Cyflwynwyd gan:Cyng. Beca Brown
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch Gwern ap Rhisiart ar
ei rôl newydd fel Pennaeth yr Adran Addysg. Atgoffwyd fod y gyfundrefn wedi
derbyn adroddiad Estyn cadarnhaol a gyhoeddwyd fis Medi'r llynedd a oedd yn
tystio i waith caled y gyfundrefn a diolchwyd i bawb am eu gwaith.
Amlygwyd fod yr adran wedi bod yn gweithredu ar gynlluniau o
fewn Cynllun y Cyngor y newydd ond ei bod yn ddyddiau cynnal gan ei bod yn
gynllun newydd. Amlygwyd rhai meysydd fel a ganlyn. O ran cynllun Trawsnewid
Addysg Blynyddoedd Cynnar nodwyd fod comisiynydd allanol wedi’i gomisiynu a bod
cynllun gwaith drafft wedi ei greu. Mynegwyd y bydd hyn yn lleihau anghysondeb
o ran cynnig ar draws y sir. Eglurwyd fod y Cyngor o flaen amserlen y
Llywodraeth o ran cinio am ddim, a bod y gwaith uwchraddio wedi ei wneud
bellach o fewn ysgolion. Ychwanegwyd fod gwaith hyrwyddo angen ei wneud yn
benodol mewn rhai ysgolion ble mae cyfradd nifer y plant yn elwa yn is.
Mynegwyd yn y maes moderneiddio addysg balchder fod modd
arallgyfeirio arian er mwyn buddsoddi yn Ysgol Hirael a Ysgol Tryfan ym Mangor,
gan fod costau adeiladu wedi cynyddu cymaint. Ategwyd o ran Llesiant Plant a
Pobl ifanc a Cost Gyrru Plant i’r Ysgol fod holiadur wedi ei rannu a fydd yn
adnabod gwir gost anfon plant i’r ysgol a fydd yn amlygu costau amlwg meis
gwisg ysgol ynghyd a chodi sylwi i gostau mwy cuddiedig.
O ran cynllun Trochi, diolchwyd i staff am eu gwaith ac i’r
plant am eu holl ymdrechion a bod gwir angen dathlu’r nifer o siaradwyr Cymraeg
newydd mae’r gwasanaeth yn ei greu. Mynegwyd fod gwaith hyfforddiant yn parhau
o fewn ysgolion a bod rhai ysgolion uwchradd mewn peilot Llywodraeth Cymru a
Say Something in Welsh a bod hyn yn amlygu fod yr adran yn ceisio am bob cyfle
sy’n codi i sicrhau defnydd o’r Gymraeg.
O ddydd i ddydd amlygwyd fod lefel presenoldeb yn parhau i
fod yn broblem, ond ei fod i’w weld yn lleol, cenedlaethol ac yn rhyngwladol yn
dilyn Covid. Nodwyd fod y rhesymau yn gymhleth ond fod llawer o waith yn cael
ei wneud. Mynegwyd tristwch fod y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad i gau
Ysgol Felinwda ond diolchwyd i’r staff am eu holl waith a dymuno yn dda i’r
plant wrth drosglwyddo i’r ddwy ysgol gyfagos.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
·
Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod yr adroddiad
yn amlygu llawer o newyddion da ond fod yr adran yn wynebu heriau ond ei fod yn
edrych ymlaen at symud ymlaen i weithio yn agos nid yn unig gyda staff yr adran
ond gydag ysgolion yn ogystal.
·
Amlygwyd fod gwaith Athro ddim yn swydd hawdd a
diolchwyd yn fawr i holl athrawon a staff ysgolion am eu gwaith ac am eu
cyfraniad yn trosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf.
·
Holwyd am sut mae’r gyfundrefn drochi yn cael
gwerthuso. Y bwriad yw cynnal grŵp defnyddwyr i weld beth sy’n gweithio er
mwyn gallu gwella’r ddarpariaeth.
Awdur:Gwern ap Rhisiart
Dogfennau ategol: