Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.1
Parhau i weithredu Cynllun Lleol y
Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2021 fel ag yr oedd yn ystod
2020/21. Felly, bydd yr amodau canlynol
(a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:
a) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau
gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.
b) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a
hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.
c) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith
o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.
1.2
Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r
Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud
mân addasiadau i’r cynllun am 2021/22, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y
cynllun.
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 03/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/12/2020 - Y Cyngor
Dogfennau Cefnogol: