I ystyried
cais gan Mr B
(copi arwahan i’r Aelodau yn unig)
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol. Nodwyd bod yr ymgeisydd
yn
yrrwr Hacni/Hurio Preifat Trwyddedig hyd at
02-01-2023 ond ni wnaeth adnewyddu ei drwydded. Ategwyd nad oedd wedi datgan ei
bwyntiau cosb ar ei gais, ond roedd wedi ysgrifennu nodyn yn nodi fod ganddo 6
pwynt cosb.
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb a dderbyniodd am oryrru. Nododd ei fod yn
derbyn bod y ddau achos yn
agos at ei gilydd ac ymddiheurodd
am hynny. Ategodd mai diffyg canolbwyntio oedd y rheswm dros hyn
- o fod yn gwneud 33mya ar un achos a 34mya ar yr achos arall mewn
ardal 30mya.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu
·
Datganiad DBS
·
Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Chwefror
2022, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben Chwefror
2025.
Yn Rhagfyr
2022, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben 19 Rhagfyr 2025.
CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae rhan 13 o'r
Polisi yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau
sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi
Mae paragraff 13.3
o’r Polisi yn nodi y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu
fater arall i'w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn
neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru. Mae’n
bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig ei gyfeirio at sylw'r Pwyllgor Trwyddedu os
oes mwy na dwy drosedd ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded”
CASGLIADAU
Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad
yr ymgeisydd o’r amgylchiadau ac argymhelliad y swyddog Trwyddedu i ganiatáu’r cais.
O dan bolisi’r awdurdod ystyriwyd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a’i fod
wedi bod yn gyrru ar gyflymder
o 34 a 33 m.y.a. mewn parthau 30 m.y.a. Roedd wedi cydnabod
mai camgymeriad oedd hyn ac yn
ymddiheuro.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.