Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd i:
· Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol
· Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.
· Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.
· Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.
· Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.
Dyddiad cyhoeddi: 12/06/2020
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Dogfennau Cefnogol: