Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2023 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2023
Effective from: 30/11/2023
Penderfyniad:
Mabwysiadu rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2023 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2023
Effective from: 30/11/2023
Penderfyniad:
1. Derbyn yr adroddiad gan argymell:
(i)
dylid cynnwys gwybodaeth
am y risg o ran ffyrdd yn llifogi yn ogystal a’r risg i eiddo yn y Strategaeth
Llifogydd Lleol;
(ii)
dylid codi
ymwybyddiaeth holl drigolion o sut i baratoi ar gyfer llifogydd.
2. Bod y Pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Llifogydd Lleol yn dilyn yr
ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2024.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2023 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2023
Effective from: 30/11/2023
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad
gan argymell:
(i) Dylid ychwanegu gwybodaeth am ‘Teithio Llesol’ o dan Adran 3 yr
Adroddiad: ‘Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’.
(ii) Dylid ystyried addasu ffurf arddangos y wybodaeth o dan y teitlau
‘Beth y wnaethom ddweud y byddem yn ei wneud yn 2022/23’ a ‘Be wnaethom ni’ yn
Adrannau 5-11 yr Adroddiad er mwyn eglurder i’r darllenydd.
2.
Argymell i’r
Cabinet y dylid ystyried yr adnodd staff i gyflawni gweledigaeth y Cynllun
Argyfwng Hinsawdd a Natur.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/11/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2023
Effective from: 28/11/2023
Penderfyniad:
Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol
Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r
adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/11/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2023
Effective from: 28/11/2023
Penderfyniad:
1. Cymeradwywyd
Opsiwn 2 ar gyfer prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon.
2. Cymeradwywyd
i’r Pennaeth Addysg gynnal trafodaethau ar adolygu y memorandwm o
ddealltwriaeth gyda’r rhan-ddeiliaid sydd yn ffurfio Consortiwm Addysg Ôl-16
Gwynedd ac Ynys Môn gyda’r bwriad o gryfhau y trefniadau ac adrodd yn ôl i’r
Cabinet gyda argymhellion ar gyfer y digwyddiadau gytunwyd.
3. Caniatawyd i ddargyfeirio rhan o gyllideb prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon ar
gyfer cyfarch y bwlch ariannol sydd ym mhrosiectau Band B yn unol â’r
adroddiad, nad oes modd symud ymlaen â hwy ar hyn o bryd gan nad oes cyllideb
ddigonol ar eu cyfer yn sgil cynnydd mewn costau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/11/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2023
Effective from: 28/11/2023
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodi’r wybodaeth yn
yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y
flwyddyn 2022-23.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/11/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2023
Effective from: 28/11/2023
Penderfyniad:
Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2022/2023
yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/11/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2023
Effective from: 28/11/2023
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/11/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2023
Effective from: 28/11/2023
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2023 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/11/2023
Effective from: 24/11/2023
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Cynllun
Gweithredu drafft arfaethedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2023 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/11/2023
Effective from: 24/11/2023
Penderfyniad:
1.
Mabwysiadu addasiadau i Gylch Gorchwyl yr Is Bwyllgor Safonau fel y
nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
2.
Mabwysiadu y meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'r Pwyllgor
Safonau a Sefydlu Panel Cyfweld yn unol ag Atodiad 2.
3.
Dirprwyo trefnu y broses penodi i’r Swyddog Monitro.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2023 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/11/2023
Effective from: 23/11/2023
Penderfyniad:
a)
Derbyn yr adroddiad a datgan cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal gan gynnwys y cynllun taliadau
uniongyrchol.
b)
Gofyn am gyflwyniad a gwybodaeth pellach i aelodau am y cynllun taliadau
uniongyrchol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2023 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/11/2023
Effective from: 23/11/2023
Penderfyniad:
a)
Derbyn yr adroddiad, croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr
archwiliadau cyntaf a diolch i staff y cartrefi gofal am eu gwasanaeth.
b)
Datgan pryder am heriau staffio cartrefi gofal a’r problemau a ddaw yn
sgil hynny megis anhawster cwblhau hyfforddiant.
c)
Gofyn i’r adran berthnasol ystyried sut y gellir sicrhau bod pob cartref
yn cyrraedd lefel sicrwydd uchel yn y dyfodol.
d)
Gofyn am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal
fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo
trafodaethau am adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal.
e)
Hysbysu aelodau y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o sylwadau a
phenderfyniadau aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2023 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/11/2023
Effective from: 23/11/2023
Penderfyniad:
a) Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
b)
Cefnogi’r bwriad i gynnal adolygiad llawn o’r
ddarpariaeth bresennol ac ystyried model amgen.
c)
Gofyn i’r swyddogion sicrhau bod y model newydd
yn darparu gwasanaeth cyson ar draws y sir gan gynnwys gwasanaeth i rai sy’n
byw mewn ardaloedd gwledig.
d)
Gofyn i’r adran gyflwyno adroddiad pellach ar yr
adolygiad a’r modelau posib pan yn amserol er mwyn rhoi cyfle i’r craffwyr roi
mewnbwn pellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023
Effective from: 20/11/2023
Penderfyniad:
PENFERFYNIAD: Dirprwyo’r
hawl i'r cais gael ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar dderbyn prisiad llyfr coch
o'r tai i allu pennu disgownt ar y tai fforddiadwy, cytundeb 106 tai
fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :
1.
Dechrau o
fewn 5 mlynedd
2.
Datblygiad yn
cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
3.
Defnyddio llechi to
Cymreig neu lechi cyffelyb
4.
Cytuno’r deunyddiau
allanol
5.
Tynnu’r Hawliau Datblygu
a Ganiateir o’r unedau fforddiadwy er sicrhau eu fforddiadwyedd
6.
Amod Dŵr Cymru
7.
Amodau Priffyrdd
8.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol
9.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth
10.
Amodau Tirlunio
11.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Risg Halogiad Tir
12.
Rhaid rhoi enw Cymraeg
i’r stad a’r tai unigol.
13.
Cyfyngu’r defnydd i
ddosbarth defnydd C3 yn unig
Nodyn – Dŵr Cymru
System
Draenio Gynaliadwy
Uned Trafnidiaeth
Uned
Goed
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023
Effective from: 20/11/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
1. 5
mlynedd i ddechrau gwaith.
2. Unol
a chynlluniau.
3. Rhaid cytuno
unrhyw newidiadau neu gwaith uwchraddio i’r system draenio twr aflan cyn defnyddio yr estyniad
4. Gorffeniad
i gydweddu gyda’r adeilad presennol.
5. Gwelliannau
Bioamrywiaeth
Nodyn
Llythyr Dwr Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023
Effective from: 20/11/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Mae’r bwriad i ddiwygio’r amod er
defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn
annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ardal
Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a ystyrir yn
orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i
Dwristiaid. Yn sgil hyn nid yw’r
Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at
ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir yn maen prawf v o bolisi TWR 2
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/11/2023
Effective from: 20/11/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:
1. Amserlenni
2. Yn
unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.
3. Deunyddiau
yn unol gyda’r cynlluniau oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r
Awdurdod Cynllunio Lleol.
4. Amodau
manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai
5. Amser
agor y siop
6. Rheoli
amser o ran danfoniadau.
7. Amodau
priffyrdd o ran cwblhau’r fynedfa, gwaith lôn, llefydd parcio ac atal dŵr
wyneb.
8. Amodau
gwarchod y cyhoedd o ran system awyru/ uned adfer gwres, lefelau sŵn o
offer mecanyddol, rhwystr ar y bae derbyn nwyddau
9. Cynllun
Rheoli Adeiladu
10. Cadw
at mesurau lliniaru yn yr Asesiad Ansawdd Aer
11. Ymgymryd
gyda’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio a’r Cynllun Cynnal a Rheoli
Tirlunio Meddal, angen ail blannu o fewn cyfnod o 5 mlynedd.
12. Mesurau
gwella/lliniaru y Gymraeg / arwyddion dwyieithog
13. Unol
gyda cynllun goleuo
14. Unol
gyda’r Adroddiad Arolwg Ecolegol.
15. Unol
gyda’r Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol
Nodiadau:-
1. Datblygiad
Mawr
2. SUDS
3. Priffyrdd
– hawl adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980
4. Sylwadau
Dŵr Cymru
5. Sylwadau
Gwarchod y Cyhoedd
6. Sylwadau
CNC
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 17/11/2023 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2023
Effective from: 17/11/2023
Penderfyniad:
1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a
Pheirianneg Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam
Achos Busnes Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno
ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r
prosiect, ar y sail fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n
weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad.
2. Bod y Bwrdd yn nodi y bydd
camau diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos
Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant.
3. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151
a'r Swyddog Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o
fewn sgôp yr Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle
mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir.