Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 

1.          Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.

2.          Mae'r Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain. Dylai'r arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.

3.          Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i beidio codi rhent ar y Cyngor nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real.

 

Dyddiad cyhoeddi: 03/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor