Nodyn – Dŵr Cymru
System
Draenio Gynaliadwy
Sylwadau’r Uned
Trafnidiaeth
COFNODION:
Codi 2 dŷ fforddiadwy,
mynedfa newydd, parcio, tirlunio a
gwaith cysylltiedig.
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn
ydoedd i godi dau dŷ fforddiadwy canolradd ger pentref Caerhun i’r
de-ddwyrain o Fangor. Bydd y ddau dŷ unllawr yn
darparu dwy lofft, cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi a chyntedd ynghyd a
mannau parcio ar gyfer dau gerbyd. Bydd un fynedfa oddi ar y ffordd sirol
dosbarth III gyfagos yn gwasanaethu’r ddau dŷ.
Nid oes dynodiadau statudol amgylcheddol na threftadaeth i’r
llecyn tir hwn sy’n cael ei ddefnyddio’n bresennol ar gyfer tir pori. Fodd
bynnag mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi fod yr ardal eang o amgylch safle’r
cais yn destun llifogydd arwyneb tir.
Wrth ystyried egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei
leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu diffiniedig a gynhwysir o fewn y CDLl. Nodai Polisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu') y tu allan
i ffiniau datblygu’, bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â
pholisïau penodol y Cynllun neu bolisïau cynllunio cenedlaethol, neu fod y
cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Lleolir y bwriad
yn union gerllaw clwstwr Caerhun fel y'i diffinnir yn yr CDLl
a thrwy hyn, mae Polisïau TAI 6: Tai mewn clystyrau; TAI 15: Tai Fforddiadwy
ynghyd a'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA): Tai Fforddiadwy, yn berthnasol.
Nodi’r Polisi TAI 6 y dylai cynigion am dai newydd mewn lleoliadau o'r fath
gydymffurfio a saith maen prawf.
Eglurwyd bod Datganiad Cynllunio wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn
nodi bod galw uchel am dai dwy lofft yn ardal Caerhun / Glasinfryn (ffigyrau’r
Asesiad Farchnad Tai Lleol, Tai Teg ac
Uned Strategol Tai yn cefnogi’r datganiad yma). Ategwyd bod y cynllun yn addas
ac yn cwrdd â’r angen cydnabyddedig.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd na fydda’r tai newydd
yn ymddangos yn estron yn y man hwn er gwaethaf eu lleoliad ar dir amaethyddol
agored oherwydd bydd eu lleoliad yn union gerllaw tai preswyl eraill. Ni
fyddant felly yn cael effaith andwyol sylweddol ar ansawdd tirwedd gyffredinol
yr ardal.
Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y gall coed
presennol amharu ar y gwelededd o’r fynedfa. O ganlyniad, gofynnwyd am amod i
sicrhau na chaniateir i unrhyw wal, gwrych neu ffens derfyn y briffordd fod yn
uwch nag 1 metr uwchlaw lefel lôn cerbyd y ffordd sirol gyfagos o naill ben
ffin y safle a'r briffordd i'r llall, a rhaid clirio unrhyw lystyfiant er mwyn
cynnal y gwelededd. O osod amod o’r fath
ystyriwyd bod y cynllun yn dderbyniol dan ofynion Polisi TRA 2 a TRA 4 parthed
safonau parcio a diogelwch ffyrdd.
Yng nghyd-destun materion llifogydd, nodwyd bod yr Asesiad
Canlyniadau Llifogydd (FCA) diwygiedig a dderbyniwyd yn disgrifio bod y perygl
llifogydd i'r safle datblygu wedi cael ei reoli trwy gael gwared ar strwythur
rheoli o fewn y wal derfyn i'r gorllewin o'r datblygiad. O ganlyniad, amlygwyd
bod Uned Draenio Tir y Cyngor yn cytuno bod perygl llifogydd i safle’r
datblygiad arfaethedig wedi’i leihau’n sylweddol oherwydd y gwelliant yma. Fodd
bynnag, ystyriwyd fod perygl llifogydd gweddilliol yn parhau (e.e., os bydd
rhwystr yn yr agoriad) ac felly’n argymell y dylid cadw’n gaeth at fesurau
dylunio a nodwyd yn adran 4 o’r FCA (gwreiddiol) - codi lefelau lloriau uwchlaw
93.6m.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Bod y cynnig yn darparu
dau fyngalo, dwy ystafell wely
fforddiadwy i bobl leol.
·
Bod galw
clir am dai fforddiadwy yn yr ardal a bod Adran Tai y Cyngor wedi cadarnhau bod oddeutu 50 o bobl yn chwilio am fyngalo
fforddiadwy, dwy ystafell wely yn
ardal Caerhun a Glasinfryn.
·
Bod data mudo gan StatCymru
yn dangos bod allfudiad pobl 15-29 oed rhwng 2012 a
2020 yn uwch na'r ffigwr mewnfudo
o'r grŵp oedran yma. Un rheswm efallai am hynny yw’r diffyg
tai fforddiadwy yn yr ardal; nid yw
pobl yn gallu
diwallu eu hanghenion tai yn lleol. Byddai’r cynnig yn gwrthdroi'r
duedd yma drwy gyfrannu at yr angen lleol clir
yma am dai.
·
Mynegwyd pryderon ynglŷn
â pherygl llifogydd ar y safle; fodd
bynnag, mae’r sefyllfa wedi gwella
drwy gael gwared o strwythur a oedd ynghlwm
â wal y ffin.
Bod Uned Draenio’r
Cyngor wedi cadarnhau bod y
perygl llifogydd wedi lleihau yn
sylweddol o ganlyniad i hyn, a'r
ymgeisydd yn hapus i gytuno i'r
lefelau llawr a argymhellir fel
mesurau lliniaru.
·
Bod Priffyrdd
wedi cadarnhau nad oedd ganddynt
wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig. Yn unol â'u
hargymhelliad, ni fydd unrhyw strwythur
na thwf uwchlaw
1 metr o uchder yn cael ei
godi ar hyd
ffin y safle er sicrhau gwelededd clir i gerbydau
adael y safle.
·
O ran effaith ar gymdogion,
byddai'r tai arfaethedig yn rhai unllawr
eu natur gyda thoeau ar
ongl - byddent wedi'u lleoli'n ganolog o fewn eu lleiniau, ac o bellter priodol i ffwrdd o'r
eiddo cyfagos. Ni fyddai'r unedau yn arwain at unrhyw
effeithiau goredrych, cysgodi neu effaith ormesol andwyol ar eiddo cymdogion
·
Mewn perthynas â'r pryderon a godwyd ynglŷn â'r effaith ar archaeoleg
yn yr ardal, ymgynghorwyd gyda Gwasanaeth
Cynllunio Archeolegol Gwynedd ac ni
dderbyniwyd unrhyw sylwadau am y cynnig.
·
Ystyriwyd felly y byddai'r bwriad
yn gwneud defnydd da o lain o dir o fewn ardal breswyl
ac yn darparu dau dŷ fforddiadwy
i ymateb i’r galw uchel
am dai lleol yn yr ardal. Ni fyddai'r datblygiad yn creu unrhyw
effeithiau llifogydd andwyol, effaith ar y rhwydwaith ffyrdd nac eiddo
cyfagos.
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Ei fod yn croesawu dau dŷ
fforddiadwy
·
Bod gwrthwynebiadau
yn lleol wedi eu cyfeirio
at y cyn aelod lleol ac iddo yntau
ers i’r ffiniau
newid
·
Bod ymateb
i bryderon bygythiad i fyd
natur, materion archaeolegol ac effaith ar fwynderau cyfagos
wedi eu cyfarch
yn yr adroddiad
·
Bod pryderon
trafnidiaeth a llifogydd yn parhau yn
amlwg - Cyngor Cymuned yn datgan gwrthwynebiad i’r cais ar
sail fod tystiolaeth bod y tir yn hanesyddol
yn llifio
·
Croesawu bod wal
derfyn yn cael ei gosod 2m yn ôl o gerbydlon y ffordd
sirol er mwyn caniatáu cynllun i greu llwybr troed yn y dyfodol. Byddai’r
weithred yn caniatáu gwelededd gwell i’r fynedfa arfaethedig – awgrym gosod amod ar
gyfer palmant
·
Bod
y cae yn ‘wlyb ei olwg’ ac felly angen sicrhau na fydd y tai yn cael dŵr
ynddynt
d) Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais ynghyd a’r
amodau a drafodwyd
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
Bod Cyngor Cymuned Pentir yn gwrthwynebu’r
cais ar sail tystiolaeth llifogydd - yr Aelod Lleol yn tanlinellu
hyn
·
Bod y safle tu allan
i’r ffin datblygu
·
Croesawu amod defnyddio llechi to Cymreig
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gosod palmant, nodwyd nad oedd
hyn yn angenrheidiol
fel amod gan nad oedd
palmant o gwbl ar hyn o bryd
yng Nghaerhun, ac wrth edrych ar
leoliad y tai a gerddi cyfagos, ynghyd a natur gul y lôn, mae’n annhebygol iawn bydd modd
gosod palmant yng ngweddill y pentref. Ni ystyriwyd y byddai’n rhesymol gosod amod ar
gyfer y datblygiad bychan hwn i
ddarparu palmant o flaen y safle.
Mewn ymateb i sylwadau am lifogydd, nodwyd bod yr adroddiad yn cyfarch y pryderon
ac yng nghyd-destun defnydd o lechi to Cymreig, nodwyd y dylai’r geiriad, oherwydd colli apêl yn y gorffennol,
nodi ‘llechi tebyg i rai o Gymru’. Er yn rheol Ewrop,
nid oes newid
o safbwynt gweithredu’r amod.
PENDERFYNWYD
Caniatáu
yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ac amodau’n ymwneud a’r canlynol
:
1. Dechrau o fewn 5 mlynedd
2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda
chynlluniau a gymeradwywyd
3. Defnyddio llechi to Cymreig
4. Amod er sicrhau gwelededd derbyniol
5. Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir er
sicrhau fforddiadwyedd
6. Amod Dŵr Cymru
7. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad
Ecolegol Rhagarweiniol
8. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad
Perygl Llifogydd
Nodyn – Dŵr Cymru
System Draenio Gynaliadwy
Sylwadau’r Uned Trafnidiaeth
Dogfennau ategol: