Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
 
	
			Statws Penderfyniad: Caniatawyd
	Is KeyPenderfyniad?: Na
	yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
		
PENDERFYNIAD: Gwrthod
 
Rhesymau 
 
 - Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn
     groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad
     yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas
     y tŷ. Ni ystyrir byddai’r bwriad yn ychwanegu at nac yn gwella
     cymeriad ac ymddangosiad y safle a byddai colled o wagle agored rhwng
     anheddau presennol yn niweidio edrychiad a chymeriad y strydlun a’r ardal
     cadwraeth.
 
 
 - Ystyrir bod y bwriad yn groes i ofynion
     polisïau PS19, PS20, AT 1 a AMG 1 o’r CDLL gan na fyddai’r bwriad,
     oherwydd y golled o lecyn agored ynghyd a maint ac edrychiad y tŷ, yn
     diogelu nac yn gwella’r gosodiad ac edrychiad yr ardal cadwraeth a’r Ardal
     o Harddwch Naturiol Eithriadol a golygfeydd pwysig i mewn ac allan o’r
     ardal.
 
 
 
 
		Dyddiad cyhoeddi: 05/09/2022
		Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2022
		Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio
 Dogfennau Cefnogol: