Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd, ac Uchelgais
Gogledd Cymru yn ymdrin â’r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u
disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i’r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn
yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei Ystyried.
2.
Derbyn y bydd
cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol yn gweithredu fel cymeradwyaeth i’r cais
am newid i’r prosiect i leihau cwmpas
prosiect ar gyfer Cam 1 o 3,000 metr sgwâr i 1,856 metr sgwâr o unedau
cyflogaeth newydd arfaethedig.
3.
Cytuno ar y
broses ddiwygiedig a fydd yn gweld Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno ar ôl
cwblhau’r Cytundeb Cyd-fenter a chadarnhau cyllid Llywodraeth Cymru cyn dechrau
caffael.
4.
Cytuno ar
egwyddorion y cynnig Cyd-fenter fel y’u nodir ac yn dirprwyo i’r Cyfarwyddwr
Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151
a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo a ymrwymo i’r cytundeb.
5.
Nodi’r
adenillion a ragwelir fel rhan o’r Cytundeb Cyd-fenter ac yn cymeradwyo mewn
egwyddor (yn amodol ar gadarnhau’r Achos Busnes Lawn) bod yr incwm a dderbynnir
yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa Rheoli
Portffolio yn y blynyddoedd i ddod.
6.
Cynnal
trafodaeth bellach ar Gam 2 y Prosiect yn dilyn cwblhau Cam 1.
Dyddiad cyhoeddi: 06/12/2024
Dyddiad y penderfyniad: 06/12/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/12/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru