Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Adroddwyd bod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio swyddogaeth i adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol y Cyngor ac fel rhan o’r swyddogaeth honno bod disgwyliad i ystyried adroddiadau cyrff adolygu allanol megis Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Yn ogystal mae disgwyl i bwyllgorau sicrhau eu hunain bod trefniadau ar waith i fonitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn unrhyw argymhellion a geir yn yr adroddiadau hynny.

 

Cyflwynwyd adroddiad ‘Cyfle wedi’i golli’ – Mentrau Cymdeithasol ynghyd ag ymateb y rheolwyr oedd yn amlinellu’r hyn mae’r Cyngor yn bwriadu ei wneud i ymateb i’r argymhellion o fewn yr adroddiad.

 

Eglurwyd bod y gwaith o ddatblygu strategaeth a gweledigaeth wedi dechrau drwy gynnal cyfarfod wyneb yn wyneb ar y cyd gyda chynrychiolwyr o Grŵp Cyswllt Trydydd Sector Gwynedd. Cynhaliwyd gweithdy lle rhoddwyd cyfle i’r mynychwyr (Trydydd Sector, Swyddogion a Chynghorwyr) gyfrannu at ddatblygu a chyd-gynhyrchu blaenoriaethau gweithredu.  Y cam nesaf fydd dadansoddi’r sylwadau a gasglwyd, cynnal cyfarfod arall ym mis Hydref i ddatblygu’r weledigaeth yn llawn a rhannu diweddariad pellach i'r Pwyllgor ymhen 6 mis.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth yw menter gymdeithasol, nodwyd bod y cyfarfod diweddar wedi bod gyda sefydliadau trydydd sector sydd yn rhan o Grŵp Cyswllt Trydydd Sector Gwynedd sy’n cynrychioli pobl o fewn cymdeithas - enghreifftiau yng Ngwynedd fyddai Mantell Gwynedd, GISDA, Meter Fachwen. Mewn sylw ategol, awgrymwyd rhestru enghreifftiau o fentrau cymdeithasol yn y ddogfen ymateb y rheolwyr er mwyn deall y cyd-destun yn ehangach. Ategodd Swyddog Archwilio Cymru mai anodd yw gosod diffiniad o'r term, ond mai corff ydyw ar gyfer sicrhau gwerth cymdeithasol ac nid er mwyn gwneud elw. Cyfeiriwyd at 1.24 o’r adroddiad lle nodi’r bod y gwefannau gorau gan awdurdodau lleol yn cynnwys ‘diffiniad clir sy’n nodi beth yw Menter Cymdeithasol’

 

Mewn ymateb i sylw bod yr adroddiad yn un cyffredinol ac nad oedd awgrym bod cyfle wedi ei golli, nodwyd bod gwrthdaro rhwng gwaith lleol a gwaith cenedlaethol, ac er bod yr adroddiad yn ymddangos yn generig, bod yr argymhellion yn arwain at gyfleoedd yn lleol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod gwaith mentrau cymdeithasol yn glodwiw iawn, fodd bynnag wrth i Awdurdodau Lleol, waredu asedau a cholli rheolaeth, gall hyn arwain at fentrau yn datgymalu gwaith Awdurdod Lleol

·         Bod enghreifftiau da o fentrau cymdeithasol yn y Sir ac os maent yn cael eu rheoli yn gywir, y budd cymdeithasol yn un cadarnhaol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

Nodyn: 11b - awgrym i gynnwys enwau / enghreifftiau o Fentrau Cymdeithasol Gwynedd yn yr ymateb er mwyn deall y cyd-destun yn ehangach

Dyddiad cyhoeddi: 07/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 07/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Cefnogol: