Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

  1. Nid oes angen wedi ei brofi ar gyfer codi annedd newydd yng nghefn gwlad agored ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd â pharagraffau 4.2.37 - 38 o Bolisi Cynllun Cymru a rhan 4.3 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy sy’n sicrhau mai dim ond mewn amgylchiadau penodol ac eithriadol y gellir caniatáu tai newydd yng nghefn gwlad agored.  

 

  1. Fe fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan achosi ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella cymeriad ac ymddangosiad y safle ac ni fyddai'n integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas. Mae'r cais felly'n groes i ofynion Polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Dyddiad cyhoeddi: 20/05/2024

Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/05/2024 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol: