Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1. Cytunwyd
i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd o Gronfa Ffyniant
Gyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol â’r
symiau a nodwyd.
2. Awdurdodwyd
Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i awdurdodi rhyddhau
llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i gwblhau gwiriadau terfynol
a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau
arbennig.
3. Cytunwyd
i sefydlu pedair Cronfa Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i
ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a
chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu tair cronfa dan reolaeth Cyngor
Gwynedd.
4. Gofynwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal ymchwiliad i’r maes gwaith gefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu dealltweiaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn ategu eu gilydd
Dyddiad cyhoeddi: 20/07/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/07/2023 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: