Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r Gyllideb Refeniw, gan: 

 

1)    Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, a chan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb, fel sydd yn digwydd ym maes gofal Plant.

 

2)    Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â'r Pennaeth Adran Plant a Theuluoedd, i fynd at wraidd gorwariant yr Adran a chymryd camau i ddod a’r sefyllfa o fewn rheolaeth ac o fewn y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

 

3)    Caniatáu yr Adran Amgylchedd i neilltuo (£220k) o danwariant yr adran yn dilyn adolygiad barnwrol diweddar o gynllun cyfalaf yn ymwneud â Ffordd fynedfa Llanbedr, o ganlyniad i resymau tu hwnt i reolaeth y Cyngor, gan ei roi mewn cronfa benodol i'r pwrpas.

 

4)    Gweithredu’r trosglwyddiadau canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, 

-       (£240k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

-       (£995k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.

-       tanwariant net o (£1,632k) ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i leddfu'r risg gorwariant adrannau'r Cyngor yn 2019/20.

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/10/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/10/2019 - Y Cabinet

Effective from: 31/10/2019

Dogfennau Cefnogol: