Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Cymeradwywyd a galluogwyd y Gwasanaeth Parcio i fwrw ymlaen i wireddu dau gynllun arbedion sydd wedi eu
cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor yn 2023/24, sef:
· 1.1.1 Cynyddu
ffioedd parcio Pen y Gwryd o £2.00 am hanner diwrnod a £4.00 am ddiwrnod llawn
i £4.00 am 6 awr a £8.00 am 12 awr.
· 1.1.2 Cynyddu
pris Tocyn Parcio Blynyddol o £140 i £145 y flwyddyn a phris Tocyn Parcio Lleol
o £70 i £75 y flwyddyn.
2.
Cymeradwywyd a galluogwyd y Gwasanaeth Parcio i fwrw ymlaen i wireddu dau gynllun arbedion sydd angen ystyriaeth
bellach cyn dod i benderfyniad terfynol yn 2024/25, sef:
· 1.2.1 Ymestyn
oriau gorfodaeth meysydd parcio arhosiad byr o 10:00 hyd at 16:30 i 9:00 hyd at
17:00.
· 1.2.2 Addasiad
i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir Band 2 yn unol a’r hyn a welwch yn Atodiad A.
3.
Cytunwyd cynyddu holl
ffioedd parcio 40% i alluogi’r Gwasanaeth Parcio gyfarch targed incwm sydd yn
creu diffyg sylweddol yn y cyllidebau.
4.
Nodwyd petai Aelodau’r Cabinet
yn penderfynu cymeradwyo’r cynlluniau arbed a nodir oddi fewn 1.2.1 ac 1.2.2 bydd 10 diwrnod o gyfnod segur cyn
medru trosglwyddo’r mater i Adran Gyfreithiol y Cyngor er mwyn cyflawni cyfnod
ymgynghori statudol yn unol a Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol.
5.
Nodwyd, fel rhan o’r cyfnod
ymgynghori, bydd gofyn hanfodol i’r Cyngor hysbysebu’r newidiadau arfaethedig
yn y papurau newydd lleol yn ogystal ag arddangos y wybodaeth (cynnwys y
ffioedd newydd) mewn safle amlwg yn y meysydd parcio a cheir eu heffeithio.
6.
Cadarnhawyd y bwriad o fwrw mlaen gyda’r paratoadau er mwyn gweithredu’r holl
newidiadau o 1af Ebrill 2025
Dyddiad cyhoeddi: 15/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 15/10/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/10/2024 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: