Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor yn nodi pryder ynglŷn â’r lefelau uchel o absenoldebau staff ac yn gofyn bod diweddariadau ar y Strategaeth yn y dyfodol yn manylu ar ddata penodol, megis cymhariaeth dros gyfnodau, ac ati.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r maes llesiant staff er mwyn cael sicrwydd fod trefniadau priodol mewn lle ac y bydd y Strategaeth arfaethedig yn cyfarch yr heriau o ran ôl-effaith cyfnod y pandemig ymysg y gweithlu a chostau absenoldebau staff oherwydd salwch.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd:-

·       Fel sy’n gyffredin bob amser mewn arolwg staff, bod yna dipyn o farn yn yr adroddiad ynglŷn â gwybodaeth a sgiliau rheolwyr canol, a nodwyd y croesawid y Strategaeth cyn belled â’i bod yn cael ei gweithredu a’i mabwysiadu yn benodol gan uwch swyddogion, a bod rheolwyr llinell, a rheolwyr canol yn benodol, yn derbyn hyfforddiant rheolaidd ac arweinyddiaeth.

·       Er bod yr adroddiad yn dyfynnu ychydig o eiriau staff i ddangos beth yw’r teimlad, y byddai wedi bod yn fuddiol cyflwyno mwy o ddata a gwybodaeth i ddangos beth yw barn staff gwahanol adrannau’r Cyngor yn sgil yr Arolwg Llais Staff.

·       Bod yr absenoldebau staff yn uchel ac y byddai wedi bod yn fuddiol cyflwyno mwy o wybodaeth er mwyn gweld oes yna broblemau amlwg mewn rhai adrannau, a’r rhesymau dros hynny.

·       Y croesawid y cyfle i’r pwyllgor graffu’r maes hwn eto.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd:-

·       Bod y data yn sicr ar gael.  O ran yr Arolwg Llais Staff yn benodol, bod yna neges glir o ran yr ystadegau ar lesiant, gyda’r sgôr llesiant yn is na’r sgôr swyddi / gwasanaethau.  Roedd yna neges glir hefyd nad oedd staff rheng-flaen yn ymwybodol o’r pecynnau cefnogaeth sydd ar gael.

·       O ran y sylw ynglŷn â rheolwyr, bod gweithlu iach a bodlon bellach yn un o’r 9 ffrwd gwaith yng Nghynllun Ffordd Gwynedd, gyda ffrwd gwaith arall yn ymwneud â datblygu staff a rheolwyr, a byddai’r Strategaeth yn plethu i mewn i hynny o ran y rhaglenni sydd ar gael i ddatblygu rheolwyr.

 

Awgrymwyd, er bod rheolwyr canol yn arbenigwyr yn eu maes, nad oeddent bob amser yn rheolwyr naturiol, a gofynnwyd at bwy y dylai’r staff gyfeirio unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglŷn â materion rheolaethol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Yn amlwg, gallai staff uchafu materion o’r fath o fewn y gwasanaeth neu’r adran, ond, fel rhan o’r Cynllun Llesiant, bwriedid adnabod cydlynwyr llesiant o fewn pob adran.

·       Y gallai staff hefyd gyfeirio’r mater i sylw’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol neu’r drefn Canu’r Gloch.

 

Nodwyd y byddai’n ddiddorol gweld yr ystadegau ar dudalennau 2 a 3 o’r Cynllun Llesiant dros gyfnod o, dyweder, 5 mlynedd er mwyn gallu cymharu’r sefyllfa bresennol gyda’r sefyllfa cyn, ac yn ystod y cyfnod Cofid.

 

Croesawyd y bwriad i adnabod cydlynwyr llesiant, a holwyd, o safbwynt llesiant y cydlynwyr eu hunain, a oedd bwriad i’w rhyddhau o’u dyletswyddau arferol am gyfnodau i ymgymryd â’r rôl yma.  Mewn ymateb, nodwyd bod y trafodaethau ynglŷn â hynny yn parhau.

 

Holwyd a oedd modd i’r staff droi at rywun annibynnol am gyngor ynglŷn â materion llesiant.  Mewn ymateb, nodwyd bod gan y Cyngor gytundeb gyda Medra, sydd â nifer o gwnselwyr dros Gyngor Gwynedd, a bod modd i’r staff fynd atynt yn gwbl gyfrinachol i drafod unrhyw bryderon.

 

Holwyd a oedd yn flaenoriaeth gorfforaethol bod pawb o’r staff yn cael eu gwerthuso, a beth oedd y trefniadau ar gyfer hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod gwerthuso parhaus yn un o’r 9 ffrwd gwaith o fewn Cynllun Ffordd Gwynedd.

·       Y bu’r drefn werthuso yn eithaf llafurus dros y blynyddoedd, ond bod gwaith ar droed bellach i lunio fframwaith newydd sy’n fwy hyblyg.

·       Bod rhaid i’r drefn newydd weithio i bob gwasanaeth, o dimau sy’n cael cyfarfodydd un i un gyda’u rheolwyr yn fisol i weithlu sydd allan ar safleoedd, a ddim yn gweld eu rheolwr mor aml.

 

Mynegwyd gobaith y bydd y Strategaeth Llesiant yn codi’r morâl isel sy’n dal i fodoli ymhlith staff.  O ran yr amgylchedd gwaith, mynegwyd siomedigaeth nad oedd cyfeiriad at y Cynllun Moderneiddio Swyddfeydd yn y Strategaeth, gan fod darpariaethau syml fel gofod i staff fynd am baned a pheiriannau dŵr ayb yn cyfrannu’n helaeth at lesiant.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Nad oedd y Cynllun Moderneiddio Swyddfeydd yn ymwneud â llesiant fel y cyfryw, a bod y Strategaeth Llesiant yn strategaeth gorfforaethol sy’n cynnwys pob gweithle, gan gynnwys cartrefi preswyl, ysgolion ayb.

·       Bod y gwaith o foderneiddio Pencadlys y Cyngor wedi dechrau, gyda’r Adran Eiddo yn arwain ar y gwaith.

·       Bod bwriad i greu ardal llesiant ar gyfer staff yn yr hen dderbynfa yn y Pencadlys.  Ni ellid cadarnhau union amserlen y gwaith, ond gallai’r swyddogion ddilyn hynny i fyny ar ôl y cyfarfod.

 

Holwyd a oedd lle yn y Pencadlys i staff fynd i fwyta eu cinio, yn hytrach na gorfod bwyta wrth eu desgiau.  Mewn ymateb, nodwyd bod y trefniadau yn amrywio o goridor i goridor, ond yn sicr bod bwriad i greu gofod corfforaethol ar lawr gwaelod y Pencadlys.

 

Holwyd a oedd yna staff yn dewis gweithio o adre oherwydd nad oeddent yn teimlo’n ddigon iach i ddod i’r gweithle a chymysgu gyda phobl eraill.  Holwyd hefyd a welwyd mwy o iselder ers i bobl fod yn gweithio o adref.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod mwy a mwy o staff yn dod i mewn i’r gweithle bellach a bod llawer ohonynt yn adrodd eu bod yn teimlo’n well gan eu bod yn gallu cymysgu ag eraill.

·       Bod nifer y cyfeiriadau llesiant ar gynnydd, ac er y gallai gweithio o adref fod yn ffactor o ran hynny mewn rhai achosion, nid oedd yna ystadegau ar gael i brofi hynny.

·       Ei bod yn ofynnol bellach i staff swyddfa ddychwelyd i’r swyddfa 2 ddiwrnod yr wythnos ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, holwyd a fyddai’n bosib’ edrych oes ymchwil wedi’i wneud gan brifysgolion neu gwmnïau i’r math yma o gwestiynau er mwyn gallu adnabod patrymau.

 

Nodwyd bod y pwysau gwaith ar staff yn cynyddu a holwyd a oedd gan y Cyngor bolisi corfforaethol neu bolisïau adrannol sy’n edrych ar asesiadau baich gwaith.  Mewn ymateb, nodwyd bod gan y Cyngor asesiadau risg straen ar gyfer unigolion a gwasanaethau, a phetai unigolyn yn teimlo eu bod dan bwysau oherwydd gormodedd gwaith, gellid trafod hynny fel rhan o’r asesiad risg straen.

 

Nodwyd y deellid bod mwy o bobl yn cymryd dyddiau salwch ers Cofid a holwyd a oedd yna ddata ar gael ynglŷn â hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod data ar gael, ond bod oedi wedi bod o ran cael y data yn hanesyddol.

·       Bod bwriad i sustem cofnodi absenoldebau newydd fynd yn fyw ar y sustem hunanwasanaeth i staff.  Byddai’r sustem hon yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd, er enghraifft, petai unigolyn wedi gweithio adref 3 diwrnod o ddydd Llun i ddydd Mercher, a ddim yn teimlo’n ddigon da i ddod i mewn i’r swyddfa ar y dydd Iau, gellid caniatáu iddynt weithio o adref ar y dydd Iau hefyd, cyn belled â bod hynny’n cyd-fynd â gofynion y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Bod y Pwyllgor yn nodi pryder ynglŷn â’r lefelau uchel o absenoldebau staff ac yn gofyn bod diweddariadau ar y Strategaeth yn y dyfodol yn manylu ar ddata penodol, megis cymhariaeth dros gyfnodau, ac ati.

 

Dogfennau ategol: