Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

20/11/2023 - Application No C23/0614/16/LL Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU ref: 3203    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023

Effective from: 20/11/2023

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i'r cais gael ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar dderbyn prisiad llyfr coch o'r tai i allu pennu disgownt ar y tai fforddiadwy, cytundeb 106 tai fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :

1.         Dechrau o fewn 5 mlynedd

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Defnyddio llechi to Cymreig neu lechi cyffelyb

4.         Cytuno’r deunyddiau allanol

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir o’r unedau fforddiadwy er sicrhau eu fforddiadwyedd

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol

9.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth

10.      Amodau Tirlunio

11.      Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Risg Halogiad Tir

12.      Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

13.      Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

 

Nodyn –          Dŵr Cymru

          System Draenio Gynaliadwy

          Uned Trafnidiaeth

          Uned Goed

 


20/11/2023 - Cais Rhif C22/0969/45/LL Tir ar Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 5LF ref: 3202    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023

Effective from: 20/11/2023

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:

 

1.         Amserlenni

2.         Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

3.         Deunyddiau yn unol gyda’r cynlluniau oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.         Amodau manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai

5.         Amser agor y siop

6.         Rheoli amser o ran danfoniadau.

7.         Amodau priffyrdd o ran cwblhau’r fynedfa, gwaith lôn, llefydd parcio ac atal dŵr wyneb.

8.         Amodau gwarchod y cyhoedd o ran system awyru/ uned adfer gwres, lefelau sŵn o offer mecanyddol, rhwystr ar y bae derbyn nwyddau

9.         Cynllun Rheoli Adeiladu

10.       Cadw at mesurau lliniaru yn yr Asesiad Ansawdd Aer

11.       Ymgymryd gyda’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio a’r Cynllun Cynnal a Rheoli Tirlunio Meddal, angen ail blannu o fewn cyfnod o 5 mlynedd.

12.       Mesurau gwella/lliniaru y Gymraeg / arwyddion dwyieithog

13.       Unol gyda cynllun goleuo

14.       Unol gyda’r Adroddiad Arolwg Ecolegol.

15.       Unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol

 

Nodiadau:-

1.         Datblygiad Mawr

2.         SUDS

3.         Priffyrdd – hawl adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980

4.         Sylwadau Dŵr Cymru

5.         Sylwadau Gwarchod y Cyhoedd

6.         Sylwadau CNC

 


20/11/2023 - Application No C22/0523/14/LL Y Deri, Hen Furiau Ffordd Bont Saint, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YS ref: 3205    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023

Effective from: 20/11/2023

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

1.         5 mlynedd i ddechrau gwaith.

2.         Unol a chynlluniau.

3.         Rhaid cytuno unrhyw newidiadau neu gwaith uwchraddio i’r system draenio twr aflan   cyn defnyddio yr estyniad

4.         Gorffeniad i gydweddu gyda’r adeilad presennol.

5.         Gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Nodyn

Llythyr Dwr Cymru

 


20/11/2023 - Application No C23/0500/00/AC 2nd and 3rd Floor Flat, 17 Rhodfa'r Môr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1NA ref: 3204    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023

Effective from: 20/11/2023

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Mae’r bwriad i ddiwygio’r amod er defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ardal Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a ystyrir yn orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.  Yn sgil hyn nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir yn maen prawf v o bolisi TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. 

 

 


17/11/2023 - ACHOS BUSNES LLAWN Y PROSIECT CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER ref: 3201    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 17/11/2023 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2023

Effective from: 17/11/2023

Penderfyniad:

 

1.         Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam Achos Busnes Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r prosiect, ar y sail fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad.

2.         Bod y Bwrdd yn nodi y bydd camau diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant.

3.         Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o fewn sgôp yr Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir.

 


09/11/2023 - AUTISM PLAN TASK AND FINISH GROUP ref: 3197    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 09/11/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/11/2023

Effective from: 09/11/2023

Penderfyniad:

 

  1. Bod y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen (sydd â chysylltiad â’r maes awtistiaeth) yn cyflwyno ceisiadau am oddefebau er mwyn caniatáu iddynt gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
  2. Gofyn i’r Pwyllgor Safonau gynnal cyfarfod arbennig i ystyried ceisiadau am oddefebau gan y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen.
  3. Ethol y Cynghorwyr Cai Larsen a Beth Lawton yn aelodau wrth gefn i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Tasg a Gorffen.

 


09/11/2023 - GWYNEDD BEACH MANAGEMENT ref: 3196    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 09/11/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/11/2023

Effective from: 09/11/2023

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 


09/11/2023 - BYW'N IACH ref: 3195    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 09/11/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/11/2023

Effective from: 09/11/2023

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu’r gwaith a wneir gan Cwmni Byw’n Iach yng nghyswllt y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol a’r angen am fwy o gyllid i ariannu ei weithrediad yng Ngwynedd.

 


09/11/2023 - ADRODDIAD ESTYN AR WASANAETHAU ADDYSG YNG NGHYNGOR GWYNEDD ref: 3194    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 09/11/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/11/2023

Effective from: 09/11/2023

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn adroddiad cynnydd ar ymateb i’r argymhellion mewn 9 mis.