Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor GwE
Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi bod yn ystod y cyfarfod blaenorol am
atebolrwydd ac ychwanegwyd fod yr adroddiad hwn yn ffitio i mewn i’r fframwaith
atebolrwydd. Ychwanegwyd wrth edrych ar yr adroddiad ei fod yn codi pryderon.
Mynegwyd fod yr arolygu presennol yn gallu amharu ar y consortiwm newydd.
Nodwyd y camau sydd
wedi ei nodi yn yr adroddiad gan nodi fod y cam gyntaf yn ailgyfeirio Estyn i
gefnogi ysgolion a nad fydd arolygu yn cael ei gynnal yn ystod 2019/20.
Esboniwyd y bydd ysgolion y categori statudol yn parhau i gael ail ymweliad.
Bydd trefn hunan arfarnu newydd yn cael ei newid a bydd fframwaith yn cael ei
greu er mwyn cynorthwyo ysgolion. Mynegwyd y bydd y fframwaith yn cael ei
beilota yn ystod mis Medi. Nodwyd yr ail gam fydd dechrau arolygu eto o 2020
ymlaen. Ymhelaethwyd y bydd yn edrych yn fanylach ar hunan arfarnu a byddant yn
nodi sut y bydd plant yn cael safonau a blociau ansawdd dysgu. Esboniwyd mai y
trydydd cam fydd yr arolygiadau a fydd yn hunan arfarnu. Bydd dyletswydd i
hunan arfarnu yn gyhoeddus a byddant yn cael ei herio gan gyfoedion. Holwyd os
ysgolion ar gategori isel beth fydd yn digwydd i’r rhain.
Nodwyd fod angen
eglurdeb o beth fydd rhan 2 a beth fydd rôl y consortia. Mynegwyd o ran edrych
ar yr ail gam fod y consortia am fod yn cefnogi a hwyluso newid, yn ychwanegol
ar y rôl o gweithio a clystyrau. Ond
mynegwyd nad yw’r rôl i’w weld yn glir.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
-
Nodwyd fod angen eglurdeb o rolau pawb – fel bod mwy o
ddealltwriaeth o atebolrwydd.
-
Ychwanegwyd mai’r prif bwrpas yw i dynnu’r ofn o
arolygiadau.
-
Holwyd beth yw capasiti Estyn er mwyn symud o’r drefn
bresennol i’r drefn newydd. Ychwanegwyd ei bod yn dda cael model newydd ond yn
bell o’i gyflawni.
-
Mynegwyd fod angen newid yn ymddygiad Estyn, gan fod
Estyn yn rhan o’r broblem ac yn rhan o’r datrysiad.
-
Holwyd beth yw’r amserlen – nodwyd fod disgwyl i
newidiadau ddechau digwydd yn ystod 2019/20.
-
Ychwanegwyd y bydd angen cynllun cyfathrebu clir
unwaith y bydd eglurhad clir a pellach
am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2018
Dyddiad y penderfyniad: 04/07/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Cyd-Bwyllgor GwE