Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
(a)
Mabwysiadu’r canlynol fel
hunanasesiad y Pwyllgor Safonau o’i berfformiad yn 2023/24.
SWYDDOGAETH |
ASESIAD (1/2/3/4) |
Tystiolaeth |
Camau pellach |
1. Hyrwyddo a chynnal
safonau ymddygiad uchel gan aelodau |
1. |
Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm
Safonau Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill. Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn. |
Parhau i fynychu a chefnogi. |
2. Cynorthwyo’r
aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad |
1. |
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
mewn cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau. |
|
3. Cynghori’r
Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad |
1. |
Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod. Ond, adolygwyd y Drefn Datrys Mewnol i gefnogi
dyletswydd Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol dan 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol
2000. |
|
4. Monitro
gweithrediad y Cod Ymddygiad |
1. |
Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn
aelodau. Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsmon a Phanel
Dyfarnu Cymru. |
Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn
gwybodaeth. Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a
lletygarwch. |
5. Cynghori,
hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod
Ymddygiad |
3. |
Trefnwyd hyfforddiant Cod Ymddygiad llawn ar gyfer
aelodau gyda’r sesiwn gyntaf yn cymryd lle yn ystod Chwefror a’r ail ym mis
Ebrill. |
Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant bellach gan fod
nifer o aelodau heb fynychu. |
6. Rhoi goddefebau i aelodau |
1. |
Trafodwyd a dyfarnwyd dau gais am oddefeb
gan y Pwyllgor yn Chwefror 2024. |
|
7. Ymdrin ag
adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar
faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon |
1. |
Cynhaliwyd 1 gwrandawiad yn ystod y flwyddyn
ynglŷn ag Aelod Cyngor Gwynedd. Yn ogystal adolygwyd y drefn ar
gyfer gwrandawiadau er mwyn cryfhau'r cyfathrebu. |
|
8. Awdurdodi’r
Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad |
Dim angen gweithredu. |
Dim i’w adrodd |
|
9. Monitro cydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau
Gwleidyddol ar y Cyngor a’u dyletswyddau o dan Adran 52A(1) Deddf Llywodraeth
Leol 2000. Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Arweinyddion
Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r
dyletswyddau hynny. |
2. |
Cynhaliwyd sesiwn ar y cyd
gydag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ac Aelodau'r Pwyllgor Safonau i
ystyried y dyletswydd. Mabwysiadwyd meini prawf a
threfn adrodd ar y dyletswydd. Mae’r Swyddog Monitro wedi
cyfarfod gyda’r Arweinyddion Grwpiau yn unigol i drafod materion Cod
Ymddygiad. |
Bydd y trefniadau yn cael eu cynnal yn unol â’r
canllawiau statudol. |
10. Ymarfer y swyddogaethau
perthnasol uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned |
3. |
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
i gynghorau, clercod ac aelodau. Fodd bynnag
cydnabyddir fod darparu i weithgaredd
megis hyfforddiant wedi bod yn heriol
ac mae’r ardal yma angen sylw
a dod i gasgliad ynglŷn â ffordd ymlaen. |
Angen ystyried adfer y rhaglen ar sail rithiol pan mae
adnoddau yn caniatáu. |
(b)
Cytuno i symud yr eitem Adolygu
Trefniadau Datrysiad Mewnol o gyfarfod Tachwedd 2024 i gyfarfod Chwefror 2025
er mwyn ychwanegu eitem ar Hyfforddi a Chefnogi Cynghorau Cymuned i gyfarfod
mis Tachwedd. Yn dilyn yr addasiad hwn,
cymeradwyo'r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2024/25:-
Adroddiad Blynyddol
Honiadau yn erbyn aelodau
Hunan Asesiad a Rhaglen Waith
4 Tachwedd, 2024
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch
Cofrestr Datgan Buddiant
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon
Honiadau yn erbyn aelodau
Adolygu Gweithrediad Protocol Arweinyddion Grwpiau
Gwleidyddol
Derbyn adroddiad o Fforwm Safonau Cymru
Hyfforddi a Chefnogi
Cynghorau Cymuned
17 Chwefror, 2025
Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu
Honiadau yn erbyn aelodau
Hunan Asesiad a Rhaglen Waith
Adolygu Trefniadau
Datrysiad Mewnol
Dyddiad cyhoeddi: 17/06/2024
Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/06/2024 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Cefnogol: