Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.
PENDERFYNIAD
Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn
crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Nodwyd er mwyn cau bwlch ariannol eleni
roedd angen gweithredu gwerth £7.6m o arbedion
yn ystod 2023/24. Roedd yn gyfuniad o bron i filiwn oedd wedi ei
gymeradwyo yn flaenorol, arbedion ar gyfer Ysgolion o £1.1m, £3m ar gyfer
adrannau’r Cyngor a £2.4m pellach drwy adolygu polisi ad-dalu dyled cyfalaf y
Cyngor.
Amlygwyd dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd trafferthion i wireddu
arbedion mewn rhai meysydd hyn amlycaf yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
ac yn y maes Gwastraff. Mynegwyd y bu i werth £2m o gynlluniau oedd a risgiau
sylweddol i gyflawni eu dileu fel rhan o Adolygiad Diwedd Awst.
Eglurwyd fod 98% o’r Cynlluniau o 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol
2023/24 bellach wedi ei gwireddu sef £33.7m o’r £34.3m. O’r cynlluniau newydd
yn y flwyddyn ariannol gyfredol nodwyd fod 81% wedi ei gwireddu a 6% pellach ar
drac i’w gyflawni’n amserol. Eglurwyd fod ychydig o oediad i wireddu gwerth
£694k o gynlluniau arbedion, ond nid yw’r Adrannau yn rhagweld problem i’w
gwireddu. Pwysleisiwyd fod mwyafrif o’r swm yma yn cynnwys arbedion o £539k gan
ysgolion gan eu bod yn gweithio i flwyddyn academaidd ac felly y bydd
gwireddu’n llithro i’r flwyddyn ariannol nesaf.
Pwysleisiwyd fod £39m o arbedion wedi eu gwireddu o’r £41m gofynnol dros
y cyfnod. Rhagwelir y bydd 1% ychwanegol wedi ei wireddu erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol.
Bu i’r Pennaeth Cyllid amlygu’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd yn y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel a ganlyn. Holwyd sut mae dewis rhwng
priodoldeb ariannol a chyflawni dyletswydd statudol, a beth fuasai angen ei
wneud unwaith fo arian yn dod i ben. Esboniwyd ei bod yn allweddol fod y cyngor
yn gwneud popeth i sicrhau na fydd yn cyrraedd y pwynt yma. Nodwyd fod angen
gwneud yn siŵr fod y Cyngor yn sicrhau gwerth am arian ac yn gwneud y
defnydd gorau o bob punt. Mynegwyd fod
methiant i wneud hyn yn arwain at angen i wneud datganiad s114, a bod angen
gwneud popeth i osgoi cyrraedd y pwynt yma. Cydnabuwyd fod pryder am ddiffyg
adnoddau i gyflawni’r pethau ond mai hyn yw’r realiti ar hyn o bryd.
Nodwyd fod cais i wneud gwaith modelu er mwyn rhagweld y galw yn y
dyfodol, ac eglurwyd fod y Tîm Ymchwil a Gwybodaeth yn flaengar iawn yn y maes
hwn. Amlygwyd fod yr aelodau yn nodi ei bod yn prysur gyrraedd y pwynt ble mae
angen ail-edrych ar y ffordd mae’r Cyngor yn cyflawni gwasanaethau.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd yng nghanol y naratif o doriadau a phwysau
cynyddol ar staff, tynnwyd sylw at yr angen i feddwl ar yr effaith mae’n cael
ar y staff. Mynegwyd mai prif faes gwariant y Cyngor yw cyflogi staff ac mae
torri yn ôl yn mynd i arwain at fwy o bwysau ar staff. Pwysleisiwyd fod rhaglen
llesiant staff wedi ei roi ar dop yr agenda.
·
Heriwyd beth oedd “statudol” ac eglurwyd eu bod yn
feysydd ble mae gofyn statudol i’r Cyngor eu gweithredu, megis cynllunio a
diogelwch plant. Eglurwyd gyda’r sefyllfa ariannol fel ac y mae hi mae’n her i
benderfynu ble mae’r ffiniau o ran gwneud y dyletswyddau statudol ac i dorri
unrhyw beth sydd uwchlaw hyn.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: