skip to main content

Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet, Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Bod y pwyllgor craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:

 

·         Oherwydd sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater.  Mae hefyd yn amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r ymgynghoriad.

·         Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i ffwrdd.  Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.

·         Cred rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.

Dyddiad cyhoeddi: 08/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 08/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/10/2020 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Dogfennau Cefnogol: